Mae Datganoli i Gymru wedi golygu ein bod yn gwneud nifer o bethau’n wahanol i rannau eraill o’r DU. O fod â pholisïau unigryw o amgylch ffioedd dysgu i fyfyrwyr o Gymru sy’n mynd i’r brifysgol, i gyflwyno deddfwriaeth arloesol o ran rhoi organau a llesiant, dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld gwahaniaethau go iawn o gymharu â’r math o bolisïau a welwn y tu hwnt i Bont Hafren.
Heddiw gwelwyd y datblygiad diweddaraf, gyda Chomisiwn y Cynulliad yn cyflwyno Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd â’r nod o ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni yn y Gymdeithas Newid Etholiadol (CNE) wedi bod yn galw amdano ers cryn amser, ac rydym wrth ein bodd gweld hyn yn digwydd o’r diwedd.
Mae ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer etholiadau seneddol yng Nghymru yn gydnabyddiaeth synhwyrol o’r ffaith fod pobl ifanc Cymru yn weithredol, yn wybodus ac yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth – ac maent yn haeddu cael eu clywed gan ein sefydliadau gwleidyddol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni yn CNE wedi bod yn ymgyrchu drosto ers rhai blynyddoedd, ac rydym wrth ein bodd ei weld yn digwydd.
Fel y gwelwyd yn yr Alban, lle cafodd yr hawl i bleidleisio ei hymestyn yn 2015, mae ymestyn yr etholfraint wedi arwain at fwy o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn pleidleisio na’r rheiny sydd rhwng 18 a 24 oed, gan helpu i sbarduno adfywiad gwleidyddol ar draws y wlad. Fel y gwelsom mewn sawl gwlad o amgylch y byd, os ydych chi’n pleidleisio unwaith, rydych chi’n fwy tebygol o bleidleisio yn y dyfodol. Felly, wrth i bobl 18 oed sydd ddim yn pleidleisio droi yn bobl 50 oed sydd ddim yn pleidleisio, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed sy’n mynd ati i bleidleisio yn parhau i bleidleisio wrth iddynt heneiddio.
Mae cyflwyno’r bleidlais i bobl 16 oed yng Nghymru yn creu cyfle i adfywio’r ffordd yr ydym yn addysgu am wleidyddiaeth yn ein hysgolion. Y llynedd cynhaliwyd Clywed Ein Lleisiau, sef prosiect a siaradodd â bron i 200 o bobl ifanc am addysg wleidyddol. Yn sgil y gwaith hwnnw, gwelwyd fod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a’u bod am gael gwell gwybodaeth am sut y gwneir penderfyniadau a phwy sy’n eu gwneud.
180 mlynedd ar ôl Gwrthryfel Siartwyr Casnewydd, mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam allweddol yn y broses o roi bywyd newydd i ddemocratiaeth yng Nghymru, ond ni ddylai hwn fod y cam olaf.
Deilliodd argymhellion ar gyfer llu o ddiwygiadau eraill i fynd ochr yn ochr ag ymestyn yr hawl i bleidleisio o banel arbenigol a adroddodd ar ddiwedd 2017, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister. Nid ydym eto wedi gweld unrhyw gynnydd parthed y diwygiadau hyn, ond maent yn hanfodol i lwyddiant y Senedd yn y dyfodol. Y pwysicaf o’r rhain yw cael Cynulliad mwy – gydag Aelodau’r Cynulliad yn cynrychioli mwy o bleidleiswyr nag erioed, mae’n bryd sicrhau bod adnoddau digonol ar gyfer y Senedd.
Mae cyflwyno’r Bil hwn heddiw yn gam gwych ymlaen yn nhaith datganoli Cymru, ac mae’n dangos sut y gallwn ni wneud pethau’n wahanol er budd pobl Cymru. Oherwydd y ddeddfwriaeth hon, bydd tua 70,000 o bobl ifanc yn ennill yr hawl i bleidleisio yn etholiad nesaf y Cynulliad, sydd i’w gynnal yn 2021.
Nid oes penderfyniad eto a fydd gan y Cynulliad hwnnw’r hyn sydd ei angen arno i’w cynrychioli nhw – ac mae’n hanfodol nad ydym yn anghofio hynny.
Arwyddwch ein deiseb i ymestyn yr hawl i bleidleisio i bawb sy’n 16 a 17