Hefyd ar gael yn: English

Maniffesto ar gyfer Democratiaeth: Etholiad Senedd Cymru 2021

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 22nd Hydref 2020

Contents
1. Rhagarweiniad
  1. Rhagarweiniad
2. Gofyniad Maniffesto 1
  1. Senedd Gryfach
3. Gofyniad Maniffesto 2
  1. Moderneiddio Llywodraeth Leol
4. Gofyniad Maniffesto 3
  1. Dyfnhau Democratiaeth
5. Gofyniad Maniffesto 4
  1. Addysg ar gyfer y dyfodol

Rhagarweiniad

Rhagarweiniad

Mae democratiaeth Cymru ar y dibyn.

Mae canran y rheini a bleidleisiodd yn etholiadau’r Senedd erioed wedi cyrraedd 50%, dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, a dim ond 60 o aelodau sydd mewn Senedd sy’n pasio deddfwriaeth â’r pŵer i amrywio trethi.

Yn ystod y pedair blynedd ers etholiadau diwethaf y Senedd, gwelwyd rhywfaint o gynnydd. Yn bwysicach, mae ehangu’r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi’i wireddu, a byddwn yn gweld set ifancach o bleidleiswyr yn bwrw eu pleidlais y flwyddyn nesaf i ddweud eu dweud. Gwelwn hefyd ddeddfwriaeth ar ehangu’r etholfraint i etholiadau lleol, gan roi’r dewis i gynghorau newid y system bleidleisio, a rhai newidiadau mawr i’r ffordd y mae pleidleiswyr yn cofrestru.

Mae’r cyfan hyn yn gam gwych ymlaen, ond mae angen i ni fynd ymhellach os ydym am fynd i’r afael â’r heriau systemig difrifol yn ein democratiaeth.

Er gwaethaf dod yn ‘Senedd’, mae’r Senedd o dan fygythiad oherwydd yr argyfwng ymddiriedaeth a welwn ar draws y byd gwleidyddol. Mae’n rhaid i’r Cynulliad a’r pleidiau ymateb gyda mwy o ddemocratiaeth ac nid llai, gyda gweledigaeth bositif ar gyfer dyfnhau ymgysylltiad a gwneud y Senedd yn lle ‘ni’n hunain’ – gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru.

Wrth agosáu at yr etholiad nesaf, mae’n rhaid i’n pleidiau gwleidyddol ymrwymo i wneud newidiadau trawsnewidiol ar ran pobl Cymru, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn iawn ac i sicrhau bod ein sefydliadau’n gallu ymateb i heriau’r degawdau sydd i ddod.

Rydym yn galw am bedair blaenoriaeth ddiwygio erbyn Llywodraeth nesaf Cymru, ac yn gofyn am ymrwymiadau radical ym maniffestos y pleidiau cyn etholiadau 2021:

  • Gweithredu’n llawn argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, i gynyddu nifer Aelodau’r Senedd i tua 90, ochr yn ochr â gweithredu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda chwota rhywedd integredig. Dylai hyn ddigwydd yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf.
  • Diwygio llywodraeth leol ymhellach i gynnwys cyflwyno’r STV yn llawn ar gyfer etholiadau lleol ym mhob awdurdod. Dylai’r pleidiau hefyd ymrwymo i fesurau pendant i hyrwyddo amrywiaeth, fel cwotâu rhywedd, casglu a chyhoeddi data amrywiaeth, a Chronfa Mynediad i Swydd Etholedig pellgyrhaeddol i gynnwys cefnogaeth i bobl o set lawer ehangach o gefndiroedd na’r darpariaethau cyfredol. Mae cwotâu, yn benodol, yn hanfodol i sicrhau nad ydym yn parhau i weld niferoedd isel o fenywod yn cael eu hethol mewn cynghorau Lleol.
  • Mabwysiadu dulliau democratiaeth gydgynghorol i brosesau llunio polisïau safonol, gyda dulliau fel cyllidebu cyfranogol a chynulliad y bobl yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i fynd i’r afael â diffyg ymgysylltu â chymunedau ac i ddatrys dadleuon gwleidyddol penodol.
  • Ymrwymiad i addysg wleidyddol statudol o fewn ysgolion i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd ac i sicrhau bod pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda llawer mwy o wybodaeth am y system wleidyddol na chenedlaethau blaenorol wrth adael ysgol.

