Hefyd ar gael yn: English

Amser am Newid: Etholiadau Lleol Cymru 2022 a’r Achos dros STV

Author:
Doug Cowan, Head of Digital

Wedi'i bostio ar y 15th Tachwedd 2022

Rhagarweiniad

Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru

Jess BlairAr 5ed Mai 2022 aeth dinasyddion i’r gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru i ethol cynghorwyr ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol. Nid dyma’r unig etholiadau a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw; Cynhaliodd Gogledd Iwerddon etholiad i’w Cynulliad ac roedd yna etholiadau lleol eraill mewn rhannau o Loegr ac ar draws holl awdurdodau lleol yr Alban.

Defnyddiwyd cymysgedd o systemau etholiadol yn yr etholiadau hyn, gydag etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yr Alban yn defnyddio’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), tra defnyddiodd Cymru a Lloegr y Cyntaf i’r Felin (FPTP) yn eu hetholiadau lleol.

Ac eto fe allai’r darlun yng Nghymru newid nawr. Yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 mae darpariaeth newydd wedi dod i rym sy’n caniatáu i gynghorau bleidleisio dros symud i STV ar sail unigol. I wneud hyn mae angen i gyngor gael dwy ran o dair o’i aelodau i gytuno ar benderfyniad cyn 15fed Tachwedd, dair blynedd cyn yr etholiad nesaf (yn 2027). Rydym yn cyhoeddi’r adroddiad hwn ar 15fed Tachwedd 2022, ddwy flynedd i’r diwrnod cyn bod yn rhaid i gynghorau fod wedi cynnal pleidlais os ydynt yn bwriadu symud i STV.

Dangosodd etholiadau lleol Cymru 2022 unwaith eto pam fod angen newid. Roedd yr etholiadau hyn yn frith o ganlyniadau anghymesur, seddi diwrthwynebiad, a gwelwyd nifer is yn pleidleisio nag yn 2017.

Mae etholiadau lleol yr Alban, sy’n defnyddio STV, yn rhoi cipolwg i ni o’r hyn y gallai system wahanol ei gynnig; canlyniadau tecach, mwy o ddewis i bleidleiswyr a mwy o bobl yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfrif.

Bydd yr adroddiad hwn yn edrych ar y darlun yng Nghymru a’r Alban ac yn dangos pam y dylai cynghorau Cymru ddilyn esiampl yr Alban cyn yr etholiadau nesaf yn 2027.

Etholiadau Lleol Cymru 2022

Trosolwg o'r canlyniadau

Darparodd canlyniadau etholiad lleol Cymru 2022 – gweler crynodeb yn Nhabl 1 – ddarlun cymysg i’r pleidiau gwleidyddol; roedd y prif straeon yn ymwneud â buddugoliaethau i Lafur a cholledion i’r Ceidwadwyr o gymharu â’u canlyniadau yn etholiad 2017.

Roedd y canlyniadau’n dangos lefel cefnogaeth yr un mor gryf i Lafur Cymru ag y gwnaethon nhw yn etholiadau’r Senedd yn ôl ym mis Mai 2021, gyda chynnydd o 54 o gynghorwyr o’i gymharu â chanlyniadau 2017, gan fynd â’u cyfanswm ledled y wlad i 526 o gynghorwyr. Llwyddodd Llafur hefyd i ennill rheolaeth dros gynghorau Blaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr, a daethant y grŵp mwyaf yn Sir Fynwy, er iddynt golli rheolaeth lwyr o Gastell-nedd Port Talbot. Tra bod Llafur Cymru wedi sicrhau’r cynnydd mwyaf yn nifer y cynghorwyr, enillodd Plaid Cymru reolaeth gyffredinol ar dri chyngor ychwanegol, er iddynt wneud colled net o ddau gynghorydd ar draws y wlad. Nid oedd y cynghorau hyn, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, wedi bod o dan unrhyw reolaeth lwyr o’r blaen, ac roeddent yn cael eu rheoli gan glymbleidiau yn cynnwys Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol.

Roedd yna golledion i’r Ceidwadwyr Cymreig, gan golli cyngor Sir Fynwy, a gostyngiad o 73 yng nghyfanswm y cynghorwyr.

Llwyddodd y cynghorwyr annibynnol ar draws Cymru i ennill cynrychiolaeth sylweddol unwaith eto. Mae chwarter yr holl gynghorwyr (25%) yng Nghymru yn annibynnol yn dilyn yr etholiadau hyn.

Tabl 1: Canlyniadau Etholiadau Lleol Cymru 2022

Plaid Seddi1Dadansoddiad ERS o ganlyniadau’r etholiad Newid (o etholiad 2017)2Cymerwyd canlyniadau etholiad 2017 er mwyn eu cymharu o Ganlyniadau Etholiadau Lleol 2017 adran ymchwil y Senedd: https://research.senedd.wales/research-articles/local-elections-2017-results/
Llafur Cymru 526 +54
Annibynnol3Yn cynnwys seddi a enillwyd gan ymgeiswyr oedd yn sefyll o dan yr enwau canlynol: Annibynnol, Annibynwyr Llanilltud yn Gyntaf, Plaid Annibynnol Casnewydd a’r Annibynwyr Swyddogol 310 -12
Plaid Cymru 200 -2
Plaid Geidwadol Cymru 111 -73
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 69 +7
Plaid Werdd Cymru 8 +7
Arall4Yn cynnwys seddi a enillwyd gan ymgeiswyr oedd yn sefyll o dan Common Ground, Gwlad, Propel ac Uplands 8 +2
Cyfanswm 1,2325Gohiriwyd yr etholiad ar gyfer y ddwy sedd yn ward Port Talbot Cyngor Castell-nedd Port Talbot oherwydd marwolaeth ymgeisydd; mae’r ddwy wedi’u hennill wedyn gan ymgeiswyr Llafur, ond nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tabl hwn. Ddim ar gael

