Pam nawr?
Nod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yw ceisio adfywio democratiaeth ar lefel cynghorau. Mae un o’r darpariaethau’n galluogi awdurdodau lleol i gael dewis rhwng cadw at y system Cyntaf i’r Felin (FPTP) ar gyfer etholiadau’r cyngor neu fabwysiadu system bleidleisio decach, sef Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV).
Yn dilyn etholiadau Mai 2022, bydd cynghorau’n gallu pleidleisio dros symud i STV os bydd mwyafrif o ddwy ran o dair o’r cyngor yn cytuno ar benderfyniad erbyn 15fed Tachwedd, dair blynedd cyn yr etholiad nesaf.
Mater i’r cynghorwyr etholedig fydd penderfynu, wrth gwrs, ond credwn y byddai’r cam hwn yn torri tir newydd. Gallai newid ein democratiaeth a’i newid er gwell. Rydym yn annog cynghorwyr i gefnogi system bleidleisio decach a symud i STV – dyma pam.
Ble ydyn ni nawr?
Mae gennym system bleidleisio o’r 19eg ganrif yng Nghymru’r 21ain ganrif. Mae’n amlwg iawn nad yw’r ffordd yr ydym yn ethol ein cynghorau lleol, gyda system FPTP San Steffan, bellach yn addas i’r diben.
Tra bod rhai pleidiau yn cael llawer mwy o seddi nag y gellid ei gyfiawnhau gan eu cyfran o’r bleidlais mewn etholiadau FPTP, mae pleidiau eraill yn cael llai o seddi nag y mae eu cyfran o’r bleidlais yn rhoi hawl iddynt. Bydd pleidiau sy’n elwa mewn un ardal ar eu colled mewn ardal arall.
Party |
Local Authority |
% share of votes |
% share of seats |
Difference |
Labour |
Blaenau Gwent |
43.6 |
31.0 |
-12.6 |
Conservatives |
Torfaen |
22.3 |
9.1 |
-13.2 |
Plaid Cymru |
Caerphilly |
36.5 |
24.7 |
-11.8 |
Liberal Democrats |
Wrexham |
9.6 |
3.8 |
-5.8 |
Independents |
Denbighshire |
24.9 |
17.0 |
-7.9 |
Gyda FPTP, dim ond un bleidlais yn fwy na’r person yn yr ail safle sydd ei hangen ar ymgeisydd i ennill, hyd yn oed os nad yw mwyafrif y bobl yn ffafrio’r ymgeisydd hwnnw. Gyda STV mae lleisiau mwyafrif y bobl yn cael eu clywed wrth ethol yr ymgeiswyr o’u dewis.
Yn etholiadau lleol 2017 yng Nghymru, dim ond 42% o’r rhai oedd â hawl i bleidleisio wnaeth hynny, ac roedd 92 o wardiau lle nad oedd gwrthwynebydd i’r sawl a etholwyd. Mewn un ward ym Mhowys, doedd neb yn sefyll yn yr etholiad. Mae FPTP yn helpu i barhau â’r diffyg dewis hwn i bleidleiswyr. Mae symud i system bleidleisio STV yn sicrhau bod pob pleidlais sy’n cael ei bwrw’n cyfrif, gan fywiogi democratiaeth leol a grymuso’r etholwyr.
Roedd amrywioldeb ymhlith y rhai a etholwyd hefyd yn eithriadol o wael. A yw democratiaeth leol yn ffynnu pan mai dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, ac yn dilyn yr etholiad yn 2017 nid oedd unrhyw fenywod o gwbl yng nghabinet dau o’n 22 awdurdod lleol?
Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV)
Beth yw STV?
Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn system etholiadol sy’n rhoi’r pŵer yn nwylo’r pleidleiswyr. Mae tystiolaeth o’r Alban ac Iwerddon yn awgrymu bod pleidleiswyr yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd eithaf soffistigedig.
Yn hytrach nag un person yn cynrychioli pawb mewn ardal fach, fel y system ward-sengl bresennol a welir mewn rhai cynghorau lleol, mae ardaloedd mwy yn ethol tîm bach o gynrychiolwyr. Yn yr Alban mae hyn yn amrywio o 3 – 4 cynghorydd ar gyfer pob ward. Mae rhai wardiau yng Nghymru eisoes yn gweithredu ar system aml-aelod, er yn defnyddio FPTP yn hytrach na STV i ethol cynghorwyr.
Ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleiswyr yn rhifo rhestr o ymgeiswyr. Eu ffefryn fel rhif un, eu hail ffefryn fel rhif dau, a.y.b. Gall pleidleiswyr osod rhif ger cymaint neu gyn lleied o ymgeiswyr ag y dymunant. Yn aml bydd pleidiau’n cynnig mwy nag un ymgeisydd ym mhob ardal.
Mae’r rhifau’n dweud wrth y bobl sy’n cyfrif sut i ailddyrannu pleidleisiau os oes gan yr ymgeisydd a ffafrir ddigon o bleidleisiau eisoes neu os nad oes ganddo unrhyw obaith o ennill.
Gyda FPTP, mewn llawer o ardaloedd mae etholwyr yn gwybod nad oes gan eu hoff blaid neu ymgeisydd unrhyw obaith o ennill. Maent, felly, yn ‘dal eu trwyn’ ac yn pleidleisio’n dactegol dros y sawl maen nhw’n ei gasáu lleiaf. Gyda STV, gall pleidleisiwr roi ei bleidlais dewis cyntaf yn ddiogel i’w hoff ymgeisydd, oherwydd bydd y bleidlais yn cael ei throsglwyddo os na all yr ymgeisydd hwnnw ennill.
Sut mae STV wedi gweithio yn yr Alban?
Mae STV wedi cael ei ddefnyddio yn yr Alban ar gyfer pob etholiad cyngor yn 2007, 2012 a 2017. Ers hynny, mae tystiolaeth gref yn dangos y cyfraniad cadarnhaol y mae’r system wedi’i wneud tuag at ansawdd democratiaeth leol. Dim ond tair sedd ddiwrthwynebiad sydd wedi bod yn yr Alban ers 2007, ac mae dyddiau un blaid yn rheoli’r cyngor pan nad oes ganddyn nhw gefnogaeth mwyafrif y cyhoedd ar ben.
Yn yr Alban, bu gwelliant dramatig yng nghymesuredd canlyniadau rhwng yr etholiad lleol diwethaf a gynhaliwyd o dan FPTP yn 2003 a’r etholiad lleol cyntaf a gynhaliwyd o dan STV yn 2007. Mae gwyro oddi wrth gymesuredd (sgôr DV) yn ddull a ddefnyddir yn gyffredin i gymharu cymesuredd canlyniadau rhwng gwahanol etholiadau; po uchaf yw’r sgôr, y mwyaf anghymesur yw’r canlyniadau. Yn 2003, cynhyrchodd etholiadau lleol yr Alban ganlyniadau gyda sgôr DV ganolrifol o 20.9, tra yn 2007 sgôr canolrif DV canlyniadau’r etholiad oedd 10.4 – gostyngiad sylweddol sy’n dangos bod y cynghorwyr a etholwyd yn adlewyrchu’r pleidleisiau a fwriwyd yn llawer gell nag o dan FPTP.
Party |
Council |
2003 (FPTP) Vote % |
2003 (FPTP) Seat % |
2003 (FPTP) Difference |
2007 (STV) Vote % |
2007 (STV) Seat % |
2007 (STV) Difference |
Labour |
Angus |
14.6 |
3.4 |
-11.2 |
11.9 |
6.9 |
-5.0 |
Conservatives |
East Ayrshire |
12.5 |
3.1 |
-9.4 |
13.0 |
9.4 |
-3.6 |
SNP |
Midlothian |
24.4 |
0 |
-24.4 |
33.4 |
33.3 |
-0.1 |
Liberal Democrats |
Stirling |
12.9 |
0 |
-12.9 |
11.1 |
13.6 |
+2.5 |
Independents |
Glasgow City |
16.8 |
1.3 |
-15.5 |
16.3 |
7.6 |
-8.7 |
Mewn gwirionedd, mae nifer y bobl sy’n cael eu dewis cyntaf wedi’u hethol wedi cynyddu 50% ers i’r Alban gyflwyno STV. Dyna 50% yn fwy o bleidleiswyr sy’n gallu mynd at gynghorydd y gwnaethon nhw helpu i’w ethol.
Mae ymchwil wedi dangos, yn Lloegr, y gallai cynghorau sy’n cael eu dominyddu gan un blaid fod yn gwastraffu cymaint â £2.6bn y flwyddyn oherwydd diffyg craffu ar eu prosesau caffael.