Gofyniad Maniffesto 1

Senedd Gryfach

Ers 1999, mae datganoli wedi datblygu’n gyflym. Mae meysydd polisi newydd wedi’u datganoli gan gynnwys pwerau dros etholiadau. Bellach mae gennym hefyd bwerau deddfu sylfaenol a phwerau i amrywio trethi sy’n creu cyllideb llawer mwy cymhleth.

Pwrpas y Senedd yw craffu ac i ddal y llywodraeth i gyfrif, ac mae pŵer Llywodraeth Cymru yn amhosib i’w adnabod bron iawn o’i gymharu â blynyddoedd cyntaf datganoli. Ond pwy sy’n dal y llywodraeth i gyfrif? Pwy sy’n craffu ar ddeddfwriaeth sy’n gallu cwmpasu unrhyw beth o’r GIG hyd at ysgolion neu safleoedd tirlenwi hyd yn oed?

A’r ateb – ychydig dros 40 o bobl sy’n gwneud y gwaith hwnnw.

Er gwaetha’r ffaith bod y tirlun gwleidyddol wedi newid yn sylfaenol yn ystod y ddau degawd diwethaf, mae’r Senedd wedi parhau i gael cyfanswm o 60 o aelodau. Os ydych chi’n tynnu aelodau’r llywodraeth, arweinwyr y pleidiau, y Llywydd a’i dirprwy, mae 41 o aelodau’r meinciau cefn ar ôl i wneud y gwaith o graffu ar newidiadau polisi o ddydd i ddydd sy’n effeithio ar dros 3 miliwn o bobl yng Nghymru.

Nid yw hynny’n ddigon ar unrhyw gyfrif. Mae gan yr Alban 129 o ASAau yn Holyrood, tra bod Stormont nôl wrthi gyda 90 o ACDau.

Yn y Senedd, mae 17 o’r 41 o Aelodau’n sy’n eistedd ar Bwyllgorau, swyddogaeth graffu hollbwysig mewn unrhyw senedd, yn eistedd ar dri neu fwy.

Yn 2017, daeth Panel Arbenigol, a gadeiriwyd gan yr Athro Laura McAllister, i’r casgliad bod angen tua 80-90 o aelodau ar y Senedd i wneud ei gwaith yn iawn.

Ochr yn ochr â chynnydd yn nifer yr Aelodau, trafododd y Panel Arbenigol hefyd sut dylai’r Senedd newydd, fwy, gael ei hethol, gan ffafrio system etholiadol Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda chwota rhywedd integredig.

Rydym wedi cefnogi STV fel system bleidleisio ar gyfer y Senedd ers tro. Gyntaf oll, mae’n cynnig lefel o gymesuredd sy’n llawer uwch ond mae hefyd yn sicrhau mandad cyfartal i’r holl aelodau. Mae’r System Aelodau Ychwanegol (AMS) gyfredol yn darparu dau fath o aelod, sydd wedi arwain at rywfaint o densiwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I gloi, mae gallu’r STV i gynnwys cwota rhywedd i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal yn y Senedd yn gam hollbwysig i hyrwyddo a diogelu amrywiaeth mewn sefydliad a fu’n arweinydd byd-eang yn y maes hwn yn y gorffennol.

Er gwaetha’r argymhellion gwych hyn, ychydig iawn sydd wedi newid dair blynedd yn ddiweddarach.

Gwnaeth adroddiad y Panel Arbenigol nifer o argymhellion pwysig i gryfhau’r Senedd, ond hyd yma, dim ond yr argymhelliad i ehangu’r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi’i wireddu. Mae gennym bryderon mawr ynglŷn â natur ‘dewis a dethol’ sut mae argymhellion yr adroddiad wedi’u gwireddu hyd yma.

 

Adleisiodd adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Medi 2020 nifer o argymhellion y Panel Arbenigol, gan gadarnhau bod gennym ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau bod Senedd Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru.

Rydym o’r farn ei bod yn hanfodol bod yr argymhelliad i gynyddu capasiti’r Senedd, cynyddu ei aelodaeth i hyd at 90 o aelodau, ochr yn ochr â chyflwyno system bleidleisio STV gyda chwota rhywedd integredig, yn cael eu gweithredu’n fuan.

