Hefyd ar gael yn: English

Ail ymgynghoriad Cymru’n cefnogi STV wrth i bron i ddwy ran o dair o drigolion Powys ddangos eu bod o blaid

Author:
Tom Abraham, Communications and Research Assistant

Wedi'i bostio ar y 15th Hydref 2024

Daeth mwy o newyddion gwych allan o Gymru’r wythnos ddiwethaf, wrth i Gyngor Sir Powys ryddhau canlyniadau eu hymgynghoriad ynghylch a ddylid newid y system bleidleisio a ddefnyddir mewn etholiadau lleol. Doedd y canlyniadau ddim hyd yn oed yn agos. Fel yng Ngwynedd, y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) oedd y ffefryn amlwg ymysg trigolion Powys.

Roedd 60.2% o’r ymatebwyr yn ffafrio STV dros y system Cyntaf i’r Felin bresennol. At hynny, cafodd yr ymgynghoriad hwn gyfradd ymateb llawer uwch nag eraill, gyda bron i 1,300 o bobl yn rhannu eu barn. Mae hyn yn dangos yn glir bod pleidleiswyr wir yn teimlo’n gryf am yr angen i wneud ein hetholiadau yn decach.

Ni ddylai hyn fod yn syndod. Cafodd dros 10,000 o bleidleiswyr ar draws Powys eu lleisiau wedi’u tawelu yn etholiad lleol 2022, gan mai dim ond un ymgeisydd oedd yn sefyll yn eu wardiau. Ym Machynlleth, roedd etholiad 2022 yn nodi’r tro cyntaf ers dros 40 mlynedd i drigolion allu bwrw pleidlais mewn etholiad lleol, gan fod pob etholiad yn y ward wedi bod yn ddiwrthwynebiad ers 1980.

Gan farnu yn ôl yr ymateb, nid yw trigolion Powys yn teimlo eu bod yn byw mewn democratiaeth arbennig o iach.

Mae trigolion Powys am weld newid

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dangos yn glir yr hyn y mae pobl Powys ei eisiau. Gyda llai na thraean o ymatebwyr yn cefnogi’r system y Cyntaf i’r Felin, mae’n amlwg bod pleidleiswyr wedi cael llond bol ac eisiau newid.

Ers llawer rhy hir, mae system y Cyntaf i’r Felin wedi difetha ein hetholiadau. Mae wedi atal rhai trigolion rhag pleidleisio, ac mae wedi meithrin amgylchedd gwleidyddol sy’n ffafrio pleidgarwch dros gydweithio.

Mae’n amlwg bod trigolion Powys am weld newid, ac maent yn gallu gweld y gall STV fod y newid hwnnw.

Nawr, mater i gynghorwyr yw cynrychioli eu hetholwyr mewn cyfarfod cyngor arbennig ddydd Iau yma. Gyda’r angen i ddwy ran o dair o gynghorwyr bleidleisio dros basio’r newid hwn, rydym yn eu hannog i bleidleisio gydag ewyllys y bobl mewn golwg a dweud ie i STV.

Ychwanegwch eich enw: Dylai pob cyngor yng Nghymru fabwysiadu system bleidleisio decach

Darllen mwy o bostiadau...