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, y ganran a bleidleisiodd oedd 38.7%, sef 3.6% yn is nag yn etholiadau lleol 2017.6https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/elections-and-referendums/past-elections-and-referendums/wales-local-council-elections/report- Mai-2022-etholiadau-cymru Mae hyn yn siomedig yng ngoleuni ymdrechion ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac eraill i wella ymgysylltiad. Mae adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau 2022 yn tynnu sylw at y gwahaniaeth oedran o ran y nifer a bleidleisiodd, sy’n is ymhlith y rhai dan 35 oed o gymharu â’r holl grwpiau oedran eraill. Ers yr etholiadau hyn mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi papur gwyn yn ymgynghori ar nifer o fesurau, sydd â’r nod o ddileu’r rhwystrau i gyfranogiad.7https://llyw.cymru/papur-gwyn-gweinyddu-etholiadol-a-diwygio Gallai rhai o’r mesurau hyn gael eu treialu neu eu cyflwyno yn yr etholiadau lleol nesaf yn 2027.

Cymesuredd

Mae’r system y Cyntaf i’r Felin a ddefnyddiwyd ar gyfer yr etholiadau hyn yn golygu ein bod yn parhau i fod â system bleidleisio o’r 19eg ganrif yng Nghymru’r 21ain ganrif.

Mae FPTP yn system bleidleisio o fuddugoliaethau anghymesur, ond hefyd colledion anghymesur i bleidiau (Ffigur 1). Mae’r gwahaniaethau, sy’n aml yn sylweddol, rhwng cyfran y bleidlais a’r gyfran o seddi yn golygu nid yn unig bod etholwyr ar eu colled o ran cynrychiolaeth deg, felly hefyd ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol.

Nid oedd etholiad 2022 yn eithriad i anghymesuredd traddodiadol FPTP.

Ffigur 1: Buddugoliaethau a cholledion anghymesur i bob plaid yn etholiadau lleol Cymru 2022

*Safodd Plaid Cymru o dan faner Common Ground yng Nghaerdydd

Roedd 17 achos o fwy na 10 pwynt canran o wahaniaeth rhwng cyfran pleidlais plaid a chyfran seddi ar draws cynghorau yng Nghymru. Mae un-ar-ddeg o’r rhain yn or-gynrychiolaeth, lle mae plaid yn dal dros 10% yn fwy o seddi na phleidleisiau (Ffigur 2) ac mae chwech o’r rhain yn dan-gynrychiolaeth, lle mae plaid yn dal dros 10% yn llai o seddi na phleidleisiau (Ffigur 3), gan amlygu annhegwch dwfn etholiadau FPTP.

Ffigur 2: Gor-gynrychiolaeth o bleidiau yng nghynghorau lleol Cymru

Achosion lle mae cyfran seddi >10% yn fwy na chyfran y bleidlais

Ffigur 3: Dan-gynrychiolaeth o bleidiau yng nghynghorau lleol Cymru

Achosion lle mae cyfran seddi >10% yn llai na chyfran y bleidlais

*Safodd Plaid Cymru o dan faner Common Ground yng Nghaerdydd

Mae yna wyth cyngor yng Nghymru lle mae plaid yn dal y mwyafrif o seddi ar leiafrif (h.y. llai na 50%) o’r pleidleisiau; mae hyn yn cynrychioli dros draean o’r holl gynghorau (Ffigur 4). Mae’r math hwn o or-gynrychiolaeth yn nodweddiadol o FPTP, sydd wedi’i gynllunio’n benodol i ddarparu mwyafrif ar leiafrif o’r bleidlais. Tra bod rhai o’r enghreifftiau hyn yn fwy ymylol o ran y gwahaniaeth rhwng cyfran y pleidleisiau a chyfran seddi, yn y mwyafrif o’r rhain (pum cyngor) mae’r blaid dan sylw hefyd yn cael ei gor-gynrychioli o fwy na 10%.

Ffigur 4: Cynghorau Cymru lle enillodd plaid fwyafrif o seddi ar leiafrif o bleidleisiau

Seddi diwrthwynebiad

Roedd gan naw o’r 22 o ardaloedd cyngor yng Nghymru un neu fwy o seddi diwrthwynebiad (Tabl 2), gyda chymaint â 41% o seddi’n ddiwrthwynebiad yng Ngwynedd a bron i draean o’r holl seddi’n ddiwrthwynebiad yn Sir Benfro. Pan fydd chwech y cant o’r holl seddi ledled Cymru yn ddiwrthwynebiad, mae ein system bleidleisio FPTP yn methu. Mae cloi dros 100,000 o etholwyr allan o’r cyfle i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli ar lefel leol yn arwydd o broblem fawr yn ein democratiaeth, ac mae’r gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol yn nifer y seddi diwrthwynebiad yn arwain at loteri côd post o ran dewis y pleidleiswyr (Ffigur 5).8Nifer yr etholwyr a amcangyfrifir gan ddefnyddio’r nifer etholwyr a ragamcanir ar gyfer y wardiau perthnasol yn yr adroddiad Argymhellion Terfynol ar gyfer pob ardal cyngor gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae adroddiadau Argymhellion Terfynol ar gyfer pob cyngor i’w gweld yma: https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau

Tabl 2: Seddi diwrthwynebiad yn etholiadau lleol Cymru 2022 (Dadansoddiad ERS)