Gofyniad Maniffesto 1: Gweithredu argymhellion y Panel Arbenigol yn llawn i  gynyddu nifer Aelodau’r Senedd i tua 90, ochr yn ochr â gweithredu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) gyda chwota rhywedd integredig. Dylai hyn ddigwydd yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf.

 

Gofyniad Maniffesto 2

Moderneiddio Llywodraeth Leol

Mae angen diwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru yn sylweddol hefyd.

Parhaodd yr etholiadau diwethaf yn 2017 gyda’r patrwm o ddiffyg cynrychiolaeth o ran amrywiaeth a dewis i bleidleiswyr.

Dim ond 28% o’r cynghorwyr gafodd eu hethol yn 2017 oedd yn fenywod. Drwy gydol 2017 a 2018, roedd gan ddau awdurdod lleol gabinet o ddynion yn unig.

O dan system ‘un-person-yn-cymryd-popeth’, canfu pobl nad oedd eu pleidleisiau’n cael eu cynrychioli’n effeithiol. Yng Nghaerdydd, derbyniodd Llafur 53% o’r seddi gyda 36% yn unig o’r bleidlais. Yng Nghonwy, cymerodd y Ceidwadwyr 27% yn unig o’r seddi er gwaethaf sicrhau 37% o’r bleidlais, tra bod Plaid Cymru wedi cymryd 17% o seddi gyda 8% yn unig o’r bleidlais.

Mae hyn i gyd yn cyfrannu at greu sefyllfa lle mae datgysylltiad amlwg rhwng pleidleiswyr a’r cynghorwyr sy’n eu cynrychioli nhw. Naill ai oherwydd eu bod i raddau helaeth yn ddynion, yn hŷn ac wedi cadw eu seddi ers nifer o flynyddoedd, neu oherwydd bod pobl yn teimlo nad yw eu pleidleisiau’n cyfrif ac nad yw eu lleisiau wedi’u clywed. Yn yr etholiadau lleol diwethaf, dim ond 42% wnaeth bleidleisio.

Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn darparu rhai o’r gwasanaethau sylfaenol sy’n caniatáu i gymunedau ffynnu. O sicrhau cludiant i’r ysgol, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i bobl oedrannus, mae llywodraeth leol wrth wraidd sut mae ein bywydau’n cael eu rhedeg. Dyna pam y mae’n rhaid iddo fod yn ymatebol i safbwyntiau pleidleiswyr  mewn ffordd fwy uniongyrchol.

Ni ddylai canlyniadau teg fod yn ddewisol

O ran sut i ddiwygio etholiadau lleol yng Nghymru, gwnaed camau cychwynnol yn Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sy’n argymell model o ‘gynrychiolaeth gyfrannol ganiataol’ lle gall cynghorau unigol ddewis symud i ddefnyddio STV fel y system bleidleisio ar gyfer eu hetholiadau.

Mae gennym bryderon mawr na fydd hyn yn ddigon i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd o fewn llywodraeth leol Cymru. Mae’n debygol mai ychydig iawn o gynghorau fydd yn penderfynu diwygio eu hunain, gan fod eu haelodau yn amlwg yn elwa o’r status quo annheg o ganlyniadau un-person-yn-cymryd-popeth.

Beth sydd angen i ni ei weld yw symudiad cyflawn tuag at STV, yn debyg i’r hyn ddigwyddodd yn yr Alban, lle mae STV wedi’i ddefnyddio mewn etholiadau lleol ers 2007. Mae etholiadau lleol olynol o dan system newydd wedi dangos lefel gynyddol o gymesuredd, dewis llawer uwch i bleidleiswyr a phleidleiswyr yn dod i arfer yn gyflym â’r system.

Amrywiaeth

O ran amrywiaeth, mae’n amser am gynnydd.  Ar hyn o bryd, nid yw cynghorau yn gynrychioliadol o’r amrywiaeth a welir yn eu hetholaethau. Rydym wedi galw ers tro am gyflwyno cwotâu mewn llywodraeth leol. O gofio’r anhawster wrth reoleiddio ymgeiswyr annibynnol, mae’n rhaid i hyn ddechrau yn y lle cyntaf o fewn strwythur y pleidiau, gyda phleidiau yn cyflwyno nifer llawer uwch o ymgeiswyr benywaidd.

