Voces Galesas

Ar ôl bron 20 mlynedd o ddatganoli, y gwirionedd trist yw nad yw mwyafrif pobl Cymru’n pleidleisio o hyd yn etholiadau Cymru, boed hynny yn etholiadau’r Cynulliad neu mewn rhai lleol.

Also available in: English

Er bod nifer y bobl sy’n pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol yn weddol uchel yng Nghymru, mae bwlch mawr rhwng y rheiny sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol a rhai y DU gyfan.

Er nad nifer y pleidleiswyr yw’r unig beth sy’n dangos pa mor iach ydy democratiaeth, mae’n sicr yn fan cychwyn da. Ac eto, dim ond delwedd fach o wir deimladau pobl am wleidyddiaeth y mae hyn yn ei chynnig.

Dyna pam lansiom ni ‘Lleisiau Coll’, prosiect a oedd yn bwriadu cael trafodaeth â phobl ledled Cymru ynglŷn â sut maent yn teimlo am wleidyddiaeth a sut mae modd gwella hynny.

Gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau ymchwil ansoddol a mesurol, rydym wedi canfod y tair thema allweddol canlynol o ran sut mae pobl yn teimlo am wleidyddiaeth yng Nghymru.

  1. Dryswch
  2. Rhwystredigaeth
  3. Gobaith

Dryswch

Does dim amheuaeth na ddylem ni fod yn arbenigwyr ar wleidyddiaeth ac etholiadau. Yn ystod y deunaw mis diwethaf yn unig, roedd gofyn i ni yng Nghymru bleidleisio mewn pedwar etholiad ac mewn refferendwm.

Er mai diben gwreiddiol ‘Lleisiau Coll’ oedd canfod barn y rheiny nad ydynt yn pleidleisio, yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd bod gan bleidleisio stori i’w hadrodd hefyd. Yn enwedig y ffaith bod sawl pleidleisiwr yn ddrysu’n fawr ynglŷn â’r hyn maent yn pleidleisio drostynt. Ymysg eraill, roedd eu diffyg gwybodaeth yn rhwystr iddynt rhag pleidleisio.

Ymhlith yr ymadroddion a gafwyd dro ar ôl tro yn ein harolwg oedd ‘wedi drysu’, ‘dwi ddim yn gwybod’ a ‘dwi ddim yn deall’.

“Does gen i fawr ddim diddordeb mewn gwleidyddiaeth – dwi ddim yn deall gwleidyddiaeth yn fawr, yn bennaf achos dwi ddim yn ceisio ei deall”

“Er fy mod i’n mwynhau darllen y newyddion a cheisio deall gwleidyddiaeth, dwi’n cyfaddef ei bod hi’n ddryslyd. Byddai’n braf cael canllawiau syml!”

“Dwi wastad yn drysu â gwleidyddiaeth genedlaethol a lleol”

“addewidion gwag, celwyddau, hunanbwysig, dryswch, ansicrwydd”

“Mae’n peri ansicrwydd a dryswch i mi, felly does dim diddordeb gen i yn anffodus”

“Dwi ddim mor frwdfrydig ag dylwn i fod a dwi’n credu bod hynny oherwydd fy niffyg gwybodaeth”

Rhwystredigaeth

“Rhwystredig’”- un ymatebwr i’n harolwg pan fu gofyn i grynhoi’r hyn roedd gwleidyddiaeth yn ei golygu iddynt.

I lawer o bobl, mae ymdeimlad o ddadrithiad rhag gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.
Er mai enw rhan o’r adroddiad hwn yw ‘rhwystredigaeth’, roedd hi’n bosibl iawn ei galw’n ‘diffyg ymddiriedolaeth’, ‘dadrithiad eang’ neu, efallai, ‘dicter’, ‘pryder’ neu ‘siomedigaeth’.

