Senedd Cymru

Gyda dim ond 60 o aelodau yn y Senedd, mae democratiaeth Cymru dan bwysau ac mae angen dirfawr am ddiwygio

Hefyd ar gael yn: English

Gyda dim ond 60 o aelodau yn y Senedd, mae democratiaeth Cymru dan bwysau ac mae angen dirfawr am ddiwygio

Diwygio Senedd Cymru

Gyda dim ond 60 o aelodau yn y Senedd, mae democratiaeth Cymru wedi’i gorymestyn. Oherwydd penodiadau i’r Cabinet a swyddogaethau eraill, prin fod gan Senedd Cymru 42 o aelodau’r meinciau cefn ar gael i graffu ar y llywodraeth. Yn syml, nid oes digon o Aelodau Senedd y meinciau cefn i lenwi’r holl seddi ar bwyllgorau a datblygu’r wybodaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt i wneud y gwaith yn iawn. Mae angen mwy o Aelodau Senedd Cymru arnom er mwyn i’n Senedd allu cyflawni’n well ar gyfer pobl Cymru.

Mae ERS wedi bod yn ymgyrchu ers tro i gynyddu maint y Senedd. Cyhoeddwyd ‘Mae Maint yn Bwysig’, ar y cyd â phrosiect Undeb Cyfnewidiol y DU (partneriaeth sy’n cynnwys Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Materion Cymreig) yn 2013, oedd yn esbonio’r achos dros gynyddu nifer ASC o 60 i 100.

Roedd ein hadroddiad yn 2016, Ail-lunio’r Senedd, yn rhoi ystyriaeth i sut gellid ethol yr aelodau ychwanegol hyn. Roedd yn argymell mai’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu fersiwn benodol o’r Rhestr Agored fyddai’n darparu’r sail orau ar gyfer system etholiadol sefydlog a pharhaol ar gyfer Senedd Cymru.

Ers hynny mae galwadau am ddiwygio wedi cynyddu, gyda Phanel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn argymell 80-90 o aelodau, wedi’u hethol drwy’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, gyda mesurau amrywioldeb cryf ar waith.

Cymeradwywyd hyn hefyd gan Bwyllgor o wleidyddion yn 2020, gan gyhoeddi eu hadroddiad Diwygio’r Senedd: y Camau Nesaf.

Mae bellach yn ymddangos fel bod diwygio yn fwy tebygol nag erioed. Yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021, cyhoeddodd Llafur Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad ar ddiwygio’r Senedd fel rhan o’u Cytundeb Cydweithrediad.

Sefydlwyd pwyllgor Seneddol trawsbleidiol ar wahân hefyd i ystyried sut y gellid diwygio’r Senedd.

Ym mis Mai 2022, cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, eu bod wedi cytuno ar ffordd ymlaen o ran diwygio’r Senedd.

Cymeradwywyd y cytundeb hwn gan y Pwyllgor Diben Arbennig ychydig wythnosau’n ddiweddarach yn eu hadroddiad terfynol, “Diwygio ein Senedd: llais cryfach i bobl Cymru”.

Roedd yr adroddiad hwnnw’n argymell:

  • Cynyddu maint y Senedd i 96 o aelodau
  • Newid yn y system etholiadol i Gynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Gaeedig
  • Cwotâu rhywedd integredig
  • 16 o etholaethau aml-aelod newydd, pob un yn ethol 6 aelod.

Cyn i’r adroddiad hwn gael ei drafod yn y Senedd, lluniodd ERS bapur briffio ar gyfer Aelodau’r Senedd. Pasiwyd yr adroddiad gan y Senedd gyda mwyafrif o fwy na dwy ran o dair, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod ar hyn o bryd yn drafftio deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd erbyn 2026.

More information about Senedd Cymru

Dyddiad a gyhoeddwyd
17/11/23
Cyflwyniad ar gyfer

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff...

Math
ERS Cymru
Dyddiad a gyhoeddwyd
02/11/23
Cyflwyniad ar gyfer

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac...

Math
ERS Cymru