Mae’r system newydd hefyd wedi annog pleidiau i estyn allan at bleidleiswyr y byddent wedi eu hanwybyddu o’r blaen. Fel y dangosir gan y cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn etholiadau lleol yr Alban ers cyflwyno STV – nifer cyfartalog yr ymgeiswyr fesul ward yn 2003 (o dan FPTP) oedd 3.4, tra cynyddodd y cyfartaledd hwn i 7.4 yn 2007 (o dan STV). Mae’r cynnydd hwn yn y dewis i bleidleiswyr o dan STV wedi bod yn gyson ar draws etholiadau lleol dilynol, gyda chyfartaledd o 7.3 ymgeisydd ym mhob ward yn 2017 gyda 2,572 o ymgeiswyr yn ymladd seddi mewn 354 o wardiau aml-aelod.
Ymgyrchu o dan STV
Gan nad yw’r bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn system lle mae un person yn bachu’r cyfan, gall agor i fyny wardiau nad oedd gan bleidiau unrhyw siawns ynddynt o’r blaen. Gall hyn helpu i greu cynrychiolaeth ehangach ar draws awdurdod lleol, yn hytrach na bod cynghorwyr yn dod o un ardal ddaearyddol yn unig, lle mae’r blaid yn gryf.
Mae mwy o gynghorwyr yn golygu sylfaen o weithredwyr mwy gweithgar, a gallant greu’r amodau sydd eu hangen i ennill seddi fel ASC ac AS yn y pen draw.
Un o’r gwahaniaethau mwyaf i bleidiau gwleidyddol o dan system bleidleisio wahanol yw bod angen i bleidiau ymgyrchu ychydig yn wahanol.
O dan etholiadau’r Cyntaf i’r Felin gwelwn bleidiau’n canolbwyntio’r mwyafrif o’u hadnoddau mewn seddi sydd eisoes yn eu meddiant neu’r rhai maen nhw’n gobeithio eu hennill. Mae hyn yn golygu bod darpar gefnogwyr y tu allan i gadarnleoedd traddodiadol a wardiau targed yn cael eu hesgeuluso; ychydig o bresenoldeb eu plaid a welant oherwydd diffyg ymgyrchu yn yr ardal, a dan yr amgylchiadau gwaethaf, ni chynigir unrhyw gyfle iddynt bleidleisio dros y blaid honno o gwbl.
O ran sut mae pleidiau’n ymgyrchu’n wahanol o dan STV, un o’r gwahaniaethau mwyaf yw bod gan bleidiau llai’r siawns o sicrhau cynrychiolaeth sy’n gymesur â’u cyfran o’r bleidlais, gan gynyddu eu parodrwydd i ymladd seddi. Mae rasys dau-geffyl a seddi diogel yn cael eu dileu i bob diben, sy’n golygu bod gan bob plaid gymhelliant i ymgyrchu cymaint ag y gallant i sicrhau un neu fwy o seddi. Mae’r ddau beth hyn yn cyfrannu at sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig yn adlewyrchu’n deg yr amrywiaeth barn mewn ardal a bod pleidleiswyr yn cymryd rhan mewn gornest weithredol a hysbys. Bydd ymgyrchu egniol, llawn dychymyg a neges boblogaidd hefyd yn dda i’r ymgeisydd unigol ac i’r blaid.
Agwedd arall ar ymgyrchu byddai angen ei newid yw casglu gwybodaeth.
Yn ogystal â materion ymgyrchu cyfarwydd (fel materion lleol a phatrwm cefnogaeth cyffredinol), bydd angen i bleidiau roi sylw i’r ystyriaethau canlynol wrth benderfynu ar eu strategaeth ymgyrchu ac, yn benodol, faint o ymgeiswyr i’w cynnig:
- Faint o bobl sy’n gefnogwyr cryf i’r blaid?
- Faint o bobl allai bleidleisio dros un o ymgeiswyr y blaid oherwydd ffactorau personol neu ffactorau eraill?
- Sut mae cefnogaeth i’r blaid, ac i ymgeiswyr unigol, yn cael ei dosbarthu ar draws yr ardal?
- A yw cefnogwyr ymgeiswyr a phleidiau eraill yn barod i drosglwyddo pleidleisiau i’ch ymgeiswyr? Os felly, pa ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o drosglwyddo pleidleisiau i’ch ymgeiswyr?
I gael rhagor o wybodaeth am sut y byddai ymgyrchu yn newid o dan STV, datblygwyd pamffled ar gyfer y newidiadau yn yr Alban yn 2007.
Cwestiynau cyffredin