O ystyried y bu cymaint o ymweliadau â’r blwch pleidleisio yn ystod y blynyddoedd diweddar yn ogystal ag achosion blaenorol o’r sgandal treuliau ac, yn fwy diweddar, honiadau o aflonyddu rhywiol ac osgoi trethi, mae rhwystredigaeth a drwgdybiaeth wedi ffynnu mewn llawer o elfennau o wleidyddiaeth fodern.
Mae hyn yn sicr yn deillio o rai o’r sylwadau gan bobl yn y prosiect nad oedd â dim diddordeb o gwbl mewn gwleidyddiaeth neu’n ei hystyried yn rym cynyddol negyddol yn eu bywyd ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Aeth dau berson yn ystod grŵp ffocws yng Nghricieth yn bellach.

“Mae popeth yn wleidyddiaeth a dwi ddim yn hoffi ohoni”

“Dwi ddim yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, dwi’n ei chasáu hi”

Cafodd yr anfodlonrwydd hwn ei fynegi yn ymatebion yr arolwg.

Pan ofynnwyd ‘Beth ydy gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’, ni wnaeth rhai ymatebwyr guddio eu teimladau: ‘Mae’n llanast.’ ‘rwtsh llwyr.’ ‘dim llawer.’ ‘pwy bynnag sy’n ennill, mae’r bobl yn colli.’ a dwedodd rhywun o Flaenau Gwent ei bod ‘yn llawn c*ch.’

Mae’n ddiddorol o hyd sylwi bod dau o’r ymatebwyr wedi pleidleisio ym mhob etholiad y bu modd iddynt. Soniodd llawer o’r rheiny a holwyd am yr argraff o wleidyddiaeth yn ganolfan a gaiff ei dominyddu gan anonestrwydd a chelwydd. Dwedodd 37 o bobl y geiriau ‘anonestrwydd’ neu ‘gelwydd’ mewn ymateb i’r cwestiwn yn ein harolwg ar-lein ‘Beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’.

“Arian, tlodi i’r mwyaf bregus, wrth i’r cyfoethog ddod yn fwy cyfoethog”

“Mae gwleidyddiaeth yn hollbwysig i mi, er fy mod i wastad ar yr ochr anghywir ac yn gorfod brwydro dros fy hawliau. Dwi ddim yn meddwl gallwn ni osgoi gwleidyddiaeth, ond yn aml mae’n llafurus ac yn gwneud niwed i fy llesiant i frwydro dros hawliau, cyfreithiau a thriniaeth deg dro ar ôl tro”

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n dwyllodrus. Dim ond detholiad o bobl sydd â’r grym ac sy’n esgus bod gennym ni farn”

“Rhwystredigaeth, brwydro, atchwel, ambell beth cadarnhaol, llawer o safonau dwbl”

“Mynnu grym, sgorio pwyntiau, hunan-ddiddordeb, tablau cynghrair, ystadegau, haerllugrwydd, torcalonnus”

Gobaith

Fel yr hyn a gydnabuwyd eisoes, nid yw gwleidyddiaeth yn ennill unrhyw gystadleuaeth boblogrwydd, ond y gwir yw, does dim modd byw hebddi.
Mae’n annheg dweud nad oes unrhyw obaith ymysg rhywfaint o’r negyddoldeb a’r rhwystredigaeth rydym wedi’u hastudio eisoes yn yr adroddiad.

O’r 718 o ymatebion a gafwyd i’r cwestiwn ‘Mewn 10 o eiriau neu lai, beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’ yn yr arolwg, o’u cymharu â 141 niwtral a 241 negyddol, cafwyd ymateb cadarnhaol iawn ar y cyfan (336 o ymatebion).

O’r holl ddatganiadau cadarnhaol, defnyddiodd 26 o bobl y geiriau ‘cyfle’ ac mae’r geiriau ‘newid’ a ‘dyfodol’ yn ymddangos 60 o weithiau.

Hyd yma, mae’n ymddangos bod gwleidyddion wedi cael beirniadaeth gas gan rai o’r canfyddiadau. Dim ond un ochr o’r stori yw hon.

