Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn llawer rhy aml yn cynnwys dynion gwyn canol oed – mae seddi diwrthwynebiad yn gyffredin iawn ac mae cynghorwyr yn aml yn cael eu ffafrio gan system bresennol y Cyntaf i’r Felin. Mae angen diwygio etholiadol arnom os ydym am i lywodraethau lleol adlewyrchu amrywiaeth yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu a sicrhau bod pleidlais pawb yn cyfrif. Dyna pam rydym yn galw am ddiwygiad llywodraeth leol mawr yma yng Nghymru.Parhaodd yr etholiadau diwethaf yn 2017 gyda’r patrwm o ddiffyg cynrychiolaeth o ran amrywiaeth a dewis i bleidleiswyr.
Dim ond 28% o’r cynghorwyr gafodd eu hethol yn 2017 oedd yn fenywod. Drwy gydol 2017 a 2018, roedd gan ddau awdurdod lleol gabinet o ddynion yn unig.
O dan system ‘un-person-yn-cymryd-popeth’, canfu pobl nad oedd eu pleidleisiau’n cael eu cynrychioli’n effeithiol. Yng Nghaerdydd, derbyniodd Llafur 53% o’r seddi gyda 36% yn unig o’r bleidlais. Yng Nghonwy, cymerodd y Ceidwadwyr 27% yn unig o’r seddi er gwaethaf sicrhau 37% o’r bleidlais, tra bod Plaid Cymru wedi cymryd 17% o seddi gyda 8% yn unig o’r bleidlais.
Mae hyn i gyd yn cyfrannu at greu sefyllfa lle mae datgysylltiad amlwg rhwng pleidleiswyr a’r cynghorwyr sy’n eu cynrychioli nhw. Naill ai oherwydd eu bod i raddau helaeth yn ddynion, yn hŷn ac wedi cadw eu seddi ers nifer o flynyddoedd, neu oherwydd bod pobl yn teimlo nad yw eu pleidleisiau’n cyfrif ac nad yw eu lleisiau wedi’u clywed. Yn yr etholiadau lleol diwethaf, dim ond 42% wnaeth bleidleisio.
Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn darparu rhai o’r gwasanaethau sylfaenol sy’n caniatáu i gymunedau ffynnu. O sicrhau cludiant i’r ysgol, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i bobl oedrannus, mae llywodraeth leol wrth wraidd sut mae ein bywydau’n cael eu rhedeg. Dyna pam y mae’n rhaid iddo fod yn ymatebol i safbwyntiau pleidleiswyr mewn ffordd fwy uniongyrchol.
Ni ddylai canlyniadau teg fod yn ddewisol
O ran sut i ddiwygio etholiadau lleol yng Nghymru, gwnaed camau cychwynnol yn Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sy’n argymell model o ‘gynrychiolaeth gyfrannol ganiataol’ lle gall cynghorau unigol ddewis symud i ddefnyddio STV fel y system bleidleisio ar gyfer eu hetholiadau.
Mae gennym bryderon mawr na fydd hyn yn ddigon i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd o fewn llywodraeth leol Cymru. Mae’n debygol mai ychydig iawn o gynghorau fydd yn penderfynu diwygio eu hunain, gan fod eu haelodau yn amlwg yn elwa o’r status quo annheg o ganlyniadau un-person-yn-cymryd-popeth.
Beth sydd angen i ni ei weld yw symudiad cyflawn tuag at STV, yn debyg i’r hyn ddigwyddodd yn yr Alban, lle mae STV wedi’i ddefnyddio mewn etholiadau lleol ers 2007. Mae etholiadau lleol olynol o dan system newydd wedi dangos lefel gynyddol o gymesuredd, dewis llawer uwch i bleidleiswyr a phleidleiswyr yn dod i arfer yn gyflym â’r system.
Amrywiaeth
O ran amrywiaeth, mae’n amser am gynnydd. Ar hyn o bryd, nid yw cynghorau yn gynrychioliadol o’r amrywiaeth a welir yn eu hetholaethau. Rydym wedi galw ers tro am gyflwyno cwotâu mewn llywodraeth leol. O gofio’r anhawster wrth reoleiddio ymgeiswyr annibynnol, mae’n rhaid i hyn ddechrau yn y lle cyntaf o fewn strwythur y pleidiau, gyda phleidiau yn cyflwyno nifer llawer uwch o ymgeiswyr benywaidd.
Un o’r prif rwystrau i fynd i’r afael â diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol yng Nghymru yw’r prinder data cywir ynglŷn â demograffeg ymgeiswyr a’r rheini sy’n cael eu hethol. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU ers tro i ddeddfu Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, ond yn absenoldeb hynny, dylai pleidiau ymrwymo i gasglu a chyhoeddi eu data eu hunain. Dylai’r Gweinidog Llywodraeth Leol nesaf ymrwymo i sicrhau bod pob Swyddog Cofrestru Etholiadol yn casglu’r data hwn fel rhan o’r broses gofrestru ar gyfer ymgeiswyr.
Dylid cyflwyno mecanweithiau hefyd i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau eraill sy’n llai tebygol o gael eu cynrychioli. Mae’r Llywodraeth Cymru presennol wedi bod yn gweithio ar gyflwyno Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig. Rydym yn awyddus i weld hyn yn cael ei weithredu a’i wneud mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn mynd y tu hwnt i’r model a ddefnyddir yn Lloegr. Gallai’r gronfa hon ddarparu mynediad i swydd etholedig i bobl ag ystod o anableddau, pobl o gymunedau BAME a LHDT a’r rheini y byddai rhwystrau ariannol yn eu hatal fel rheol rhag sefyll.
Gofyniad Maniffesto 2: Diwygio llywodraeth leol ymhellach i gynnwys cyflwyno STV yn llawn mewn etholiadau lleol ym mhob awdurdod. Dylai pleidiau hefyd ymrwymo i fesurau pendant i hyrwyddo amrywiaeth, fel cwotâu rhywedd, casglu a chyhoeddi data amrywiaeth, a Chronfa Mynediad i Swydd Etholedig pellgyrhaeddol, i gynnwys cefnogaeth i bobl o set lawer ehangach o gefndiroedd na’r darpariaethau cyfredol. Mae cwotâu, yn benodol, yn hanfodol i sicrhau nad ydym yn parhau i weld niferoedd isel o fenywod yn cael eu hethol mewn cynghorau Lleol.
Maniffesto ar gyfer Democratiaeth