Cyngor Seddi diwrthwynebiad % Seddi diwrthwynebiad
Gwynedd 28 41%
Sir Benfro 19 32%
Wrecsam 8 14%
Ceredigion 5 13%
Powys 7 10%
Castell-nedd Port Talbot 3 5%
Sir y Fflint 2 3%
Sir Ddinbych 1 2%
Sir Gaerfyrddin 1 1%
Cyfanswm 74 6%

Ffigur 5: Nifer yr etholwyr yr effeithir arnynt yng Nghymru gan seddi diwrthwynebiad

Nifer yr etholwyr a amcangyfrifir gan ddefnyddio’r nifer etholwyr a ragamcanir ar gyfer y wardiau perthnasol yn yr adroddiad Argymhellion Terfynol ar gyfer pob ardal cyngor gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae adroddiadau Argymhellion Terfynol ar gyfer pob cyngor i’w gweld yma: https://cdl.llyw.cymru/adolygiadau

Amrywioldeb

Gan ddefnyddio’r data gorau sydd ar gael,9Gweithiodd ERS Cymru gydag eraill i gasglu’r data hwn gan ddefnyddio dulliau anecdotaidd a thybiaethau, sy’n annhebygol o fod 100% yn gywir, gan amlygu pwysigrwydd gweithredu adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, a fyddai’n caniatáu ar gyfer casglu a chyhoeddi data cywir. cynyddodd cydbwysedd yr ymgeiswyr o ran rhywedd o 29.7% o ymgeiswyr benywaidd yn 2017 i 33.6% o ymgeiswyr benywaidd yn 2022. Er bod hyn yn dangos cynnydd, dangosodd ein hamcangyfrifon, os yw hyn yn parhau, na chyrhaeddir cydraddoldeb rhwng y rhyweddau ar gyfer ymgeiswyr cynghorau tan ganol y ganrif. O’r ymgeiswyr hynny a etholwyd, amcangyfrifwyd bod 36% ohonynt yn fenywod – 28% oedd y ffigur yn 2017.

Am y tro cyntaf, cyrhaeddodd dau gyngor yng Nghymru, sef Sir Fynwy a Bro Morgannwg, gydbwysedd rhwng y rhyweddau gyda rhaniad rhywedd 50:50 ymhlith cynghorwyr etholedig. Roedd gweithredu cadarnhaol yn allweddol yn Sir Fynwy, yn arbennig. Cyn yr etholiad, gosododd Sir Fynwy darged i gyrraedd cydraddoldeb rhwng y rhyweddau, gyda’r arweinydd ar y pryd yn gweithio gyda phob plaid arall i sicrhau ymrwymiad trawsbleidiol.10https://www.monmouthshire.gov.uk/2021/06/monmouth-first-council-in-wales-to-commit-to-gender-parity/ Roedd hyn yn golygu bod pob plaid yn ceisio sicrhau niferoedd llawer uwch o ymgeiswyr benywaidd yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac mae llwyddiant y targed hwn yn dangos y gall y math hwn o weithredu cadarnhaol fod yn wirioneddol effeithiol. Mae isetholiad cyntaf Sir Fynwy bellach wedi golygu bod nifer y cynghorwyr benywaidd yn cynyddu eto i fod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru gyda mwyafrif o’r cynghorwyr yn fenywod.11https://www.southwalesargus.co.uk/news/23066889.welsh-conservative-rachel-buckler-wins-devauden-by-election/

Un ffactor arall a arweiniodd at gydraddoldeb rhwng y rhyweddau yn y ddau awdurdod lleol hyn oedd llwyddiant y blaid Lafur yn y ddwy ardal; fodd bynnag mae hyn yn fwy perthnasol i Fro Morgannwg lle na chafwyd cynnig ffurfiol i gytuno ar darged trawsbleidiol. Yn gyffredinol yng Nghymru, y blaid Lafur oedd â’r nifer uchaf o ymgeiswyr benywaidd (41%) o blith y pleidiau mwy (pleidiau yn cynnig dros 250 o ymgeiswyr). Yn Sir Fynwy, yn dilyn yr etholiad mae yna 21 o gynghorwyr Llafur Cymru o fewn 46 sedd y cyngor ac mae tua 11 o’r seddi Llafur hyn yn cael eu dal gan fenywod (52%). Ym Mro Morgannwg mae Llafur Cymru yn dal 25 o’r 54 sedd, ac mae tua 18 o’r seddi Llafur hyn yn cael eu dal gan fenywod (72%).

Mae nifer y cynghorwyr etholedig sydd â nodweddion gwarchodedig eraill megis hil, anabledd a chynrychiolaeth o’r gymuned LHDTC+ yn debygol o fod yn isel, er nad oes gennym y data i allu amlygu unrhyw anghysondebau’n gywir.

Mae ERS Cymru wedi bod yn ymgyrchu ers tro dros weithredu adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gasglu a chyhoeddi data amrywioldeb ar gyfer ymgeiswyr; fodd bynnag, nid yw hyn erioed wedi’i weithredu gan Lywodraeth y DU.12https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/15/section/106 Yn ddiddorol, yn adroddiad 2022 y Pwyllgor Dibenion Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, gwnaed argymhelliad i osod gofyniad deddfwriaethol ar “Awdurdod datganoledig yng Nghymru i gasglu a chyhoeddi data dienw ynghylch amrywioldeb ymgeiswyr”.13https://senedd.wales/media/5mta1oyk/cr-ld15130-e.pdf Rydym yn awyddus i weld sut mae hyn yn datblygu gan ei bod yn hanfodol cael data cywir i allu gwella amrywioldeb o fewn democratiaeth leol.

Etholiadau Lleol yr Alban 2022

Trosolwg o'r canlyniadau

Roedd canlyniadau etholiadau lleol yr Alban – gweler crynodeb yn Nhabl 3 – yn rhannu rhai nodweddion ag etholiadau lleol Cymru, gyda buddugoliaethau i Lafur a cholledion i’r Ceidwadwyr o gymharu â’u canlyniadau yn etholiad 2017.

