“Plîs, Syr, Gallwn Gael Ychydig Mwy?”: Rhaglen Lywodraethu Cymru

28 Sep 2016

Pan ddatganwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn gohirio ei Raglen Llywodraethu am 100 diwrnod, mi gododd fy nisgwyliadau. Gan gymryd i ystyriaeth y shifft tectonig enfawr yn Brexit, bod arweinyddiaeth newydd yn Llywodraeth y DU, ac yn dilyn y rhifyddeg Cynulliad ei bod ei ddull o bennu penderfyniadau yn gorfod bod yn fwy cynhwysol o’r pleidiau eraill, roedd hyn yn ffordd resymegol ymlaen. O ystyried yr amser dros yr haf bydded rhywun yn disgwyl ymateb manwl, gyda gweledigaeth gynhwysfawr a ffordd ymlaen a fyddai'n cynhyrchu dogfen fanwl a chlir. Byddai hefyd yn caniatáu i’r gwrthbleidiau, cymdeithas sifil, arweinwyr busnes a dinasyddion cyffredin i graffu a chael dylanwad ar y rhaglen, a rhoi’r modd i bobl asesu a beirniadu os yw Llywodraeth Cymru yn deilwng i lwyddo yn etholiadau nesaf y Cynulliad.

Gyda fy nisgwyliadau mor uchel, efallai fod 'Symud Cymru Ymlaen' wastad am fod yn siom, o'i deitl ymlaen. Er hynny, mae'r ddogfen 16 tudalen (gan gynnwys ei glawr) yn ymddangos yn gawl heb gig, dyfrllyd braidd. Mae sylwebwyr cymdeithas sifil eraill wedi asesu’n fedrus y diffyg manylder, ac mae teitlau’r erthyglau sy’n dilyn 'geiriau Cynnes ac ychydig mwy', 'Rhaid gwneud yn well' yn rhoi blas o’r ymateb cyffredinol. Er bod cymdeithas sifil i fod yn y busnes o graffu a chwestiynnu y Llywodraeth, mae'n debygol y byddai'n well gan sylwebyddion drafod dogfen sy'n caniatáu ymateb i gynigion manwl, yn hytrach na galaru gwag dros ddiffyg sylwedd. Am enghreifftiau o raglenni manwl gallwn edrych ar y weinyddiaeth leiafrifol arall yn yr Alban, neu raglenni tebyg fel Ninas Efrog Newydd, sy'n darparu digonedd o gig i’r gweithiwr polisi wledda arno (pe bai hynny yn cytuno neu'n anghytuno â’r Llywodraeth).

Fell wnaiff unryw Drydarydd ddweud wrthych, nid yw maint ynddo'i hun yn arwydd o ansawdd; ond fel gyda Trydar gall fod yn arwydd o ddiffyg manylder, ac mae ERS Cymru gyda record o ddadlau bod o bryd i gilydd o leiaf, Mae Maint yn Cyfrif! Ond nid y Rhaglenni eraill manwl a llawn data yw'r unig fodel, wrth gwrs. Yn ei ddatganiad, fe wnaeth  y Prif Weinidog yr achos dros yr amddiffyniad gan ddadlau fod hon yn ddogfen strategol sy'n caniatáu lle i symud gan ystyried yr ansicrwydd yn dilyn Brexit a'r stormydd gwleidyddol i ddod. Mae hefyd yn caniatáu mewnbwn gan y pleidiau eraill. I amddiffyn Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg fod yna fframweithiau strategol y maent yn gweithredu arnynt, a byddai unrhyw Weinidog yn siwr o bwyntio tuag at (ac yn wir wedi gwneud ad nauseam) y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae rhywfaint o deilyngdod i'r achos hwn ar gyfer Llywodraeth ystwyth. Mae’n bosib y gall dogfen 16 tudalen fer ddarparu trosolwg o ymarfer Llywodraeth Cymru, gan eu clymu i weledigaeth gadarnhaol o ble gall Gymru fod mewn 5 mlynedd. Ond nid cyfres o restri polisïau mympwyol yr olwg a dyheadau amwys yw’r ddogfen honno. Mae'n rhoi cyfle i ddarparu triosolwg o ddogfennau fel yr agenda Cenedlaethau'r Dyfodol a'i wneud yn fwy ddealladwy i ddinasyddion. Gall wneud hyn drwy ddadlau dros yr hyn y mae'n ceisio ei wneud, a sut y mae am wneud hynny. Gall felly ddarparu arweiniad clir i ddinasyddion, cymdeithas sifil, busnes, a gwrthbleidiau i graffu a rhoi mewnbwn i lunio polisïau. Serch hynny, nid yw'r ddogfen hon yn darparu’r weledigaeth strategol hon - mae'n darparu rhestr amrywiol o bolisïau (yn aml rhai canmoladwy) a llawer o ddyheadau amwys (ac mae hyd yn oed cefnogwyr y Llywodraeth wedi dadlau bod diffyg 'gwerthoedd Llafur' yn y ddogfen).

