Felly, beth fyddai’r newid hwn yn ei olygu a pham mae ei angen?
Ar hyn o bryd, rydych chi’n ethol eich cynghorwyr yn yr un ffordd ag y byddwch chi’n ethol eich AS – trwy ddefnyddio system y Cyntaf i’r Felin. Trwy hynny, yr ymgeisydd (neu ymgeiswyr mewn wardiau aml-aelod) sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n cael cynrychioli eich ardal, p’un a oes ganddyn nhw fwyafrif o bleidleisiau ai peidio.
Y broblem gyda’r system hon yw ei bod yn aneffeithlon o ran paru sut yr ydym yn pleidleisio â’r ffordd yr ydym yn cael ein cynrychioli ar lefel leol. Mae’n bosib i blaid dderbyn canran uchel o bleidleisiau ond heb gael yr un gynrychiolaeth o ran seddi – neu i’r gwrthwyneb. Mae hyn yn gadael llu o bleidleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2022 gwelsom hyn yn digwydd mewn sawl ardal. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, derbyniodd clymblaid rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Werdd 17% o’r bleidlais; serch hynny dim ond 2% o’r seddi ar Gyngor y Ddinas a enillwyd ganddynt. Yn y cyfamser, enillodd Llafur bron i 70% o’r seddi ar lai na 45% o’r bleidlais. Ar y llaw arall, yn Ynys Môn derbyniodd y blaid Geidwadol 19% o bleidleisiau, ond ni lwyddodd i ennill un sedd. Felly, mae hwn yn fater sy’n effeithio ar bleidiau ar draws y sbectrwm gwleidyddol ledled Cymru.
Yn ogystal â hyn, gall y system bresennol adael rhai etholwyr heb unrhyw ddewis o gwbl. Yng Nghymru, roedd 6% o’r holl seddi oedd ar gael yn ddiwrthwynebiad ac yma ym Mhowys, roedd 10% o’r holl seddi yn ddiwrthwynebiad. Mae hyn yn golygu mai dim ond un ymgeisydd oedd ar y papur pleidleisio; felly nid oedd gan dros 10,000 o bleidleiswyr cymwys unrhyw lais yn y ffordd y byddai’r cyngor yn cael ei redeg am y pum mlynedd nesaf. Does bosib nad yw hon yn sefyllfa annerbyniol mewn democratiaeth?
Byddai’r newid arfaethedig yn cyfnewid y system hon â’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) – a ddefnyddir eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. O dan y system hon, byddwch yn rhan o etholaeth fwy ac yn ethol 4 neu 5 o gynghorwyr.
Ar y papur pleidleisio byddwch yn gallu rhestru ymgeiswyr; gan roi eich ffefryn fel rhif un, eich ail ffefryn rhif dau, ac yn y blaen ar gyfer cynifer o ymgeiswyr ag y dymunwch. Mae hyn wedyn yn dweud wrth y bobl sy’n cynnal y cyfrif i drosglwyddo eich pleidlais os oes gan eich hoff ymgeisydd ddigon o bleidleisiau yn barod neu os nad oes ganddo unrhyw obaith o ennill.
Bydd dosbarthiad y seddi o ganlyniad i hyn yn cynrychioli amrywiaeth barn eich ardal yn llawer gwell, a bydd perthynas lawer mwy cyfrannol rhwng pleidleisiau a seddi – a gwyddom hyn oherwydd rydym wedi gallu gweld y system hon ar waith yn yr Alban.
Profiad yr Alban gyda STV
Mae’r Alban wedi defnyddio STV mewn etholiadau lleol ers 2007 ac wedi gweld gwahaniaeth enfawr yng nghanlyniadau eu hetholiadau. Mae pleidiau bellach yn derbyn tua’r un canran o seddi â phleidleisiau, ac mae llawer llai o siawns y bydd pleidiau’n ennill grym gyda ‘mwyafrifoedd heb eu hennill’, lle mae pleidiau’n derbyn dros 50% o’r seddi gyda llai na 50% o’r bleidlais.
Mae’r siawns o fod â seddi diwrthwynebiad hefyd wedi lleihau. Yn etholiad 2022, dim ond 18 sedd oedd yn ddiwrthwynebiad (1.5% o’r cyfanswm). Dyma’r nifer uchaf o seddi diwrthwynebiad yn yr Alban ers newid y system, ac mae’n sylweddol is na’r 74 (6%) yng Nghymru. Yn etholiadau 2007 a 2012 nid oedd unrhyw seddi diwrthwynebiad o gwbl.
Y tu hwnt i niferoedd, canrannau a chynrychiolaeth yn unig; mae bod â system bleidleisio fwy cyfrannol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y ffordd y mae pleidiau’n llywodraethu hefyd. Mae STV yn ei gwneud hi’n anoddach i bleidiau lywodraethu ar eu pen eu hunain oni bai eu bod yn derbyn dros 50% o’r bleidlais. O ganlyniad, yn aml mae angen i wleidyddion chwilio am gefnogaeth ymhlith pleidiau eraill, sy’n arwain at agwedd fwy cydweithredol a phragmatig at lywodraethu.
Felly, beth allwch chi ei wneud?
Os ydych chi’n byw ym Mhowys yn darllen hwn ac yn anobeithio am annhegwch etholiadau’r sir, y newyddion gwych yw bod gennych chi gyfle dros yr wythnosau nesaf i ddweud eich dweud ar newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol.
Mae Cyngor Sir Powys ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar y mater ac yn chwilio am farn a sylwadau gan drigolion ar y newid arfaethedig. Er mwyn i’r newid ddigwydd bydd angen i ddwy ran o dair o gynghorwyr bleidleisio drosto, felly mae’n gwbl hanfodol bod pobl yn llenwi’r ymgynghoriad er mwyn dangos i gynghorwyr bod awydd gwirioneddol am y newid hwn.
I ddweud eich dweud, cwblhewch yr ymgynghoriad yma
Cwblhewch yr ymgynghoriad yma