Fodd bynnag, yr enillwyr mwyaf oedd Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) a enillodd 22 sedd, gan barhau i fod y blaid fwyaf gyda 453 o gynghorwyr a rheolaeth gyffredinol ar un cyngor.

Enillodd Llafur yr Alban 20 sedd gan gynyddu nifer eu cynghorwyr i 282, a chymryd rheolaeth o un cyngor.

Lwyddodd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban a’r Gwyrddion i ennill seddi yn ogystal. Enillodd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban 20 sedd ar gyfer cyfanswm o 87 o gynghorwyr, ac enillodd y Gwyrddion 16 sedd, gan bron iawn ddyblu eu cynrychiolaeth i 35 o gynghorwyr.

Mewn cyferbyniad, collodd Plaid Geidwadol ac Unoliaethol yr Alban 62 sedd gan leihau nifer eu cynghorwyr i 214.

Collodd y cynghorwyr annibynnol gyfanswm o 19 o seddi ar draws y wlad gyda 149 o gynghorwyr yn weddill; serch hynny llwyddwyd i gadw rheolaeth ar eu tri chyngor.

Mae 27 o gynghorau ar draws yr Alban yn parhau i fod o heb unrhyw reolaeth gyffredinol.

Tabl 3: Canlyniadau Etholiadau Lleol yr Alban 2022

Plaid Seddi14https://www.emb.scot/downloads/download/160/scottish-local-government-elections-2022 Newid (o etholiad 2017)15Ffynhonnell y data: https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/the-power-of-preferences-stv-in-scottish-local-elections/#sub-section-5
Plaid Genedlaethol yr Alban 453 +22
Plaid Llafur yr Alban 282 +20
Plaid Geidwadol ac Unoliaethol yr Alban 214 -62
Annibynnol 149 -19
Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban 87 +20
Gwyrddion yr Alban 35 +16
Arall 3 -1
Cyfanswm 1,22316Roedd tair ward ar draws yr Alban lle nad oedd digon o ymgeiswyr, gyda thair sedd wag nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn y canlyniadau hyn Ddim ar gael

 

Cymesuredd

Mae cymesuredd wedi gwella’n aruthrol yn etholiadau’r Alban ers cyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn 2007. Mae canlyniadau o dan STV yn adlewyrchu’r pleidleisiau a fwriwyd yn llawer gwell nag o dan FPTP (Ffigur 6).

Ffigur 6: Cymhariaeth o gynrychiolaeth pob plaid mewn cyngor penodol o dan FPTP (2003) a STV (2007)

Fel y dangosir uchod, llwyddodd cyflwyno STV yn 2007 i sicrhau canlyniadau llawer mwy cymesur na’r etholiadau FPTP olaf yn 2003. Er enghraifft, enillodd yr SNP yn Midlothian yn 2003 24.4% o’r pleidleisiau ond 0% o’r seddi. Yn 2007 newidiodd hynny gyda’r SNP yn derbyn 33.4% o’r bleidlais dewis cyntaf a 33.3% o’r seddi. Nid yw cyfran y pleidleisiau a’r seddi bob amser yn cyfateb mor agos â hyn, ond bu gwelliant mawr mewn cymesuredd cyffredinol yn etholiadau 2007 o gymharu â 2003 o ganlyniad i gyflwyno STV. Un ffordd o fesur hyn yw gyda sgôr Gwyriad oddi wrth Gymesuredd (DV), sy’n fesur o ba mor gymesur yw etholiad. Po leiaf yw’r sgôr DV, yr agosaf yw canlyniad o ran nifer y seddi i’r pleidleisiau a fwriwyd gan yr etholwyr. Roedd y sgôr DV canolrifol ar draws cynghorau’r Alban yn etholiadau lleol 2007 (10.4) hanner yr hyn yr oedd wedi bod yn etholiadau lleol 2003 (20.9), sy’n dangos canlyniadau llawer mwy cymesur yn 2007, o dan STV, nag oedd wedi bod yn 2003, o dan FPTP.17https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/2007-scottish-local-elections/

Gwelwyd y canlyniadau mwy cymesur hyn unwaith eto yn etholiadau lleol 2022 oherwydd y system bleidleisio STV, gyda chyfran pleidlais dewis cyntaf y pleidiau ar draws holl gynghorau’r Alban yn cyfateb yn fras i’r gyfran o seddi (Ffigur 7).

Ffigur 7: Cymesuredd cyffredinol etholiadau lleol yr Alban wedi’i rannu fesul plaid

Roedd chwe achos lle’r oedd y gwahaniaeth rhwng cyfran pleidlais dewis cyntaf plaid a chyfran seddi yn fwy na 10 pwynt canran ar draws cynghorau yn yr Alban (Ffigur 8). Mae pob un o’r chwech yn enghreifftiau o or-gynrychiolaeth lle mae plaid yn dal dros 10% yn fwy o seddi na phleidleisiau, ac roeddent wedi’u gwasgaru’n weddol gyfartal ar draws y pedair prif blaid. Nid oedd yna unrhyw achosion o dan-gynrychiolaeth lle mae plaid yn dal dros 10% yn llai o seddi na phleidleisiau. Mae’n bwysig nodi o dan STV nad yw popeth yn cael ei benderfynu gan bleidleisiau dewis cyntaf yn unig, gan fod ail a thrydydd dewisiadau a.y.b. hefyd yn cyfrannu at ddyrannu seddi.

