Cyfnod Newydd i ERS Cymru

17 Mar 2017

Wrth iddi ymuno â ERS Cymru, mae Jess Blair yn nodi'r heriau a'r cyfleoedd i ddyfnhau democratiaeth Cymru

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae’r tirlun wleidyddol wedi newid yn sylfaenol dros y byd. Rydym wedi gweld y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â Llywydd Trump a dau etholiad yng Ngogledd Iwerddon. Tedyd eleni ddim yn debygol o fod yn llai cyffrous gydag etholiadau ar draws Ewrop a dadl gyfansoddiadol adfywiol sy'n debygol o arwain at refferendwm arall yn yr Alban.

Gyda chymaint yn digwydd yn fyd-eang, mae'n hawdd colli beth sy'n mynd ymlaen yn lleol. Ond mae newidiadau sylfaenol yng Nghymru ar ddod, sydd yn dod â llu o gyfleoedd a heriau newydd.

Mae'r ychydig fisoedd cyntaf y flwyddyn hon yn arbennig wedi gosod y seiliau ar gyfer diwygio'r ffordd y mae pethau'n gweithio yng Nghymru.

Yn gyntaf, pasiwyd Deddf Cymru, fydd yn dod â phwerau newydd i Gymru dros ei etholiadau a'r cyfle i gynyddu maint y Cynulliad, a chyflwyno Pleidlais yn 16 oed.

Yna, ar ddiwedd mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bapur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol yn nodi cynlluniau ar gyfer newid etholiadau yng Nghymru ar lefel awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys cynnig bod awdurdodau lleol yn gallu dewis o ddefnyddio'r system Cyntaf i’r Felin neu'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Ar ben hynny, mae'r Papur Gwyn hefyd yn cyflwyno'r syniad y gall etholiadau gael eu cynnal wahanol yng Nghymru, gydag adolygiad o weithdrefnau pleidleisio drwy'r post, y defnydd o drwy'r post yn etholiadau, pleidleisio electronig, cyfrif electronig o bleidleisiau, pleidleisio mewn mannau ar wahân i orsafoedd pleidleisio, a chynigion i gynnal etholiadau ar wahanol ddiwrnodau i gyd ar yr agenda.

Gallai hyn rhoi’r signal fod Llywodraeth Cymru yn agored i syniadau newydd a bod Cymru yn arloeswr am ffyrdd arloesol o gynnal etholiadau a allai apelio at set lawer ehangach o bleidleiswyr.

Er gwaethaf y camau enfawr hyn yn eu blaen nid oes unrhyw sicrwydd y bydd rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu democratiaeth yng Nghymru yn cael eu hateb. Er bod y sylfeini wedi'u gosod, mae gweithredu ar hyn nawr yn angenrheidiol.

Mae cynyddu cynhwysedd y Cynulliad yn hanfodol bwysig, yn enwedig o ystyried y golled sydd ar fin digwydd o 11 o'n ASau gyda newidiadau i ffiniau gan yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Gyda phwerau newydd a'r angen i gamu i fyny at y newidiadau y bydd yn dod â Brexit, nid yw’r nifer presennol o Aelodau'r Cynulliad yn ddigonol. Newid mae angen cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad a gallai fod yn wleidyddol anodd. Bydd ERS Cymru yn gweithio'n galed i hybu achos dros gapasiti mwy ar gyfer y Cynulliad yn dilyn ein hadroddiad diweddar â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, Ail-lunio y Senedd.

Byddwn hefyd yn cadw llygad barcud ar yr etholiadau lleol sydd ar y gweill yng Nghymru. Ar Fai 4ydd bydd seddi cyngor ar draws Cymru yn cael ei herio. Ond gyda dim ond 38.6% a bleidleisiodd yn gyffredinol yn 2012 a 9% o seddau gydag dim ond un ymgeisydd, mae'r pwysau arnom i sicrhau etholiad yn fwy apelgar a thecach na’r hyn fydd yn cael ei ddfenyddio mewn deufis. Os nad ydych eisoes yn cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol, gallwch wneud hynny yma.

Gyda cymaint o newid yn digwydd yn y trefniadau llywodraethu Cymru ni fu adeg fwy hanfodol ar gyfer ERS Cymru. Rydw i mor gyffrous i fod yn ymuno â'r tîm ac adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed gan Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru ers 2011.

Mae yna gyfle gwirioneddol i'r ERS yng Nghymru i greu newid a gwella'r ffordd y caiff Cymru ei lywodraethu. Drwy gynnwys mwy o bobl mewn ffordd decach, gall Cymru ffynnu. A mae ERS Cymru yn bwriadu chwarae rhan allweddol i wireddu hynny.

Add new comment

0 Comments