Gan Jess Blair, ERS Cymru
Os ydych chi’n berson ifanc sy’n byw yng Nghymru yn 2018, mae eich tirwedd wleidyddol wedi gweddnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyd-destun Brexit, Trump a ffug newyddion, mae mwy yn y fantol i bobl ifanc nag erioed wrth i ddigwyddiadau o’r fath effeithio’n uniongyrchol ar eu dyfodol.
Yng Nghymru, daw’r amser gwleidyddol seismig hwn ynghyd â chamau i ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad a llywodraeth leol. Y flwyddyn nesaf, bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i droi hyn yn realiti, ac mae’n debygol y bydd y bobl ifanc 16 oed gyntaf yn pleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.
Yn y cyd-destun hwn, ni fu adeg well erioed i ailystyried rôl democratiaeth yn addysg. Mae gennym ni gyfle yma – cyfle i wneud pobl ifanc yn ddinasyddion gweithredol a rhoi llawer mwy o arbenigedd gwleidyddol iddynt na’r hyn roedd gan y gweddill ohonom ni pan aethon ni ati i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae’r ffaith bod pobl ifanc, yn y bôn, yn gynulleidfa gaeth, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn yr ysgol, yn rhoi llwybr uniongyrchol i ni i ennyn diddordeb, addysgu a grymuso’r union bobl sydd wrth wraidd dyfodol Cymru.
Dros y misoedd diwethaf, mae ‘Clywed Ein Lleisiau’ wedi siarad â bron 200 o bobl ifanc am wleidyddiaeth, addysg wleidyddol a democratiaeth. Credwn ni fod y bobl ifanc hyn yn cynrychioli galw ehangach am newid. Mae arwyddocad ‘ein’ yn ‘Clywed Ein Lleisiau’ yn syml – dyma’r bobl ifanc rydyn ni wedi bod yn siarad â nhw. Dyma’u cyfle nhw i ddweud eu dweud a llywio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae ein sesiynau gyda phobl ifanc mewn 11 ysgol ledled Cymru wedi cael eu cyd-gynhyrchu. Mae hynny’n golygu ein bod ni wedi gofyn iddyn nhw am eu syniadau a’u hargymhellion ar sut mae gwella addysg wleidyddol yng Nghymru. Yna, pleidleisiodd pob dosbarth dros eu hoff argymhellion, ac aeth y rheiny at banel o bobl sy’n gweithio mewn addysg a gwleidyddiaeth, athrawon a phobl ifanc er mwyn eu mireinio a’u paratoi i’w rhoi’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.
Mae’r bobl ifanc rydyn ni wedi siarad â nhw wedi dweud wrthym ni fod diffyg addysg wleidyddol ar hyn o bryd mewn ysgolion. Roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi cael ychydig iawn, os o gwbl. Eto i gyd, roedd awydd gwybod mwy er gwaethaf hyn. Mwy am y modd mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, sut mae ymgyrchu a dylanwadu ar y penderfyniadau hynny, a sut mae pethau yng Nghymru’n gweithio mewn gwirionedd. Hefyd, fe wnaeth bron pob un o’r ysgolion alw am well addysg gyllido i gyd-fynd â gwybodaeth am ddemocratiaeth, yn ogystal â mynnu profiadau mwy ymarferol o wleidyddiaeth. Y syniadau a gafwyd dro ar ôl tro oedd ynghylch yr angen am ffug etholiad cenedlaethol lle gallai pobl o dan yr oedran pleidleisio ‘ymarfer’ pleidleisio ar yr un pryd ag oedolion.
Ar hyn o bryd, i’r rhan fwyaf o bobl, dim ond y peth sy’n digwydd yn y cefndir yw gwleidyddiaeth. Mae angen i ni bontio’r bwlch rhwng gwleidyddiaeth a’r bobl a dangos mai ochr bersonol gwleidyddiaeth yw’r ffordd o ddechrau adeiladu’r bont honno. P’un ai gwleidyddion yn dod i mewn i ysgolion i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, neu ysgolion yn cael cyfle i fynd ar daith i sefydliadau gwleidyddol fydd hynny, gall dangos ochr ymarferol democratiaeth i bobl ond ategu’r hyn mae modd ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth.
Felly, daw’r syniadau rydyn ni’n eu cyflwyno yn ‘Clywed Ein Lleisiau’ yn uniongyrchol oddi wrth bobl ifanc ac ar eu cyfer. Galw am newid ydyn nhw, fel bod modd i genedlaethau’r dyfodol fod yn fwy parod na ni i ymdopi â democratiaeth sy’n cael ei newid a’i herio a bod yn rhan ohoni. Gobeithio bydd eu lleisiau’n cael eu clywed yn llawn.
Jess Blair
Cyfarwyddwr, ERS Cymru
Gan Madison Phipps Magill
Mae Cymru’n symud ymlaen gyda’i Senedd Ieuenctid ac yn cyflwyno’r Bleidlais yn 16 oed, ond rydyn ni’n dal i weld nad yw pobl ifanc yn cael addysg ar wleidyddiaeth sy’n eu galluogi nhw i wneud penderfyniad a dewis deallus. Felly mae’n bwysig cynnwys addysg wleidyddol yn y cwricwlwm addysg.
Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a dwi’n credu dylai plant a phobl ifanc gael grym i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a deall y broses wneud penderfyniadau, pwy yw’r pleidiau gwleidyddol a’r hyn sydd yn eu maniffestos.
I mi, mae’r argymhelliad ynghylch cyflwyno gwleidyddiaeth yn yr ysgol yn wythnosol yn bennaf mewn ABCh a’r Fagloriaeth Gymreig yn allweddol. Dwi’n ei mwynhau, ond mae angen iddi fod yn briodol i oedran y myfyrwyr sy’n cael yr wybodaeth ac mae angen dechrau ym mlwyddyn 6.
Dwi’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i’r hyn rydyn ni’n ei ddweud. Pe bai modd i mi ofyn un cwestiwn i’r Ysgrifennydd Addysg, buaswn i’n gofyn sut bydd hi’n mynd i flaenoriaethu addysg wleidyddol yng Nghymru a faint o gynnydd mae angen ei wneud i roi hyn ar waith.
Madison Phipps Magill
14, Ysgol Uwchradd Bedwas
Cyfranogwr yn y prosiect
‘Clywed Ein Lleisiau’