Diwygio yn y Senedd a system gyfrannol i lywodraeth leol: wythnos gyffrous i ddemocratiaeth Gymru

Posted on the 3rd February 2017

Wrth i’r byd wleidyddol gael ei dynnu oddi ar ei hechel mewn mis cyntaf cythryblus yn 2017, gallai faddau i chi os ydych wedi methu rhai datblygiadau yn agenda diwygio etholiadol yng Nghymru. Cadwch o’n ddistaw, ond ar y cyfan, mae hyn wedi bod yn wythnos hynod arwyddocaol.

Mae yna ddau ddatblygiad sylweddol wedi bod i’n achos – ac yn ganlyniad i ymgyrchoedd tymor hir ERS Cymru.

Yn gyntaf, dydd Mawrth cyhoeddodd y gweinidog dros Lywodraeth Leol, Mark Drakeford, y posiblrwydd y gallai cynghorau lleol ddewis mabwysiadu system STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, ar ôl y llywodraeth rhyddhau eu Papur Gwyn newydd ar Ddiwygio Llywodraeth Leol.

Mae hyn yn symudiad go iawn gan Lywodraeth Cymru ac yn dangos diwygio democrataidd sylweddol. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r achos i Lywodraeth Cymru i gyflwyno STV ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru. Byddai symud i ffwrdd o’r system San Steffan lle mae’r enillydd yn cymryd bopeth yn golygu fod pleidlais pawb cyfrif mewn etholiadau lleol, a diwed ‘dal eich trwyn’ yn y gorsaf pleidleisio.

Wedi’r cyfan, mae ddefnyddio system bleidleisio gyfrannol yn rhan arferol o fywyd i bleidleiswyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau bod pob sedd cyngor yn cael ei herio, a bod pob pleidlais yn cyfrif. Bydd system etholiadol sy’n fwy ymatebol i safbwyntiau pleidleiswyr hefyd yn ymateb yn well i’w hanghenion ar faterion sy’n effeithio pawb bob dydd.

Mae mwy o newyddion da hefyd, wrth i Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi ffurfio Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol, i edrych ar y cwestiwn o nifer yr ACau a pha system bleidleisio i’w defnyddio.

Ers pum mlynedd, mae ERS Cymru wedi cyflwyno achos yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ar gyfer Cynulliad mwy o faint, mwy effeithiol, a chyn y Nadolig, cyhoeddwyd adroddiad allweddol, ‘Ail-lunio’r Senedd’, ar y ffordd orau i sicrhau hynny.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys saith egwyddor system bleidleisio da i’r Cynulliad, ac rydym yn obeithiol y bydd y panel yn edrych ar hwn fel man cychwyn. Maent yn egwyddorion yr ydym yn meddwl y gall pob plaid gytuno arnynt, gan ffurfio tir cyffredin ar gyfer trafodaeth sy’n mynd y tu hwnt i fuddiannau pleidiol.

Yn dilyn ein argymhelliad ar Fil Cymru, byddai unrhyw newid yn gofyn am uwch-fwyafrif o ddwy ran o dair mewn pleidlais yn y Cynulliad, er mwyn sicrhau consensws trawsbleidiol, ac i warchod yn erbyn hunan-les bleidiol.

Ond er ei fod yn bwysig bod consensws yn cael ei gyflawni yn y Siambr Senedd, mae hefyd yn bwysig i ddod â phobl ynghyd ag unrhyw newidiadau. Rydym yn gobeithio i ymrestru eich cymorth yn ystod y flwyddyn yn ein gwaith mewn perthynas â’r materion hyn (byddwn yn cysylltu â chi!).

Yn galonogol, bydd y prosesau hyn hefyd yn edrych ar sut i sicrhau bod Pleidlais yn 16 oed ar gyfer y etholiadau lleol ac etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Yn dilyn esiampl yr Alban, rydym yn credu fod gan hyn y potensial i drawsnewid ymgysylltiad democrataidd  cenhedlaeth newydd o ddinasyddion yng Nghymru.

Felly – cychwyn hynod gyffrous i’r flwyddyn newydd ar yr ochr ddemocrataidd oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ond rydym yn edrych ymlaen at chwarae rhan blaenllwa eto yn yr holl drafodaethau hyn sydd i ddod. Gwyliwch allan amdanym ni!

Read more posts...