Adeiladu Cynulliad Cenedlaethol Cryfach ( “Ni mynd i fod angen cwch mwy…”)
O ystyried y swnami sydd wedi siglo ein gwleidyddiaeth y flwyddyn hon, gall ymddangos yn amser anffodus i drafod yr angen am fwy o Aelodau Cynulliad. Mewn blwyddyn o sioc a rhethreg poblyddol, mae’r galw am fwy o ACau yn un anodd, ac i lawer yn ddyfroedd dwfn, peryglus iawn.
Ond mae hefyd yn angenrheidiol. Mae’r hinsawdd gwleidyddol wedi newid, gan wneud yr her o sicrhau y gall y Cynulliad lywio drwy’r culfor newydd yr ydym ynddynt yn fwy difrifol. Gyda throsglwyddo pwerau UE sylweddol yn debygol, a chyfrifoldebau dros ystod llawer ehangach o faterion, megis amaethyddiaeth, ynni neu bysgodfeydd, mae’r ddadl dros Gynulliad mwy o faint a mwy effeithiol yn unig wedi dod yn fwy angenrheidiol fyth.
Mi oedd y ddadl hwn yn gywir dair blynedd yn ôl, pan cyhoeddwyd ein astudiaeth gynhwysfawr o sut mae’r Cynulliad yn fach o’i gymharu â chyrff tebyg yn ryngwladol – a sut mae peidio a chael digon o aelodau yn creu anhawsterau enfawr wrth ddatblygu craffu digonol o Weinidogion a deddfwriaeth, gydag ACau eu gwasgu ar draws nifer o bwyllgorau gwahanol.
Ond gyda Brexit, yn ogystal â phwerau treth newydd, nid ydym yn jyst angen pawb i helpu i lywio’r llong drwy’r corwynt – mae hefyd angen mwy o griw i ddelio â’r cyfleoedd llunio polisïau newydd mae’r newidiadau seismig o’r fath hyn yn agor.
I wneud hynny bydd angen cwmpawd dibynadwy. Mae ein hadroddiad, Ail-lunio’r Senedd, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng Electoral Reform Society Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, yn cynnig ffordd clir ymlaen.
Mae pwerau trethu newydd, a’r posibilrwydd o bwerau ychwanegol o Ewrop yn gwneud yr achos dros Gynulliad mwy o faint, wedi’i hethol yn deg, yn gryfach nag erioed. Gan fod cymaint bellach yn cydnabod yr angen am Gynulliad sy’n fwy effeithiol ac atebol, mae Ail-lunio’r Senedd yn symud o’r ‘pam’ at y ‘sut’: Ffyrdd ymarferol i ddod at Gynulliad mwy, mwy effeithiol.
Gyda Bil Cymru, mae’r Cynulliad yn mynd i gael y pŵer i newid ei faint a’i system bleidleisio – ond dim ond gyda chefnogaeth dwy ran o dair o ACau.
Mae hyn yn golygu bod angen cytundeb trawsbleidiol. Dyna sut y dylai fod: mae newidiadau i reolau’r gêm yn gofyn am fath gwahanol o drafodaeth tu hwnt i wleidydda pleidiol.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig egwyddorion clir a dull ymarferol i gael dadl hirben a chadarnhaol am sut y gallwn lunio Cynulliad sy’n gweithio’n well i bleidleiswyr a hybu gwell wleidyddiaeth i Gymru.
Rydym yn dethol yr egwyddorion canlynol fel y rhai o bwys i system bleidleisio da:
1. Cyfranoldeb: Dylai system etholiadol newydd fod yn debygol o gynhyrchu canlyniadau nad ydynt yn llai cyfrannol na’r rheini a gynhyrchir gan y system bresennol, ac yn ddelfrydol yn fwy cyfrannol na’r system gyfredol.
2. Symlrwydd a Chyd-ffinio: Cyhyd ag y bo’n bosibl, dylai ffiniau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol fod yn cyd-ffinio ag eraill (efelychu ffiniau San Steffan er enghraifft). Mae hyn yn ei gwneud yn symlach i bleidleiswyr ac i’r pleidiau.
3. Cynaladwyedd a Sefydlogrwydd: Dylai unrhyw system etholiadol ddiwygiedig fod yn gynaliadwy. Ni ddylai fod angen ei newid yn sylfaenol eto yn y dyfodol agos. Gallai hyn olygu hefyd bod ei bod yn hyblyg a bod modd ei haddasu gyda mân newidiadau fel bo angen.