Felly pam mae hyn yn bwysig? Dyma rhestr byr, anghyflawn, o’r arwyddocâd a chanlyniadau ehangach:

Craffu a Mesur – Mae yna ddyheadau ( 'hyrwyddo Twf Gwyrdd', 'yn darparu cymorth', 'gwaith tuag at') na all y rhan fwyaf ohonom anghytuno â hwynt, sy’n dod heb fanylion am y dehongliad o'r hyn mae’r cysyniadau’n ei olygu i Lywodraeth Cymru, na sut y caiff ei gyflawni. Nid ydynt felly yn caniatáu unrhyw fodd tystiolaethol i farnu llwyddiant neu fethiant, neu barnu sut mae'r polisi yn cyd-fynd o fewn gweledigaeth ehangach y Llywodraeth. Yn y pen draw, nid oes llawer o ddata sy'n awgrymu sut y daeth Llywodraeth Cymru at ei rhestrau o bolisïau ar gyfer tymor y Cynulliad ychwaith.

Cydweithio a llunio polisïau - Er i’r Prif Weinidog amddiffyn y ddogfen o ran caniatáu i eraill yn y siambr i gyfrannu at bolisïau, mae’r ddogfen hon yn ymddangos naill ai fel gwahoddiad i eraill i lenwi dudalen lled-wag, neu fel gwahoddiad i fodd gaeedig o lunio polisi y tu allan i'r rhaglen gyhoeddus ei hun. Mae'r opsiwn olaf yn ddrwg am resymau amlwg. Ond nid yw tudalen wag yn arbennig o ddefnyddiol chwaith. Mae gan gwrthbleidiau a chymdeithas sifil yng Nghymru adnoddau cyfyng, ac mae hyn yn gofyn am eglurder fel y gallant weithio a llunio polisïau sy’n ffocysu ar yr hyn a fydd yn gallu cael effaith ymarferol, lle y gallant newid rhywbeth maent yn ei weld yn anghywir (ac felly yn darparu cynllun B), a chyfeiriad clir o lle i weithio tuag at er budd y cyhoedd, eu cleient, neu eu buddiannau. Mae rhaglen sy’n amlygu hynny yn caniatáu ymateb cadarnhaol gan y ni sydd y tu allan i Lywodraeth. Fel ag y mae, mae diffyg arweiniad gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach nag agor posibiliadau, yn fwy tebygol o wahodd inertia.

Cyhoeddusrwydd, Llywodraeth a data agored, a llunio polisïau – Mae’r Rhaglenni Llywodraeth eraill a grybwyllyd yma, yn cynnig data manwl sy’n gweithio fel seiliau i’r polisiau y maent yn ei mabwysiadu. Dylai Llywodraeth agored hybu a rhannu’r data hwn ei hun yn gyhoeddus er mwy iddo gael ei gwestiynu a’i graffu, ac i arbenigwyr (ac amaturiaid)  ddarparu mesurau eraill posibl ac i bwyntio at faesydd lle mae diffyg data (sy'n broblem neilltuol yng Nghymru). Mae hyn eto yn ychwanegu at graffu ac i ganiatáu am ddewisiadau eraill (neu Cynllun B). Mae amwysedd yn cuddio yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ymarferol, neu yn awgrymu eu bod yn ansicr, ac unwaith eto mae hyn yn gwneud mewnbwn polisi o’r tu allan yn anodd.

Gwleidyddol: Yn ei blog, mae Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig Jess Blair yn tynnu sylw at y diffyg mesurau a ddarperir fel rhywbeth â mantais wleidyddol Llywodraeth Cymru, gan eu galluogi i hawlio llwyddiant mewn 5 mlynedd gyda ychydig iawn o dystiolaeth. Mae yna ochr arall i hyn, oherwydd mewn democratiaeth efallai na fydd Llywodraeth yn cael ei ffordd ei hun o hyd. Heb ddarparu dangosyddion a mesurau eu hunain, neu naratif dda ar gyfer eu llwyddiant, mae’r Llywodraeth mewn perygl o ganiatáu gofod mawr i eraill i ddarparu'r mesuriadau data, ac i’w fframio yn eu lle. Yn ogystal â bod er budd ‘ni’ sydd y tu allan i lywodraeth i gael dogfen gliriach, byddwn yn awgrymu y byddai’n fanteisiol yn y tymor hir i Lywodraeth Cymru, gan hybu hygrededd a gweledigaeth, ac o bosib rhoi fwy o reolaeth dros ei berfformiad etholiadol yn y dyfodol yn ei ddwylo ei hunan.

Mae'n debygol mai amacanion y Rhaglen hon oedd y rhai a amlinellwyd gan y Prif Weinidog - ond os felly, ni all hwn fod y ddogfen derfynol.  Mae'n ddigon posib fod y rhestr hon o bolisïau o maniffesto LLafur, gyda consesiynau a wnaed i'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, wedi dod i fodoli drwy gymryd y llwybr saffaf ddiwrthwynebiad.

Os felly, o ystyried maint yr heriau a'r angen i bob sector yng Nghymru i weithio tuag at y canlyniad gorau posibl gan defnyddio pob cyfle i Gymru mewn cyfnod ansicr, dylai’r Rhaglen hon fod yn gyflwyniad agoriadol, ac nid y bennod olaf. Byddwn yn adleisio gobaith sylwebwyr eraill fod hwn yn safle drosdro gan aros am raglen fwy cynhwysfawr. Edrychaf ymlaen at ddarllen y bennod nesaf, neu, fel y dywedwyd am gawl dyfrllyd braidd ei olwg arall: “Plîs syr, gallwn gael ychydig mwy?”

Add new comment

Tags:
0 Comments