Pobl ifanc Cymru o blaid Pleidlais yn 16 – ac Addysg ar Wleidyddiaeth

Author:
Electoral Reform Society,

Wedi'i bostio ar y 16th Gorffennaf 2015

Ddoe, fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol eu arolwg ar bleidleisiau yn 16, ac mae pobl ifanc Cymru wedi lleisio’u barn. Ac mae’r neges yn glir – mae pobl ifanc eisiau pleidlais yn 16 oed.

Gyda 10,375 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae’r canlyniadau yn dangos 53% o o blaid pleidlais yn 16 oed; 29% yn erbyn; gyda 18% yn nodi ‘ddim yn gwybod’.

Canfyddiadau ymgynghoriad chwe mis ar Bleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yw rhain, a wnaed o dan arweiniad y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC. Drwy gyd-ddigwyddiad, ddoe mi drechwyd Llywodraeth DU yn Nhy’r Arglwyddi ar y pwnc o Bleidlais yn 16 oed i etholiadau lleol ledled y DU.

Dyma’r arolwg fwyaf cynhwysfawr o bobl ifanc yr ydym wedi’i gael yng Nghymru, felly mae’n galonogol bod y mwyafrif mor glir o blaid. Yn awr mae angen i bob plaid wrando ar ein pobl ifanc ac ymrwymo i symud i bleidlais yn 16 oed ar gyfer etholiadau yng Nghymru ar lefel lleol a chenedlaethol. Wedi’r cyfan, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru am gael pwerau newydd dros etholiadau yng Nghymru yn y Bil Cymru sydd ar ddod, gan gynnwys dros y system etholiadol a’r oedran pleidleisio.

Serch hynny, mynegodd rhai bryderon am lefel eu gwybodaeth am wleidyddiaeth. O’r bobl ifanc hynny a bleidleisiodd yn erbyn pleidleisiau yn 16 oed yn yr arolwg, mae’n debyg fod llawer wedi gwneud hynny oherwyd eu bod yn betrusgar fod pobl ifanc yn annwybodus am am wleidyddiaeth, ac felly methu gwneud dewis gwybodus fel dinasyddion. Mae’n felly yn hanfodol bod 16 a 17 oed yn cael y cyfle i ddysgu am wleidyddiaeth mewn ffordd ddiduedd ac i drafod y materion sy’n effeithio arnynt mewn ysgolion.

Yr ochr bositif i’r geiniog honno yw fod pobl ifanc yn datgan eu bod eisiau dysgu mwy am wleidyddiaeth, gyda 79% yn meddwl ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn dysgu mwy am wleidyddiaeth a’r system bleidleisio, a 77% o’r farn mai ysgoliaon a a cholegau yw’r lle gorau i wneud hynny. Mae yna sylfaen o frwdfrydedd a photensial ymhlith ein pobl ifanc yma a mae’n rhaid adeiladu arno – felly mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar addysg wleidyddol ochr yn ochr â phleidleisiau yn 16.

Mae’r cysylltiad rhwng cyfranogiad democrataidd ac addysg yn un hir ac anrhydeddus, yn mynd yn ôl i oleuedigaeth, drwodd i ‘ddysgu drwy wneud’, ac mae’n rhan annatod o’n delfryd fodern o ddinasyddiaeth weithredol. Mae chyfranogiad dinasyddion gweithgar, gwybodus yn hanfodol i fodelau llywodraethu cyfoes sy’n haenu o bob liw wleidyddol ar gyfer datrys problemau a wynebwn yn y dyfodol, fod hynny y ein gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu hymestyn fwyfwy, neu i daclo newid yn yr hinsawdd.

Mae’r cwricwlwm Cymreig ar newid yn dilyn adolygiad diweddar yn yr Athro Donaldson, ac felly dylem fod yn edrych ar sut y gall Pleidlais yn 16 ffurfio rhan o strategaeth gyffredinol i ddysgu am wleidyddiaeth ac annog dinasyddiaeth cryf, yn ogystal â chofrestru pleidleiswyr ifanc mewn ysgolion a colegau. Yn arwyddocaol, mae dinasyddiaeth yn sylfaen ganolog yn y weledigaeth newydd ar gyfer addysg yng Nghymru yn Adroddiad Donaldson. Mae Donaldson yn nodi y dylai un o brif ddibenion y cwricwlwm newydd fydd creu ‘ddinasyddion cyfrifol, moesegol, a gwybodus o Gymru a’r byd’.

Dylwn edrych ar Bleidlais yn 16 oed, yn hytrach na yn unig fel ‘buddugoliaeth’ ynddo’i hun ar gyfer pobl ifanc (er ei fod yn sicr yn hynny hefyd), fel modd i ni yrru datblygu ddinasyddion ifanc sy’n fwy gwybodus, sy’n teimlo y gallant gymryd rhan weithredol, gwybodus a beirniadol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae’r rhan uniongyrchol anhygoel y gymerodd ieuenctid yr Alban yn ystod y refferendwm yn gysylltiedig a ddysg a dadleuon y cafodd disgyblion mewn ysgolion, a hefyd roedd y llwyddiant yn ddibynol ar sicrhau bod pobl ifanc wedi’u cofrestru i bleidleisio. Mae llwyddiant yr Alban hefyd wedi newid ymwybyddiaeth wleidyddol pobl ifanc yn yr Alban am genhedlaeth. Dylem anelu am ddim llai na hynny yng Nghymru.

Gall gwelediageth o’r fath ddwyn ynghyd y gwahanol linynnau o roi cyfle i bleidleisio i’n pobl ifanc, ynghyd a darparu’r wybodaeth a’r hyder i bobl ifanc i gymryd rhan weithredol yng ngwleidyddiaeth Cymru a gwneud penderfyniadau dros yr hyn sy’n effeithio arnynt. O’i neud yn iawn, gall Pleidlais yn 16 oed drawsnewid gwleidyddiaeth ar gyfer cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru.

Darllen mwy o bostiadau...