Ffigur 8: Gor-gynrychiolaeth o bleidiau yng nghynghorau lleol yr Alban

Does dim ond dau gyngor yn yr Alban lle mae plaid yn dal y mwyafrif o seddi ar leiafrif (h.y. llai na 50%) o’r pleidleisiau dewis cyntaf; mae hyn yn cynrychioli 6% o’r holl gynghorau (Ffigur 9).

Ffigur 9: Cynghorau yn yr Alban lle enillodd plaid fwyafrif o seddi ar leiafrif o bleidleisiau

Seddi diwrthwynebiad

Yn 2022, roedd wyth ward â seddi diwrthwynebiad yn yr Alban, gyda 18 cynghorydd yn cael eu hethol heb bleidlais ar draws y rhain (Tabl 4). Mae hyn yn cynnwys tair ward lle’r oedd dwy sedd ar gael ond dim ond un ymgeisydd oedd wedi’i enwebu, gan ddod â nifer y cynghorwyr naill ai wedi’u hethol heb bleidlais neu lle’r oedd sedd yn wag i 21.

Tabl 4: Seddi diwrthwynebiad yn etholiadau lleol yr Alban 2022 (Dadansoddiad ERS)

Cyngor Seddi diwrthwynebiad % Seddi diwrthwynebiad
Ynysoedd Shetland 5 21.7%
Comhairle nan Eilean Siar 4 13.8%
Inverclyde 3 13.6%
Moray 3 11.5%
Ucheldiroedd 3 4.0%
Cyfanswm 18 1.5%

Er bod seddi diwrthwynebiad neu seddi lle nad oedd digon o ymgeiswyr yn broblem yn etholiadau 2022, mae’n amlwg bod hyn wedi lleihau’n sylweddol ers i’r Alban newid ei system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i STV o FPTP yn 2007 (Ffigur 10).

Yn yr etholiadau lleol FPTP olaf yn yr Alban (2003) etholwyd 61 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad mewn 61 ward (pob un o’r wardiau un aelod). Yn y ddau etholiad cyntaf o dan STV nid oedd unrhyw seddi diwrthwynebiad. Yn etholiadau’r Alban yn 2017 roedd 3 ward diwrthwynebiad lle etholwyd 9 cynghorydd heb bleidlais.18https://www.electoralcommission.org.uk/sites/default/files/pdf_file/2017-Scottish-Council-elections-Report.pdf

Ffigur 10: Seddi diwrthwynebiad yn etholiadau lleol yr Alban 2003-2022

System etholiadol: FPTP neu STV

Blwyddyn Etholiad

Amrywioldeb

Ni aeth ERS Cymru ati i gasglu data ar amrywioldeb yn etholiadau lleol yr Alban; fodd bynnag ar gyfer yr adran hon rydym wedi defnyddio data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd gan Engender. Daw’r data hwn gyda’r un amodau â’n set ddata ar gyfer Cymru o ran ymgeiswyr a chynghorwyr.19Casglwyd y data hwn drwy ddulliau anecdotaidd a thybiaethau na ellir eu hystyried yn gadarn o gofio pwysigrwydd y wybodaeth.

Yn yr Alban amcangyfrifwyd bod 33% o ymgeiswyr ar gyfer cynghorau yn fenywod, cynnydd o 30.5% yn 2017.20https://www.engender.org.uk/news/blog/guest-post-womens-representation-in-the-scottish-local-council-elections-2022-what-we-know/ Cynyddodd nifer y cynghorwyr benywaidd a etholwyd hefyd o 29% yn 2017 i 35% yn 2022.21https://www.engender.org.uk/news/blog/making-it-happen-for-2027-transforming-local-democracy-for-women/ Fodd bynnag, yn debyg i Gymru, os yw hyn yn parhau ni chyrhaeddir cydraddoldeb rhwng y rhyweddau mewn llywodraeth leol am 2 neu 3 etholiad arall. Mae yna un cyngor yn yr Alban, Gorllewin Lothian lle amcangyfrifir bod 51.5% o’r cynghorwyr yn fenywod, er bod y llwybr at gydraddoldeb rhwng y rhyweddau yn y cyngor hwn yn llai clir nag yng Nghymru, lle gwyddom fod gweithredu cadarnhaol gan bleidiau wedi chwarae rhan fawr.

Yr olwg o lawr gwlad - Mat Mathias, ERS Cymru

Y gwahaniaethau mewn ymgyrchu yn yr Alban o gymharu â Chymru

Mat MathiasI fod yn dyst i etholiad STV ar waith, aeth ERS Cymru i Ddwyrain Ayrshire yn yr Alban yn ystod yr etholiadau lleol yng ngwanwyn 2022. Fe wnaethom nid yn unig siarad â phleidleiswyr ond hefyd trefnu cyfweliadau ag ymgeiswyr o amrywiaeth o bleidiau, yn cynnwys rhai annibynnol, gan dreulio amser yn arsylwi arnynt yn ymgyrchu.

Rwyf wedi bod gydag ERS Cymru ers 5 mlynedd ac wedi edrych yn fanwl ar amryw o etholiadau yn y cyfnod hwnnw. O’r herwydd, mae’n ddiddorol gweld rhai o’r gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r ymgyrchoedd yn gweithio o dan systemau pleidleisio gwahanol.

Yn yr Alban, byddech fel ymgeisydd yn ymgyrchu ym mhobman oherwydd bod pleidleisiau posibl ym mhobman, tra yng Nghymru bydd rhai pleidiau fel arfer yn cynnig ymgeiswyr dim ond lle maent yn meddwl y gallant ennill.