Un o’r prif rwystrau i fynd i’r afael â diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol yng Nghymru yw’r prinder data cywir ynglŷn â demograffeg ymgeiswyr a’r rheini sy’n cael eu hethol. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU ers tro i ddeddfu Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, ond yn absenoldeb hynny, dylai pleidiau ymrwymo i gasglu a chyhoeddi eu data eu hunain. Dylai’r Gweinidog Llywodraeth Leol nesaf ymrwymo i sicrhau bod pob Swyddog Cofrestru Etholiadol yn casglu’r data hwn fel rhan o’r broses gofrestru ar gyfer ymgeiswyr.

Dylid cyflwyno mecanweithiau hefyd i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau eraill sy’n llai tebygol o gael eu cynrychioli. Mae’r Llywodraeth Cymru presennol wedi bod yn gweithio ar gyflwyno Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig. Rydym yn awyddus i weld hyn yn cael ei weithredu a’i wneud mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn mynd y tu hwnt i’r model a ddefnyddir yn Lloegr. Gallai’r gronfa hon ddarparu mynediad i swydd etholedig i bobl ag ystod o anableddau, pobl o gymunedau BAME a LHDT a’r rheini y byddai rhwystrau ariannol yn eu hatal fel rheol rhag sefyll.

Gofyniad Maniffesto 2: Diwygio llywodraeth leol ymhellach i gynnwys cyflwyno STV yn llawn mewn etholiadau lleol ym mhob awdurdod. Dylai pleidiau hefyd ymrwymo i fesurau pendant i hyrwyddo amrywiaeth, fel cwotâu rhywedd, casglu a chyhoeddi data amrywiaeth, a Chronfa Mynediad i Swydd Etholedig pellgyrhaeddol, i gynnwys cefnogaeth i bobl o set lawer ehangach o gefndiroedd na’r darpariaethau cyfredol. Mae cwotâu, yn benodol, yn hanfodol i sicrhau nad ydym yn parhau i weld niferoedd isel o fenywod yn cael eu hethol mewn cynghorau Lleol.

Gofyniad Maniffesto 3

Dyfnhau Democratiaeth

Mae llywodraethiant yng Nghymru yn wynebu her fawr, lle mae gormod o bobl yn teimlo’n ddigyswllt o’r broses o wneud penderfyniadau. Os ydym am adfywio democratiaeth yng Nghymru, mae angen i ni ddechrau trafodaeth ynglŷn â sut i roi pŵer yn nwylo dinasyddion ar lefel leol.

Mae gan ddemocratiaeth gydgynghorol le sylfaenol yn hyn, ac hyd yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn araf.

Mae cenhedloedd eraill wedi bod yn arwain ar fodelau ymgysylltu fel cynulliad y bobl a chyllidebu cyfranogol.

Er enghraifft, mae Iwerddon wedi dangos sut gellir defnyddio cynulliad y bobl i dorri rhwystrau wrth lunio polisïau ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gyda’r refferendwm llwyddiannus ar hawliau erthylu, un o argymhellion uniongyrchol Cynulliad y Bobl Iwerddon, model hirdymor sydd wedi archwilio nifer o faterion.

Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi sefydlu eu Cynulliad y Bobl eu hunain i edrych ar faterion eang ar gyfer dyfodol yr Alban. Yn ogystal, pasiodd yr Alban ddeddfwriaeth i rymuso cymunedau lleol yn 2015. Yn ddiweddar, bu’n ymgynghori ar y Bil Democratiaeth Leol. Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi sefydlu Cronfa Dewisiadau Cymunedol sy’n darparu cyllid i gefnogi a hyrwyddo cyllidebu cyfranogol, lle gall pobl neu sefydliadau wneud cais i’w cymuned leol am gyllid ar gyfer prosiect penodol. Mae hyn yn grymuso ac yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac mae’n arfer sy’n cael ei ddefnyddio ledled y byd.

Mae absenoldeb y math hwn o ymgysylltiad ar raddfa eang yng Nghymru, ac eto mae angen uniongyrchol ar gyfer y mathau hyn o arferion i adeiladu cymunedau ac i ddarparu cysylltiadau mwy effeithiol rhwng pobl a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae brwydr ar droed i gael gwared ar ein sefydliadau cynrychiadol. Mae’n frwydr rhwng y meddwl a’r galon, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod – ymateb gyda mwy o ddemocratiaeth, dod â phŵer a’r broses o wneud penderfyniadau yn agosach at y cyhoedd.

Bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried sut gall sefydliadu dulliau ymgysylltu blaengar i’w broses o lunio polisïau safonol a dylai ymrwymo i ymgysylltu â’r cyhoedd yn llawer mwy effeithiol.

 Gofyniad Maniffesto 3: Mabwysiadu dulliau democratiaeth gydgynghorol i brosesau llunio polisïau safonol, gyda dulliau fel cyllidebu cyfranogol a chynulliad y bobl yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i fynd i’r afael â diffyg ymgysylltu â chymunedau ac i ddatrys dadleuon gwleidyddol penodol.

Gofyniad Maniffesto 4

Addysg ar gyfer y dyfodol

Un o’r heriau mawr sydd gennym yng Nghymru yw sut i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd.  Rydym yn gwybod tri pheth; mae nifer y rhai sy’n pleidleisio yn isel mewn etholiadau Cymru-yn-unig, bod darpariaeth wael o gyfryngau lleol/Cymreig a bod dealltwriaeth o ddatganoli yng Nghymru yn brin iawn ym mhob oed.

Mae’r rhain yn broblemau mawr, gydag ychydig iawn o atebion hawdd. Bydd gan Lywodraeth nesaf Cymru ychydig iawn o allu i greu cyfryngau Cymreig cryfach, er enghraifft. Felly, mae’n rhaid i ni feddwl sut gall llywodraethau wneud iawn am y cyfyngiadau hyn.

Mae addysg wleidyddol mewn ysgolion yn dda, ac yn lle gymharol hawdd i ddechrau.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc i gyd-gynhyrchu argymhellion i wella addysg wleidyddol mewn ysgolion. Mae adroddiad ERS Cymru Clywed ein Lleisiau yn manylu ar y canfyddiadau, a ddatblygwyd ar ôl sgyrsiau gyda channoedd o bobl ifanc.

Drwy gydol ein gwaith ledled Cymru, roedd pobl ifanc yn dweud wrthym yn gyson nad oeddent yn derbyn digon o addysg wleidyddol, ond eu bod yn awyddus iawn i ddysgu am y ffordd roedd Cymru yn cael ei rhedeg. Y bobl ifanc eu hunain wnaeth argymell a phleidleisio ar argymhellion y prosiect.

Prif argymhelliad y bobl ifanc oedd y dylid cyflwyno addysg wleidyddol statudol i’r cwricwlwm. O ystyried ehangu’r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed, credwn fod hyn hyd yn oed yn bwysicach.

 

Er bod cynlluniau ar droed ar gyfer cwricwlwm newydd yng Nghymru sy’n cynnwys amcanion i gael dysgwyr sy’n ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd’ a dilyniant o ran cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, mae angen i addysg wleidyddol statudol gael ei gweithredu cyn gynted â phosibl gyda disgwyliadau llawer mwy eglur wrth ysgolion ledled Cymru.

 

Dylai pleidiau hefyd ystyried sut gellid ei ymestyn i addysg ôl-16, o ystyried y bydd pobl yn pleidleisio am y tro cyntaf tua 18 oed ar gyfartaledd. Gellid cyflwyno hyn mewn lleoliadau addysg bellach a thrwy weithwyr ieuenctid.

Gofyniad Maniffesto 4: Ymrwymiad i addysg wleidyddol statudol o fewn ysgolion i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd, a sicrhau bod pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda llawer mwy o wybodaeth a hyder yn y system wleidyddol na chenedlaethau blaenorol wrth adael ysgol.

Mae’r pedwar o ofynion maniffesto hyn yn adlewyrchu llais ehangach o lawer na ERS Cymru yn unig, ac yn cael eu cefnogi gan Colegau Cymru,  Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), Oxfam Cymru, WEN Cymru, Sefydliad Materion Cymreig a  Chwarae Teg.

Cysylltwch â Nia Thomas ar Nia.Thomas@electoral-reform.org.uk / 07905 741740
os hoffech unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r ymateb hwn.

 

Read more publications...

Clywed Ein Lleisiau

Syniadau pobl ifanc ar gyfer addysg wleidyddol yng nghymru

Postiwyd 28 Tach 2018

Clywed Ein Lleisiau