Hefyd ar gael yn: English
ERS Cymru team photo

ERS Cymru

ERS Cymru yn gweithredu ar gynsail syml – gall gwleidyddiaeth fod yn well nag ydyw. Rydym yn ymgyrchu dros well democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU.

ERS Cymru, Bae Caerdydd/ Cyfres 5, Platform, Ffordd Hemingway, Caerdydd, CF10 5LS

Ein gweledigaeth yw democratiaeth gynrychiadol sy'n addas at yr 21ain ganrif. Rydym yn gwybod bod pob blwyddyn sy'n mynd heibio, gyda'n system wleidyddol o'r oes stêm yn dal i fodoli, yn gyfle wedi'i golli i bobl Cymru. Mae'r adeg hon yn bwysicach i ni nag erioed wrth i bwerau dros etholiadau ddod i Gymru yn 2018, a rhoi cyfle euraidd i ni greu newid gwirioneddol.

Dyddiad a gyhoeddwyd
17/11/23
Cyflwyniad ar gyfer

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff...

Math
ERS Cymru
Dyddiad a gyhoeddwyd
02/11/23
Cyflwyniad ar gyfer

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac...

Math
ERS Cymru

Tîm ERS Cymru

Jess Blair
Jessica Blair
Cyfarwyddwr, ERS Cymru

Ymunodd Jess Blair ag ERS fis Mawrth 2017. Jess oedd Rheolwr Polisi a Phrosiectau Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod amlwg yng Nghymru. Roedd hi'n Gyfarwyddwr Dros Dro yn ystod 2016 hefyd. Cyn hynny, roedd Jess yn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ysgrifennu polisïau ar gyfer plaid wleidyddol. Hefyd, roedd hi'n arfer gweithio ym Mrwsel gyda llywodraethau rhanbarthol ynghylch polisïau dysgu am oes. Mae gan Jess radd feistr mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mat Mathias
Matthew Mathias
Swyddog Ymgyrchoedd a Phrosiectau

Mae gan Mat 15 mlynedd a mwy o brofiad o gyfathrebu ac ymgyrchu. Cyn hynny, roedd ganddo rolau yng Nghymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
Hefyd, mae wedi gweithio mewn sawl rôl amrywiol ar gyfer plaid wleidyddol ar lefel Ewropeaidd, cenedlaethol ac awdurdod lleol. Mae'n ysgrifennu'n achlysurol ar gyfer y cyhoeddiadau ar-lein Click on Wales a'r Wales Arts Review.

Nia Thomas
Dr Nia Thomas
Swyddog Ymchwil ac Ymgyrchoedd

Ymunodd Nia ag ERS ym mis Mehefin 2020, ac mae ei rôl yn cynnwys darparu tystiolaeth gadarn ac ymchwil i gefnogi ein hymgyrchoedd yng Nghymru. Mae hi'n ymchwilydd a chyfathrebwr profiadol sydd wedi gweithio ar draws ystod eang o feysydd gan gynnwys bioleg a gwleidyddiaeth. Mae ganddi PhD o Brifysgol Caerdydd mewn cadwraeth fiolegol ac mae wedi dal swyddi yn y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Ymchwil Amgylchedd Cymru yn y gorffennol.