Yn achos ymgeiswyr yng Nghymru rydych yn curo ar ddrws adeg etholiad a bydd y person hwnnw naill ai’n pleidleisio drosoch chi neu beidio. Dyna’r cyfan. Wrth i mi gerdded gyda chanfaswyr un blaid yn Kilmarnock, roedd y newid yn amlwg. Os nad oedd yr ymgeisydd i fod yn ddewis cyntaf y pleidleisiwr, roedd yn rhaid iddo ddangos mai ef oedd y person cywir a bod ganddo’r polisïau cywir i haeddu ail neu drydydd dewis, oherwydd mewn etholiad STV, mae hynny’n cyfrif.

Fel y dywedodd un ymgeisydd oedd wrthi’n ymgyrchu wrthyf, “Hyd yn oed os ydych yn gwybod nad ydynt yn pleidleisio dros fy mhlaid i, rydych yn dal i guro ar eu drws oherwydd eu bod yn fy adnabod neu efallai eu bod yn gwybod fy mod yn cyflawni’r gwaith.”

Mae’r newid go iawn ar gyfer y pleidleisiwr. Mae’n ymwneud â dewis, yn gwbl briodol, eu dewis nhw.

Rydym yn gymdeithas gynnil ac felly mae angen system etholiadol gynnil arnom. STV yw’r system honno. Efallai y bydd pobl yn hoffi ac yn cefnogi polisïau gan nifer o bleidiau neu ymgeiswyr annibynnol, ond o dan FPTP yn aml dim ond un dewis sydd ganddyn nhw. Dywedodd rhai pleidleiswyr ym mhentref Dalmellington wrthyf y gallent bleidleisio dros ymgeisydd sy’n gweithio’n galed o blaid na fyddent fel arfer yn ei chefnogi, drwy eu gosod yn gyntaf neu’n ail, ac yn dal i fod yn deyrngar i’w plaid eu hunain. Un o’r pethau mwyaf cadarnhaol am etholiadau tecach yn yr Alban yw y byddai gan fwyafrif mawr o’r bobl ym mhob ward bellach gynghorydd yr oeddent wedi pleidleisio drosto, oherwydd y system gyfrannol a wardiau aml-aelod.

Mae strategaeth a thactegau wrth ymgyrchu mewn etholiadau yn bwysig, waeth beth fo’r system etholiadol. Diddorol oedd gweld hyn mewn etholiad STV. Roedd gwahaniaethau cynnil rhwng pleidiau, hyd yn oed o bentref i bentref. Mae bod mewn ward aml-aelod yn golygu bod gan ymgeiswyr gysylltiad cryf o hyd â’u cymunedau, ond bod yn rhaid i bleidiau ystyried y defnydd gorau o’u hadnoddau. Mae hyn yn cynnwys nifer yr ymgeiswyr i’w cynnig mewn ward, sut mae ymgeiswyr yn cael eu cyflwyno mewn llenyddiaeth a sut rydych chi’n cyfleu’r dewis hwnnw i bleidleiswyr. Er enghraifft, fel plaid sut ydych chi’n ymgysylltu â’ch pleidleiswyr ar garreg y drws ynghylch pa ymgeisydd y mae’r blaid yn awyddus i annog pobl i’w enwebu fel dewis cyntaf?

Crynhowyd hyn gan ymgeisydd yn New Cumnock a ddywedodd wrthyf “Mewn mannau lle mae fy nghyd-ymgeisydd yn boblogaidd iawn, mae ein taflenni yn gofyn i bleidleiswyr fy ngosod i fel dewis 1af ac ef yn ail, ac mewn pentrefi eraill yn y ward mae i’r gwrthwyneb.”

Mae’n amlwg ers i’r penderfyniad gael ei wneud yn 2003 i’w holl gynghorwyr gael eu hethol gan ddefnyddio STV, bod gan wleidyddiaeth leol yn yr Alban bellach system sy’n addas ar gyfer democratiaeth yn yr 21ain canrif.

Nid yw’r newid yn y system etholiadol yn golygu bod ein gwleidyddiaeth wedi ymwahanu’n llwyr. Yn yr Alban, fel yma yng Nghymru, rydych chi’n dal i weld ymgeiswyr ymroddedig ac angerddol, yn cael eu hybu gan eu timau yn mynd o gwmpas y gymdogaeth yn curo ar ddrysau, yn ymweld â chanolfannau cymunedol, eu strydoedd lleol, busnesau a ffermydd i ddarbwyllo pobl nid yn unig i bleidleisio ond i bleidleisio drostyn nhw. Y gwahaniaeth yw bod yn rhaid i’r ymgeiswyr yn yr Alban siarad â mwy o bobl a gwneud yn siŵr bod ganddynt syniadau i ysbrydoli mwyafrif y pleidleiswyr, nid dim ond y lleiafrif bach a allai sicrhau buddugoliaeth yn ein system farwaidd ni.

Yn yr Alban mae gan bleidleiswyr ddewis i wobrwyo nifer o ymgeiswyr sydd wedi gweithio’n galed ac yn eu barn nhw sy’n haeddu eu pleidlais. Mae’r tri neu bedwar cynghorydd ward hynny a etholwyd drwy STV yn dangos amrywioldeb y bobl, barn a syniadau’r bobl a’u hetholodd a siawns mai dyna’r holl bwynt?

