Hefyd ar gael yn: English

Cyfle i gynnal etholiadau lleol Cymru’n wahanol

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 26th Hydref 2017

Er y cafwyd heriau wrth i Ddeddf Cymru basio yn gynharach eleni, mae’r ddeddfwriaeth yn golygu y caiff detholiad o bwerau newydd eu datganoli i Gymru yn fuan, gan gynnwys y rheiny dros etholiadau.

 Yn y bôn, bydd hyn yn rhoi cyfle i Gymru gynnal etholiadau’n wahanol, i newid y ffordd maent yn gweithio er mwyn cynyddu nifer y pleidleiswyr ac i wneud i bobl deimlo bod cymryd rhan yn y broses wleidyddol yn werth chweil.

Mae annog pobl i bleidleisio wedi bod yn her yn benodol yn etholiadau Cymru. Er y cafwyd cynnydd o 3% yn nifer y bobl a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol fis Mehefin, sef cyfanswm o 68.6%, mae nifer y pleidleiswyr yn etholiadau’r Cynulliad ac mewn etholiadau lleol wedi bod yn gyndyn o isel. Fis Mai llynedd, aeth 45.3% o’r bobl a gofrestrodd i bleidleisio i’w gorsaf leol i fwrw eu pleidlais ym mhumed etholiad y Cynulliad, ond fis Mai eleni, dim ond 42.3% o bleidleiswyr a gymerodd ran yn yr etholiadau cyngor ledled Cymru.

Nid cyfranogi mo’r unig broblem gyda’n hetholiadau. Yn yr etholiadau lleol eleni, bu 92 o seddi’n ddiwrthwynebiad a gwelsom nifer syfrdanol o isel o fenywod yn ymgeisio, a olygodd fod nawr gennym ddau awdurdod lleol heb yr un fenyw o gwbl yn eu cabinet.

Mae meddu ar bŵer dros etholiadau’n rhoi cyfle i ni fynd i’r afael â’r problemau hyn ac mae’r arwyddion cynnar yn addawol.

Fis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadau lleol yng Nghymru, tra bod panel arall yn ymchwilio’n benodol i faterion sy’n ymwneud â’r Cynulliad.

Caewyd yr ymgynghoriad ar lywodraeth leol yr wythnos hon wedi cyfnod eang o gyfranogi ac mae ERS Cymru wedi treulio’r misoedd diwethaf yn datblygu ein hymateb llawn – cewch ei ddarllen yma.

Cynigiodd y ddogfen ymgynghori ei hun gyfres o opsiynau a allai arwain at ddiwygio mawr yn y ffordd y caiff etholiadau lleol eu cynnal yn y dyfodol. Ymhlith y rhain oedd pleidleisiau’n 16 oed, pleidleisio electronig a chynrychiolaeth gyfrannol.

O ran ymateb ERS Cymru, roedd yn braf iawn gweld cymaint o gefnogaeth o blaid lleihau’r oedran pleidleisio i 16. Mae’n bosibl bod pobl 16 ac 17 oed yn cyfranogi’n fwy nag erioed, ac eto, fel yn Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, cânt eu gwrthod barn ar eu dyfodol. Mae ein prosiect ‘Lleisiau Coll’ wedi bod yn teithio ledled Cymru yn ddiweddar i siarad ag amrywiaeth eang o bobl ynglŷn â sut maent yn teimlo am wleidyddiaeth ac etholiadau. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan frwdfrydedd y bobl 16 ac 17 oed rydym wedi siarad â nhw ynglŷn â’r mater hwn ac rydym o’r farn na ellid estyn yr oedran pleidleisio ar adeg well.

