Hefyd ar gael yn: English

ERS Cymru 2021 Maniffesto ar gyfer Democratiaeth

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 22nd Hydref 2020

Mewn ychydig dros chwe mis byr, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn mynd i bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd. Bydd yr etholiad hwn yn wahanol mewn sawl ffordd, a disgwylir i lawer o fesurau amgen fod ar waith o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws.

Bydd hefyd yn wahanol o ran y bobl sy’n pleidleisio. Ers yr etholiad diwethaf, mae’r etholfraint wedi’i hymestyn i bobl ifanc 16 ac 17 oed, rhywbeth rydym wedi bod yn ymgyrchu drosto ers amser maith. Mae’r holl ddinasyddion tramor cymwys hefyd wedi cael yr hawl i bleidleisio yn etholiad y flwyddyn nesaf.

Ac eto, er yr holl wahaniaethau hyn, mae rhai pethau’n aros yr un peth. Er gwaethaf y ffaith bod ganddi fwy o bwerau nag erioed o’r blaen gyda’r gallu i ddeddfu ac amrywio treth, bydd gan y Senedd y 60 sedd yn unig y dechreuodd â nhw ym 1999. Bydd hefyd yn etholiad arall sy’n defnyddio’r System Aelodau Ychwanegol, gan ddibynnu’n fawr ar elfen anghymesur y Cyntaf i’r Felin a gan ychwanegu gyda seddi rhestr, sydd wedi cael beirniadaeth hallt dros y pedair blynedd a hanner diwethaf wrth i’r Aelodau newid rhwng pleidiau dro ar ôl tro. 

Nid oes gennym unrhyw sicrwydd ychwaith y bydd yr aelodau a etholir ar ôl yr etholiad yn fwy amrywiol nag ar hyn o bryd. Nid yw’r Senedd erioed wedi cael menyw BAME wedi’i hethol ac er ein holl alwadau i fynd i’r afael â hyn, ynghyd â myrdd o sefydliadau eraill yn dweud yr un peth, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn newid ym mis Mai 2021. 

Prin fod y darlun yn well i lywodraeth leol. Gyda nifer isel yn pleidleisio, system bleidleisio anghymesur a diffyg amrywiaeth amlwg, mae cynghorau’n barod am ddiwygiad. Fodd bynnag, mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi bod yn pwyso am newid gyda’r bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Byddai’r bil, sy’n mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd, yn ymestyn yr hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol, yn rhoi cyfle i gynghorau symud i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ac yn gwneud darpariaethau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Mae’r rhain i gyd yn gamau a newidiadau da rydym wedi bod yn ymgyrchu drostynt ers amser maith, ond megis dechrau yw hyn. Y gwir yw bod angen i ni fynd ymhellach o lawer i sicrhau bod llywodraeth leol yng Nghymru yn gwbl gynrychioliadol o bleidleiswyr.

Y gwir amdani yw bod gan Gymru ddiffyg democrataidd sy’n sail i lawer o’r problemau a welwn yn ein democratiaeth heddiw. Mae’r nifer sy’n pleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru yn unig yn hanesyddol isel, ac mae ein darpariaeth cyfryngau yn gyfyngedig iawn. Er bod cynrychiolaeth y cyfryngau efallai wedi gwella yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym yn dal i wynebu heriau enfawr wrth sicrhau bod newyddion a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn adlewyrchiad cywir i’r bobl sy’n byw yma.

Mae’r holl feysydd hyn yn barod i’w diwygio a dyna pam ei bod yn hanfodol bod pleidiau’n defnyddio’r etholiad hwn i ymrwymo i newid.

Heddiw rydym yn cyhoeddi ein ‘Maniffesto dros Ddemocratiaeth’, sy’n amlinellu’r newidiadau sydd eu hangen ar Gymru i sicrhau bod ein democratiaeth yn cael ei chryfhau i bawb sy’n byw yma.

Ynddo, rydym yn nodi pedair blaenoriaeth ar gyfer diwygio sydd eu hangen arnom gan Lywodraeth Gymru nesaf, ac yn gofyn am ymrwymiadau radical i gyflawni’r heriau hyn ym maniffestos y pleidiau cyn etholiadau 2021: 

  1. Gweithredu argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad  yn llawn. Byddai hyn yn cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i oddeutu 90, ochr yn ochr â gweithredu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda chwota rhywedd integredig. Dylai hyn ddigwydd yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf.
  2. Diwygio llywodraeth leol ymhellach i gynnwys cyflwyno STV yn llawn ar gyfer etholiadau lleol ym mhob awdurdod. Dylai pleidiau hefyd ymrwymo i fesurau pendant i hyrwyddo amrywiaeth, fel cwotâu rhywedd, casglu a chyhoeddi data amrywiaeth, a Chronfa Mynediad at Swyddi Etholedig bellgyrhaeddol i gynnwys cefnogaeth i bobl o set lawer ehangach o gefndiroedd na’r darpariaethau cyfredol. Mae cwotâu, yn benodol, yn hanfodol i sicrhau nad ydym yn parhau i weld niferoedd isel o fenywod yn cael eu hethol mewn cynghorau lleol.
  3. Mabwysiadu offer democratiaeth gydgynghorol mewn prosesau llunio polisi safonol. Defnyddio offer fel cyllidebu cyfranogol a chynulliadau dinasyddion a ddefnyddir yn rheolaidd i fynd i’r afael â diffyg ymgysylltiad mewn cymunedau ac i ddatrys dadleuon gwleidyddol penodol
  4. Ymrwymiad i addysg wleidyddol statudol mewn ysgolion. Rhaid i ni fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd a sicrhau bod pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda llawer mwy o wybodaeth am y system wleidyddol na chenedlaethau blaenorol o ymadawyr ysgol.

 Gyda’i gilydd, byddai’r diwygiadau hyn yn chwyldroi democratiaeth yng Nghymru. Mae’r pedwar maniffesto hyn yn adlewyrchu llais llawer ehangach nag ERS Cymru yn unig, ac fe’u cefnogir gan Golegau Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), Oxfam Cymru, WEN Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig a Chwarae Teg.

Trwy gydol yr ychydig ddyddiau nesaf, byddwn yn archwilio pob un o’r pynciau hyn yn fwy manwl, gan archwilio angen ac effaith bosibl diwygio ym mhob maes.

Rydym ychydig dros 20 mlynedd i mewn i daith ddatganoli Cymru a dyma’r tro cyntaf i ni gael pwerau dros feysydd fel etholiadau. Rhaid i bleidiau fanteisio ar hynny, ymrwymo i’n map ffordd ar gyfer diwygio, a gyda’n gilydd, gallwn adeiladu democratiaeth gryfach i Gymru.

Maniffesto ar gyfer Democratiaeth Etholiad Senedd Cymru 2021

Darllen mwy o bostiadau...