Cymharu etholiadau Cymru a'r Alban 2022

Cymru a'r Alban 2022

Yng Nghymru mae etholiadau lleol yn dal i gael eu cynnal o dan Gyntaf i’r Felin gyda wardiau’n amrywio o ran maint o un aelod i aml-aelod. Mae mwyafrif wardiau Cymru, 430 ohonynt, yn ethol un cynghorydd, tra bod y ddwy ward fwyaf yng Nghymru yn ethol pum cynghorydd, ac maen nhw yn Abertawe. Mewn cyferbyniad i hyn, cynhelir etholiadau lleol yr Alban o dan y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda wardiau aml-aelod; mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ethol naill ai tri neu bedwar cynghorydd, gydag adolygiad ffiniau ar ôl 2017 yn cyflwyno nifer fach o wardiau dwy a phum sedd am y tro cyntaf. Mae’r rhain yn cynnwys saith ward â dwy sedd, chwech yn Comhairle nan Eilean Siar ac un yng nghyngor Shetland, ynghyd â thair ward pum sedd, pob un ohonynt yng Ngogledd Ayrshire. Yn y chwe ardal cyngor yn yr Alban sy’n cynnwys ynysoedd lle mae pobl yn byw, caniateir wardiau un aelod. Ar hyn o bryd mae un ward o’r fath, ar Ynys Arran, lle mae’r enillydd i bob pwrpas yn cael ei ethol o dan system y Bleidlais Amgen (AV).

Mae’r ffordd y caiff data ei gasglu a’i adrodd hefyd yn wahanol rhwng y ddwy wlad. Yng Nghymru mae awdurdodau lleol unigol yn cyhoeddi eu canlyniadau eu hunain gyda’r union wybodaeth yn amrywio o un ardal i’r llall. Yn yr Alban, mae cyhoeddi canlyniadau yn gyson ar draws pob awdurdod lleol gyda phob un yn darparu’r un data. Mae hyn yn cynnwys; nifer y pleidleisiau, nifer y pleidleisiau dilys, y nifer a bleidleisiodd, canlyniadau’r etholiad STV yn llawn a gwybodaeth am bleidleisiau a ddifethwyd. Mae gan yr Alban hefyd ei Bwrdd Rheoli Etholiadol ei hun sy’n darparu mynediad llawn a thryloyw i ganlyniadau cyffredinol etholiadau lleol yr Alban, gan gynnwys dadansoddiad o gyfran pleidleisiau’r pleidiau a chyfran seddi fesul cyngor a ward unigol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar gyflwyno Bwrdd Rheoli Etholiadol yng Nghymru fel rhan o’u Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol, a allai ddarparu’r safoni data hwn ar gyfer Cymru.

Cymesuredd

Y gwahaniaeth mawr rhwng etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban yw cymesuredd canlyniadau, sy’n deillio o’r systemau pleidleisio a ddefnyddir yn y naill etholiad a’r llall. Yng Nghymru mae FPTP yn ei hanfod yn gwarantu canlyniadau anghymesur, tra bod STV wedi gwneud etholiadau’r Alban yn llawer mwy cymesur.

Fel y dangosir isod, mae gwahaniaethau mawr rhwng etholiadau lleol 2022 yng Nghymru a’r Alban (Ffigur 11). Yng Nghymru, mae 11 o’r 22 awdurdod lleol (50%) yn cynnwys plaid sy’n cael dros 10% yn fwy o gynrychiolaeth o ran cyfran seddi na chyfran o’r bleidlais, o gymharu â llai na 19% o awdurdodau yn yr Alban. O ran lle mae cyfran seddi’n fwy na 10% yn is na chyfran y bleidlais i blaid, mae hyn yn digwydd mewn 27% o awdurdodau Cymru a 0% o awdurdodau yn yr Alban. Yn olaf, yng Nghymru mae gan dros draean o awdurdodau blaid gyda mwyafrif o seddi ar leiafrif o bleidleisiau, sy’n chwe gwaith yn fwy cyffredin nag yn yr Alban, lle mae hyn yn digwydd mewn dim ond 6% o awdurdodau.

Ffigur 11: Cymhariaeth o ganran y cynghorau â chanlyniadau anghymesur rhwng etholiadau lleol Cymru a’r Alban

% yn etholiadau lleol 2022

>10% gor-gynrychiolaeth

>10% dan-gynrychiolaeth

Mwyafrif o seddi ar leiafrif o bleidleisiau

Yn y pen draw, mae anghymesuredd yn golygu bod pleidleiswyr ar eu colled, gan nad yw pleidleisiau’n cyfateb i seddi ac ni fydd llawer yn cael eu cynrychioli gan ymgeiswyr y gwnaethant bleidleisio drostynt. Fodd bynnag, nid pleidleiswyr yw’r unig rai sydd ar eu colled. Mae pleidiau hefyd dan anfantais o dan FPTP, gan fod rhaid iddynt chwarae’r system ac yn aml dydyn nhw ddim yn gweld cynrychiolaeth deg yn sgil y pleidleisiau y bu iddynt ymladd mor galed i’w hennill.

Yn yr Alban, mae’r darlun wedi gwella’n sylweddol ers cyflwyno STV, ac fel mae Ffigur 10 yn dangos, daeth y newid hwn yn syth ar ôl y newid yn y system etholiadol.

Seddi diwrthwynebiad

Mae seddi diwrthwynebiad yn broblem wirioneddol ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru, gyda chyfanswm o 74 yn yr etholiadau lleol eleni. Er bod hyn i lawr o 92 yn 2017 mae’n dal i fod yn broblem barhaus sy’n annhebygol o wella ar gyfer yr etholiadau nesaf oni bai bod camau gwirioneddol yn cael eu cymryd.

Mae gan y system bleidleisio ran i’w chwarae yn nifer y seddi diwrthwynebiad yng Nghymru. Mae’r seddi diwrthwynebiad hyn yn bennaf mewn wardiau un aelod, ac mae enghreifftiau o ddiffyg cystadleuaeth mewn llawer o’r seddi hyn. Gwelodd Ward Machynlleth ym Mhowys gystadleuaeth am ei sedd am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd yn yr etholiad hwn.22https://www.cambrian-news.co.uk/news/politics/first-election-for-more-than-four-decades-544173

Roedd yr Alban yn arfer wynebu problemau tebyg o ran seddi diwrthwynebiad, gyda 61 o seddi diwrthwynebiad allan o 1,222 yn etholiad 2003 (5%) ond ers symud i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mae hyn wedi gostwng yn sylweddol. Nid oedd yna unrhyw seddi diwrthwynebiad yn y ddau etholiad cyntaf yn yr Alban o dan STV. Yn 2017 a 2022 roedd yna enghreifftiau o seddi lle nad oedd digion o ymgeiswyr neu seddi diwrthwynebiad yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ond roedd y rhain yn llawer is nag yng Nghymru o dan y system FPTP (Ffigur 12).

