Hefyd ar gael yn: English

Cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad yn crebachu

Author:
Electoral Reform Society,

Wedi'i bostio ar y 25th Ebrill 2016

Yn gyffredinol, mae amrywiaeth mewn Seneddau ar y cynnydd ar draws y DU a’r byd.

Ond mae’n bell o fod yn anochel – a mae gwneud ein sefydliadau adlewyrchu’r cyhoedd maent yn eu cynrychioli yn waith caled.

Felly mae’n anffodus i ddod a newyddion drwg. Dros y penwythnos mi gyhoeddodd ERS Cymru ymchwil newydd sy’n dangos bod ar Fai 5ed bydd cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad yn debygol o aros yn ei unfan.

Mae ein hadroddiad, ‘Merched yn y Cynulliad Cenedlaethol’ wedi darganfod ffeithiau arwyddocaol:

• Mae menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o fod yn ymladd seddi sydd ar ‘faes y gad’, a seddi ymylol, yn yr etholiad hwn – mae 10 o’r 11 sydd ar ‘faes y gad’ yn cael eu hamddiffyn gan fenywod, o’i gymharu â seddi etholaethol mwy diogel sydd a tua tri chwarter ohonynt yn cael eu hamddiffyn gan ddynion.

• Mae 15 sedd etholaethol y Cynulliad erioed wedi ennill gan menyw – a 7 sedd ar ôl mis Mai yn debygol o gario ymlaen y record hwnnw o fyth cael fenyw yn AC neu AS.

Yn yr etholiad, mae’n debygol y bydd rhwng 22 (sy’n gwneud i fyny 37% o’r Senedd) a 28 (45%) o ACau benywaidd yn cael eu hethol, sef cyfartaledd o 40%. Mae hyn yn cymharu â’r 25 a etholwyd yn 2011, gan wneud i fyny 42% o’r Senedd. Ac er bod 40% yn well na’r 29% yn San Steffan, mae’n peri pryder i weld y Senedd yn aros yn ei unfan – neu hyd yn oed yn gostwng. Mae hefyd yn cymharu’n wael â’r cyfran o 52% y Cynulliad yn ferched rhwng 2005-2007, neu’r 47% yn 2007-2011.

Rydym yn credu bod Cynulliad amrywiol yn bwysig i wir gynrychioli Cymru ac i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Pan fydd pobl o bob cefndir yn cael eu cynrychioli, rydym yn cael ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau, sy’n cryfhau ein democratiaeth.

Gallwn wneud yn well na hyn – a dyna pam rydym yn galw ar y pleidiau oll i weithredu ar amrywiaeth – gweler ein maniffesto a lawnsiwyd wythnos diwethaf.

Mae’r canfyddiadau hyn yn siomedig. Ond os y cymerid camau gan llywodraeth nesaf Cymru, gallwn gael wleidyddiaeth yng Nghymru sy’n gweithio i ni i gyd.

Wrth gwrs, byddwn ond yn gwybod beth sydd wedi digwydd ar ôl mis Mai y 5ed. Ond os ydym wedi mynd yn ôl neu arafu ar gynnydd, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i wneud rhywbeth am y peth.

Darllenwch ein hadroddiad newydd, 'Menywod yn y Cynulliad Cenedlaethol' yma

Darllen mwy o bostiadau...