Hefyd, yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, cafwyd manylion sawl ffordd o bleidleisio, gan gynnwys y posibilrwydd o bleidleisio ar ddyddiau gwahanol ac mewn llefydd gwahanol. Rydym yn gwybod bod cyrraedd gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau lleol yn broblem. Fel y sonir amdano yn ein hymateb llawn, mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu, mewn etholiadau lleol (yn hytrach nag etholiadau cyffredinol), po bellaf rydych yn byw o orsaf bleidleisio, y lleiaf tebygol rydych o bleidleisio. Canfu astudiaeth o bleidleiswyr ym Mwrdeistref Brent yn Llundain gan yr arbenigwr cynllunio Orford a’r arbenigwyr ar etholiadau llywodraeth leol Rallings & Thrasher, y gellid cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio cymaint â 5 y cant drwy leoli gorsafoedd pleidleisio’n ofalus. Dangosodd yr astudiaeth fod y nifer sy’n mynd ati i bleidleisio mewn etholiadau lleol i’w gweld yn disgyn yn sylweddol unwaith y caiff gorsafoedd pleidleisio eu symud fwy na 600m o’r pleidleiswyr.

Mae’n bosibl y gallai’r opsiwn o bleidleisio mewn mwy nag un orsaf bleidleisio neu leoliad newid y gêm i bleidleiswyr. Y diben yma yw sicrhau bod etholiadau’n fwy hygyrch ar gyfer anghenion pleidleiswyr yn yr oes fodern, a byddai’r posibilrwydd o bleidleisio lle bynnag sydd haws i chi yn siŵr o olygu y bydd pleidleisio’n fwy cyfleus a phosibl i lawer o bleidleiswyr. Wrth gwrs, gallai hyn fod yn anodd mewn etholiadau lleol, lle mae wardiau yn aml yn llawer llai mewn ardaloedd dinesig, ond rydym o blaid hyn mewn egwyddor ac yn gobeithio y gellir rhoi sylw i’r goblygiadau ymarferol.

Un maes o’r ymgynghoriad rydym wedi bod yn ofalus ag ef yw’r newid arfaethedig ym model cynrychiolaeth gyfrannol ‘oddefol’ systemau etholiadol. Byddai hwn yn arwain at wahanol systemau pleidleisio ar gyfer yr un etholiadau ledled Cymru a chredwn y byddai hynny’n gymhleth iawn ac yn gostus i’w gweinyddu ac y byddai’n cymhlethu pethau i bleidleiswyr. Dyma gyfle delfrydol i newid ein system bleidleisio ar raddfa eang, o system y Cyntaf i’r Felin (CiF) i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (PSD) fwy cyfrannol. Yn etholiad mis Mai, nid oedd gan bron 130,000 o bleidleiswyr unrhyw ddewis, gan nad oedd cystadleuaeth am 92 o seddi yng Nghymru. Yn yr etholiad PSD cyntaf yn yr Alban, cynyddodd nifer yr ymgeiswyr ar gyfartaledd ym mhob ward o 3.4 yn 2003 dan CiF i 7.1. Dan PSD, bu cynnydd mawr yng nghanran y bobl a welodd eu dewis cyntaf o ymgeisydd yn cael ei ethol o 52% yn 2003 i 77% yn 2012.

Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n cydnabod y dystiolaeth o blaid PSD a’r cyfle i greu’r newid sylweddol hwn yn y ddeddfwriaeth hon.

Ond yn gyffredinol, credwn fod gan y newidiadau arfaethedig hyn gyfle i fynd i’r afael â rhai o’r heriau enfawr sy’n wynebu Cymru o ran etholiadau. Nid yw’r ffaith nad yw’r mwyafrif helaeth o bobl yn cymryd rhan o gwbl yn yr etholiadau agosaf at gartref yn ddigon da. Mae canlyniadau’r etholiadau hyn yn effeithio ar ein bywyd pob dydd, o bolisïau iechyd ac addysg, i ba mor aml y caiff y biniau eu casglu, i’r terfyn cyflymder yn eich strydoedd lleol.

A fydd y newidiadau hyn yn newid y problemau hyn yn gyfan gwbl? Na fyddant, ond maent yn fan cychwyn da.

Darllen mwy o bostiadau...