Pythefnos drydanol yng Nghymru…ond beth nesaf?

Author:
Electoral Reform Society,

Posted on the 31st May 2016

Phew! Wel, tydem ddim wedi arfer efo ddrama wleidyddol ym Mae Caerdydd I’r fath raddau y gwelwyd yn yr wythnosau diwethaf. Gyda canlyniad yr etholiad yn Llafur yn ennill 29 o 60 sedd, roedd y bleidlais yn y Senedd yn rhoi Carwyn Jones Llafur a Leanne Wood o Blaid Cymru yn gyfartal yn y ras i fod yn Brif Weinidog yn gwbl annisgwyl, hyd yn oed i’r sylwebwyr mwyaf profiadol.

Felly, yng nghanol yr holl firi, beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer diwygio etholiadol?

Heb os, roedd llawer o sgorio pwyntiau gwleidyddol yn yr holl ffrae, ond nid ydynt heb effeithiau fwy cyffredinol. Roedd y theatr wleidyddol yn gweithio i roi flaen lwyfan i Lywodraeth newydd Cymru y ffaith fod rhifyddeg y Cynulliad yn golygu y bydd yn rhaid iddynt weithio mewn ffordd sy’n gweithio at gonsensws, ac yn gorfod cael cymorth gan bleidiau eraill i ddeddfu.

Y tro hwn, ni wnaeth rhifyddeg a gwleidyddiaeth arwain at ddiwygio pleidleisio lleol, ond gyda Arweinydd yr Wrthblaid (Leanne Wood) yn gwneud yn glir fod ‘pleidleisio teg’ yn un ofynion nifer yn y Cynulliad, a cyfleoedd euraidd ar y gorwel, bydd diwygio etholiadol yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda. Efallai fod y trafodaethau rhain yn gyfle a fethwyd, ond nid yn gyfle wedi’i cholli yn llwyr.

Mae newid yn safle’r Llywodraeth o ran naws a rhethreg at ddull mwy cynhwysol a ganlyn i’w groesawu, ac rydym yn disgwyl cydweithrediad ymysg y pleidiau i ddeddfu polisïau ar gyfer ddemocratiaeth gwell yng Nghymru, yn ogystal â cynnig cyfle i herio a chraffu rhaglen Llywodraeth Cymru y dydd. Fel y rhoddwyd gan Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yr wythnos hon, y dull yma o lywodraeth yw’r hyn a fynwyd gan pobl Cymru yn etholiad Fai’r 5ed.

Wedi’r cyfan, nid 29 o 60 (48.3%) a ennillwyd gan Lafur yw’r stori gyfan. Maent yn cyflawni hynny ar tua thraean o’r bleidlais (34.7% ar bleidlais etholaethol; 31.5% ar y bleidlais ranbarthol). Gallwch ddarllen mwy am sut y mae’r system yn gweithio yma, ond mae’n bwysig cofio bod oherwydd y gyfran gymharol fach o Aelodau Cynulliad rhanbarthol, mae fersiwn Gymreig y system AMS dim ond yn led-gyfrannol.

Mae diwygio llywodraeth leol ar agenda y llywodraeth. Mae Bil Cymru – sydd yn llwybreiddio ei ffordd drwy San Steffan – yn datganoli pwerau dros y system bleidleisio ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol a llywodraeth leol, maint y Cynulliad, ac Pleidlais yn 16 yn y sesiwn hon. Bydd ERS Cymru yn gwneud y mwyaf o’r pwerau yma, gan godi’r achos dros ddiwygio etholiadol yn gyson ar bob lefel ac yn gwthio Llywodraeth Cymru i gefnogi ei rhethreg gyda chamau pendant.

Dylai diwygio cyfansoddiadol a gwleidyddol cael ei bennu mewn maes tu allan i sgorio pwyntiau pleidiol a byddwn yn dal yr holl bleidiau i gyfrif ar y mesur yma. Mae rhifyddeg bresennol y Cynulliad yn cynnig cyfleoedd i wneud yr achos, ac erbyn diwedd y sesiwn 5ed Cynulliad yn 2021, mae cyfle go iawn y bydd Cymru’n well ddemocratiaeth i wasanaethu pobl Cymru yn well.

Diolch i chi am gefnogi ein hymgyrch dros ddemocratiaeth gwell.

Read more posts...

How does proportional representation work?

Proportional representation (PR) is not a voting system in itself. Instead, it’s the idea that seats in parliament should reflect the proportion of votes cast; something which can be achieved through a variety of electoral...

Posted 05 Sep 2024

“If we want fairer elections where votes truly matter, we need proportional representation”