4. Consensws eang: Dylai penderfyniadau ar ‘reolau’r gêm’ etholiadol bob amser fod wedi’u seilio ar gonsensws mor eang â phosibl; dylid sicrhau nad yw pleidiau unigol yn gallu newid systemau etholiadol er budd pleidiol.
5. Mandadau Cryf a Chyfartal: Dylai fod gan yr holl Aelodau Cynulliad fandadau clir a chyfartal; os yw’r mandadau’n wahanol ni ddylid cael unrhyw ymdeimlad bod rhai cynrychiolwyr yn ACau ‘ail ddosbarth’.
6. Cynrychioldeb: Cyhyd ag y bo’n bosibl, dylai’r system etholiadol gynhyrchu corff o gynrychiolwyr sy’n adlewyrchu’r etholwyr, yn nhermau hil, rhywedd, anabledd, crefydd, oed, dosbarth cymdeithasol, ac amrywiaeth barn.
7. Cefnogaeth sylweddol: Dylai etholiad i’r Cynulliad Cenedlaethol olygu lefel sylweddol o gefnogaeth gyhoeddus; dylai’r trothwy effeithiol ar gyfer etholiad adlewyrchu hyn.
Gan nad oes system berffaith sy’n bodloni pob egwyddor yn llawn, mae hyn am gael y cydbwysedd iawn ar draws y gwahanol anghenion hyn. Rydym yn gwybod y bydd y pleidiau yn dod at hyn o safbwyntiau gwahanol, felly gall Ail-lunio’r Senedd yn cael ei ddefnyddio fel sail difrifol ar gyfer adeiladu’r tir cyffredin sydd eu hangen i symud democratiaeth Cymru yn ei flaen.
Serch hynny, mae’r adroddiad yn canfod nifer o systemau gwbl anaddas ar gyfer ystyriaeth ddifrifol, naill ai o ganlyniad i broblemau sylweddol wrth eu mesur yn erbyn yr egwyddorion uchod, neu’r ffaith eu bod yn annhebygol o gyrraedd y lefel angenrheidiol o gonsensws. Mae’r rhain yn cynnwys y sytem Cyntaf i’r Felin a ddefnyddir i etholiadau San Steffan, y Bleidlais Amgen, system ‘Fwyafrifyddol Aelod Cymysg’, ac fersioynau o’r system AMS bresennol megis rah fyddai’n defnyddio Rhestr Genedlaethol yn lle rhai Rhanbarthol. Doeed dim un o’r rhain yn bodloni’r meini prawf i gael Cynulliad mwy i weithredu’n effeithiol ac yn ddemocrataidd.
Rydym yn argymell dau opsiwn:
• Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) – 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod
• Rhestr Agored – 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod
Mae addasu’r System Aelodau Ychwanegol (AMS) presennol hefyd yn opsiwn credadwy, ond yn llai hyblyg.
Rydym yn cydnabod bod cydbwyso’r egwyddorion yma yn golygu hynny’n union – mae’n fater o gydbwyso. Bydd gwahanol grwpiau yn pwyso a mesur yr egwyddorion yn wahanol. . Fodd bynnag, mae rhyw fath o dir cyffredin i gynnal trafodaethau yn hanfodol i ganiatáu lle i drafod y ‘rheolau y gêm’ i ddigwydd ac i fynd y tu hwnt – neu o leiaf i liniaru ar – buddiannau pleidiol.
Mae’r fframwaith hwn yn rhoi yr offer i bleidiau o bob lliw a llun i symud ymlaen ar sail drafodaeth rhesymegol sy’n rhoi lles democratiaeth Cymreig cyntaf – o ran system bleidleisio deg, ac o ran sicrhau bod gan y Cynulliad y gallu i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif am y penderfyniadau sydd o’n blaenau.
Mae’r llanw gwleidyddol wedi newid. P’un a ydych o’r farn ei bod yn darparu cyfleoedd newydd i’r Cynulliad i olrhain ei chwrs ei hun, neu o’r farn ein bod yn mynd i mewn i ddyfroedd peryglus, mae un peth yn glir. Fel y dywedodd Roy Schneider yn ei lein enwog yn Jaws: “We’re gonna need a bigger boat.”
Mae “Ail-lunio y Senedd: Sut i ethol Cynulliad Cenedlaethol yn fwy effeithiol” yn adroddiad ar y cyd gan Electoral Reform Society Cymru a Canolfan Llywodraethiant Cymru. Ysgrifennwyd gan yr Athro Roger Scully a Dr Owain ap Gareth. Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad llawn yma.