“Posib newid”

“Rhywbeth mae angen i ni gyd gyfranogi ynddi i sicrhau newid”

“Gallu i newid pethau er gwell”

Yn ogystal â straeon am newid ac enghreifftiau o ACau ac ASau unigol yn rhoi gobaith i bobl, cafwyd gobaith greddfol yn y system wleidyddol, gan gynnwys math newydd o optimistiaeth a achoswyd gan newidiadau ymrannol sydd wedi achosi dadrithiad i eraill.

“Mae’n effeithio ar bopeth. Pam na fyddech chi am roi eich barn ar hynny?”

“Mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar fy mywyd a’r rheiny o fy nghwmpas. Does dim modd i chi ei hanwybyddu. Mae angen mynd i’r afael â materion ac mae angen gwrando ar leisiau. Mae newid go iawn ar y gweill yn y ffordd mae pobl ‘ifanc’ fel fi yn ystyried ‘gwleidyddiaeth’ ac mae’n dda. Mae chwyldro’n nesáu.”

“Fy nyfodol, fy arian, fy ngwasanaethau. Dyfodol fy mhlant”

“Mae democratiaeth wrth galon ein bywyd gyda’n gilydd fel bodau dynol”

“Mae gwleidyddiaeth yn golygu cael llais”

Casgliad

Pan ddechreuwyd y prosiect hwn, roeddem yn ansicr o ran faint o bobl a fyddai’n cyfranogi yn y gwaith a’r hyn y byddent yn ei ddweud. Canlyniad cannoedd o bobl ledled Cymru’n treulio amser yn cyfranogi mewn trafodaeth na fyddent o bosib yn cyfranogi ynddi fel arfer yw ein canfyddiadau, ac am y tro cyntaf, mae gennym syniad clir o farn pobl ledled y wlad am wleidyddiaeth y tu hwnt i’r orsaf bleidleisio.

Nid bwriad ein tair prif thema, ‘dryswch, rhwystredigaeth a gobaith’, mo disbyddu na lleihau naws yr hyn mae pobl wedi treulio amser yn ei ddweud wrthym. Yn hytrach, y bwriad yw ceisio dod â naratif a chysondeb i amrywiaeth eang o wybodaeth.

Mae’r themâu hyn yn cynnig cyfle i wella hefyd. Fel y dwedwyd yn ein cyflwyniad, gyda phwerau newydd bellach, mae gan Gymru gyfle i wneud pethau’n wahanol, ac yn ogystal ag ymdrechion ymarferol i weithredu etholiadau Cymru’n fwy effeithiol, mae cyfle bellach i wireddu gobeithion a disgwyliadau’r rheiny sy’n ystyried gwleidyddiaeth yn rhywbeth cadarnhaol yn eu bywyd ac i newid meddwl y rheiny nad ydynt yn ei hystyried yn gadarnhaol.

O’r themâu hyn, mae’n amlwg nad yw addysg wleidyddol yn cyflawni i bawb ar hyn o bryd. Er bod addysg wleidyddol yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn rhywbeth i bobl ifanc, mae bwlch yng ngwybodaeth y rheiny y tu hwnt i’r system addysg o wleidyddiaeth hefyd. Her sylfaenol yw mynd i’r afael â diffyg gwybodaeth hwn, mewn Cymru lle mae’r moddau o gyfathrebu newyddion yn gyfyngedig.
Mae angen gwella’r cyfathrebu yn gyffredinol, y tu hwnt i addysg, o bob haen o lywodraeth. Mae her systemaidd gan bob gwleidydd i ryngweithio’n fwy effeithiol â’u hetholaethau a chyrraedd y rheiny sy’n ‘anodd eu cyrraedd’. I rai pobl sydd â braidd dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth fodern, nid yw taflen drwy’r drws adeg yr etholiad ddim yn ddigon. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar ddulliau eraill trwy ddemocratiaeth gydgynghorol a all yn y bôn newid y ffordd mae pobl yn cyfranogi mewn gwleidyddiaeth a dod â gwleidyddiaeth yn agosach at y bobl y dylai eu cynrychioli.

More information about Voces Galesas