Wedi Brexit, mae’n hen bryd cael Senedd mwy a chryfach

Author:
Electoral Reform Society,

Posted on the 30th November 2016

‘Boed i chi fyw mewn cyfnod difyr’ medd yr hen dywediad Tseiniaidd. A ni all neb gwadu ein bod yn gwneud hynny ar hyn o bryd: mae Brexit, systemau pleidiol mewn fflwcs, a chyfansoddiad mewn cynnwrf i gyd yn marcio amser newydd ar gyfer y DU. Ond gyda phwerau allai fod yn arwyddocaol yn debygol o fynd i Gynulliad Cymru wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, agyda’r Mesur Cymru ar hyn o bryd am ysgwydu ‘r Senedd, mae’n gyfnod hynod ddifyr i Gymru.

Gyda mwy o bwerau daw mwy o gyfrifoldebau. Ac felly hefyd llawer mwy straen ar ein sefydliadau gwleidyddol. Yn wyneb hynny, mae angen i Gymru gael mwy o allu i graffu, deddfu, herio a gweithredu i lywodraethu yn y cyd-destun gwleidyddol newydd.

Felly mae hi yn y cyd-destun yma y mae cynigion newydd ar gyfer ethol Cynulliad mwy o faint, mwy effeithiol ac atebol wedi eu gosod allan gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd Cymru ac Electoral Reform Society Cymru.

Mae’r Cynulliad yn mynd i gael y pŵer i newid ei faint a’i system bleidleisio, yn amodol ar basio’r Mesur Cymru, ond dim ond gyda chefnogaeth dwy ran o dair o ACau, sy’n golygu bod angen cytundeb trawsbleidiol.

Yn y dadansoddiad cyntaf o’i fath , mae’r adroddiad – Ail-lunio’r Senedd – yn edrych ar sut y dylai Cynulliad mwy o faint gael ei hethol wrth i’w bwerau gynyddu. Mae’n amlinellu saith egwyddor megis symlrwydd a chyfranoldeb a ddylai lywio sut y gall Cynulliad mwy o faint gael ei hethol.

Mae’r adroddiad yn canfod bod rhai systemau – megis y system Cyntaf i’r Felin a ddefnyddir i San Steffany – yn gwbl anaddas. Mae’n argymell dau opsiwn:

• Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) – 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod

• Rhestr Agored – 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod

Mae addasu’r System Aelodau Ychwanegol (AMS) presennol hefyd yn opsiwn credadwy, ond yn llai hyblyg (am fanylion – darllenwch yr adroddiad!).

Wrth reswm, nid oes un system berffaith sy’n bodloni pob egwyddor yn llawn, felly mae hyn am ddarganfod y cydbwysedd iawn.

Mae’r adroddiad yn dilyn argymhelliad trawsbleidiol y Comisiwn Silk ar gyfer Cynulliad mwy o faint, a oedd yn sail Cytundeb Dydd Gwyl Dewi ym mis Mawrth 2015. Gan fod cymaint bellach yn cydnabod yr angen am Gynulliad sy’n fwy effeithiol ac atebol, mae ‘Ail-lunio’r Senedd‘ yn symud o’r ‘pam’ at y ‘sut’.

Rydym yn edrych ar ffyrdd ymarferol i gyflawni Cynulliad democrataidd mwy o faint, sy’n gallu wynebu heriau a chyfleoedd newydd a fydd yn codi drwy’r Mesur Cymru ac yn dilyn Brexit.

Bydd y pleidiau yn dod at hwn o safbwyntiau gwahanol, felly gall yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail ddifrifol i ddarganfod tir cyffredin ar gyfer trafodaethau i gytuno ar sut i symud democratiaeth Cymru yn ei flaen. Nid yn unig yw consensws yn ddymunol ond mae’n hanfodol er mwyn i newid ddigwydd.

A dyna sut y dylai fod: mae newidiadau i reolau’r gêm yn gofyn am fath gwahanol o drafodaeth tu hwnt i wleidydda pleidiol.

Ond ymhlyg a hynny, mae pwerau trethu newydd, a’r posibilrwydd o bwerau ychwanegol o Ewrop yn gwneud yr achos dros Gynulliad mwy o faint, wedi’i hethol yn deg, yn gryfach nag erioed.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig egwyddorion clir a dull ymarferol i gael dadl hirben a chadarnhaol am sut y gallwn lunio Cynulliad sy’n gweithio’n well i bleidleiswyr a hybu gwell wleidyddiaeth i Gymru.

Cawsom ein rhoi i fyw mewn ‘cyfnod difyr’ – ond nid oes rhaid i hynny fod yn felltith. Gadewch i ni fanteisio ar y cyfleoedd ar gyfer adeiladu gwell democratiaeth.

Read more posts...

How would proportional representation work in the UK?

Proportional Representation (PR) is the idea that seats in parliament should closely match votes cast in an election.  A system that’s perfectly proportional would mean that if a political party received one third of the...

Posted 16 Jan 2025

Under PR you could expect to see parliaments which more accurately reflect votes cast in a general election