Ffigur 12: Canran y seddi diwrthwynebiad mewn etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban 2007-2022

* Cynhaliwyd etholiadau cyngor yn 2007 yn yr Alban a 2008 yng Nghymru

** Cynhaliwyd etholiad Cymru 2012 ar draws yr holl gynghorau ac eithrio Ynys Môn tra cynhaliwyd adolygiad o drefniadau etholiadol

Amrywioldeb

Mae data ar amrywioldeb ymgeiswyr a chynghorwyr etholedig yn wan yng Nghymru a’r Alban. Yn absenoldeb data o’r fath, dim ond amcangyfrif o’r cydbwysedd rhwng rhyweddau’r ymgeiswyr a chynghorwyr yng Nghymru yr ydym wedi gallu ei gynhyrchu, ac rydym wedi dibynnu ar ddata amodol tebyg a gasglwyd gan Engender yn yr Alban. Nid yw ERS nac Engender wedi gallu llunio amcangyfrif o nifer y bobl sy’n sefyll ac wedi’u hethol sydd â nodweddion gwarchodedig eraill megis oedran, anabledd, hil, neu rywioldeb.

Un o ofynion sylfaenol cael darlun mwy cywir o amrywioldeb ein cynghorwyr yw gwella’r data sy’n ymwneud â hyn. Mae’n hen bryd gweithredu adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gasglu a chyhoeddi eu data amrywioldeb. Rydym yn falch bod hwn yn bwynt a ystyriwyd ac y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar ddiwygio’r Senedd, a ddywedodd yn eu hadroddiad terfynol “Rydym yn argymell gosod gofyniad deddfwriaethol ar Awdurdod datganoledig yng Nghymru i gasglu a chyhoeddi data dienw  ynghylch amrywioldeb ymgeiswyr”.23https://senedd.wales/media/5mta1oyk/cr-ld15130-e.pdf

Gyda’r data cyfyngedig sydd ar gael i ni, mae’r darlun o ran amrywioldeb rhwng y rhyweddau yng Nghymru a’r Alban yn gymharol debyg. Mae Cymru a’r Alban wedi gweld cynnydd yn nifer amcangyfrifedig y menywod sy’n cael eu hethol mewn etholiadau lleol; menywod yw tua 35% o gynghorwyr yr Alban.24https://www.engender.org.uk/news/blog/making-it-happen-for-2027-transforming-local-democracy-for-women/ Yng Nghymru amcangyfrifir bod y ffigur hwn bellach yn 36%. Yng Nghymru mae cysylltiad clir â gweithredu cadarnhaol, gyda dau awdurdod lleol yn sicrhau cydbwysedd o 50% rhwng y rhyweddau o ganlyniad i wahanol fesurau gweithredu cadarnhaol.

Casgliad

Casgliad

Mae’r adroddiad hwn wedi dangos bod y system etholiadol a ddefnyddir yn yr Alban ar gyfer etholiadau lleol gryn lawer tecach na’r system a ddefnyddir yng Nghymru. Er nad oes unrhyw system yn berffaith, mae cyflwyno STV yn etholiadau lleol yr Alban wedi arwain at ganlyniadau llawer mwy cymesur, gan olygu bod mwy o bobl yn cael eu cynrychioli gan rywun y maent wedi pleidleisio drostynt, a llai o seddi diwrthwynebiad dros y 15 mlynedd diwethaf.

Yng Nghymru mae gennym gyfle nawr i ddilyn esiampl yr Alban, gyda chynghorau unigol yn gallu pleidleisio dros symud i STV cyn etholiadau 2027.

Bydd angen i gynghorau bleidleisio dros symud i STV cyn 15fed Tachwedd 2024. Bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair arnynt, a dim ond unwaith bob tymor y gellir cynnal pleidlais. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sy’n ceisio gwneud hyn hefyd ymgymryd â phroses o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn eu hardal.

Requirements infographic CY

Disgwyliwn i fanylion pellach am y rheolau ar gyfer newid y system etholiadol gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd. Mae’r broses hon ar gyfer newid y system yn anodd, ond bydd y manteision i bleidleiswyr, ac i lywodraeth leol yn enfawr. Byddem yn gweld canlyniadau tecach, gyda phobl yn teimlo fel bod eu pleidleisiau yn cyfrif, a byddem yn debygol o weld llai o seddi diwrthwynebiad. O dan STV byddem yn gweld wardiau aml-aelod cystadleuol, felly byddai gan bob plaid gyfle lle bynnag y maent yn ymgyrchu.

Fel y mae’r adroddiad hwn wedi’i ddangos, roedd y newid yn yr Alban yn ôl yn 2007 yn un cadarnhaol i ddemocratiaeth leol yr Alban. Nawr, yma yng Nghymru dylai cynghorwyr wneud penderfyniadau beiddgar a chefnogi trafodaethau o fewn eu hawdurdod i sicrhau democratiaeth leol gref yng Nghymru.

Read more publications...

Clywed Ein Lleisiau

Syniadau pobl ifanc ar gyfer addysg wleidyddol yng nghymru

Postiwyd 28 Tach 2018

Clywed Ein Lleisiau