Hefyd ar gael yn: English

Pleidleisiodd mwyafrif y cynghorwyr yng Ngwynedd dros STV, ond methodd y bleidlais â chyrraedd y trothwy uchel

Author:
Tom Abraham, Communications and Research Assistant

Wedi'i bostio ar y 24th Hydref 2024

Cafwyd canlyniad siomedig yng Ngwynedd bore yma wrth i ni syrthio’n brin o ennill pleidlais y cyngor ar newid y system bleidleisio i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV).

Er i fwyafrif y cynghorwyr bleidleisio o blaid y newid, ni fydd yn digwydd, gan fod angen i’r cynnig gyrraedd y trothwy uchel o ennill cefnogaeth dros ddwy ran o dair y cynghorwyr.

Mae hyn yn golygu, er bod y newid wedi derbyn cefnogaeth dros 72% o drigolion yn yr ymgynghoriad, a bod mwyafrif o gynghorwyr yn cefnogi’r cam hwn, ni fydd yn digwydd.

Yn naturiol, mae’n rhwystredig iawn bod elfen dechnegol yn golygu y bydd trigolion Gwynedd yn gorfod parhau i ddefnyddio system sy’n anhrefnus, yn hen-ffasiwn ac yn amlwg ddim yn boblogaidd ymysg pleidleiswyr.

Wedi dweud hynny, er nad dyma’r canlyniad yr oeddem yn gobeithio amdano, mae’n dal yn gyflawniad sylweddol. Mae’n dangos bod y rhan fwyaf o aelodau’r cyngor yn gosod gwerth ar system bleidleisio decach, fwy cynrychioliadol. Mae hyn, ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriad, yn dangos awydd gwirioneddol am etholiadau tecach yng Ngwynedd.

Mae’r gefnogaeth gref hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein cefnogwyr. Diolch i’w negeseuon e-bost, eu hymatebion i’r ymgynghoriad, a’u heiriolaeth, daethom yn agos iawn at gyflawni ein nod.

Er ei bod yn siomedig dod mor agos â hyn i ennill, rydym wedi adeiladu sylfaen gref i adeiladu arni. Byddwn yn parhau i wthio am broses etholiadol fwy democrataidd a theg yng Ngwynedd a thu hwnt.

Ychwanegwch eich enw at ein galwad am etholiadau lleol teg ledled Cymru.

Darllen mwy o bostiadau...