Hefyd ar gael yn: English

Wedi Brexit, mae’n hen bryd cael Senedd mwy a chryfach

Author:
Josiah Mortimer, former Head of Communications

Wedi'i bostio ar y 30th Tachwedd 2016

‘Boed i chi fyw mewn cyfnod difyr’ medd yr hen dywediad Tseiniaidd. A ni all neb gwadu ein bod yn gwneud hynny ar hyn o bryd: mae Brexit, systemau pleidiol mewn fflwcs, a chyfansoddiad mewn cynnwrf i gyd yn marcio amser newydd ar gyfer y DU. Ond gyda phwerau allai fod yn arwyddocaol yn debygol o fynd i Gynulliad Cymru wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, a gyda’r Mesur Cymru ar hyn o bryd am ysgwydu ‘r Senedd, mae’n gyfnod hynod ddifyr i Gymru.

Gyda mwy o bwerau daw mwy o gyfrifoldebau. Ac felly hefyd llawer mwy straen ar ein sefydliadau gwleidyddol. Yn wyneb hynny, mae angen i Gymru gael mwy o allu i graffu, deddfu, herio a gweithredu i lywodraethu yn y cyd-destun gwleidyddol newydd.

Felly mae hi yn y cyd-destun yma y mae cynigion newydd ar gyfer ethol Cynulliad mwy o faint, mwy effeithiol ac atebol wedi eu gosod allan gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd Cymru ac Electoral Reform Society Cymru.

Mae’r Cynulliad yn mynd i gael y pŵer i newid ei faint a’i system bleidleisio, yn amodol ar basio’r Mesur Cymru, ond dim ond gyda chefnogaeth dwy ran o dair o ACau, sy’n golygu bod angen cytundeb trawsbleidiol.

Yn y dadansoddiad cyntaf o’i fath , mae’r adroddiad – Ail-lunio’r Senedd – yn edrych ar sut y dylai Cynulliad mwy o faint gael ei hethol wrth i’w bwerau gynyddu. Mae’n amlinellu saith egwyddor megis symlrwydd a chyfranoldeb a ddylai lywio sut y gall Cynulliad mwy o faint gael ei hethol.

Mae’r adroddiad yn canfod bod rhai systemau – megis y system Cyntaf i’r Felin a ddefnyddir i San Steffany – yn gwbl anaddas. Mae’n argymell dau opsiwn:

• Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) – 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod

• Rhestr Agored – 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod

Mae addasu’r System Aelodau Ychwanegol (AMS) presennol hefyd yn opsiwn credadwy, ond yn llai hyblyg (am fanylion – darllenwch yr adroddiad!).

Wrth reswm, nid oes un system berffaith sy’n bodloni pob egwyddor yn llawn, felly mae hyn am ddarganfod y cydbwysedd iawn.

Mae’r adroddiad yn dilyn argymhelliad trawsbleidiol y Comisiwn Silk ar gyfer Cynulliad mwy o faint, a oedd yn sail Cytundeb Dydd Gwyl Dewi ym mis Mawrth 2015. Gan fod cymaint bellach yn cydnabod yr angen am Gynulliad sy’n fwy effeithiol ac atebol, mae ‘Ail-lunio’r Senedd‘ yn symud o’r ‘pam’ at y ‘sut’.

Rydym yn edrych ar ffyrdd ymarferol i gyflawni Cynulliad democrataidd mwy o faint, sy’n gallu wynebu heriau a chyfleoedd newydd a fydd yn codi drwy’r Mesur Cymru ac yn dilyn Brexit.

Bydd y pleidiau yn dod at hwn o safbwyntiau gwahanol, felly gall yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail ddifrifol i ddarganfod tir cyffredin ar gyfer trafodaethau i gytuno ar sut i symud democratiaeth Cymru yn ei flaen. Nid yn unig yw consensws yn ddymunol ond mae’n hanfodol er mwyn i newid ddigwydd.

A dyna sut y dylai fod: mae newidiadau i reolau’r gêm yn gofyn am fath gwahanol o drafodaeth tu hwnt i wleidydda pleidiol.

Ond ymhlyg a hynny, mae pwerau trethu newydd, a’r posibilrwydd o bwerau ychwanegol o Ewrop yn gwneud yr achos dros Gynulliad mwy o faint, wedi’i hethol yn deg, yn gryfach nag erioed.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig egwyddorion clir a dull ymarferol i gael dadl hirben a chadarnhaol am sut y gallwn lunio Cynulliad sy’n gweithio’n well i bleidleiswyr a hybu gwell wleidyddiaeth i Gymru.

Cawsom ein rhoi i fyw mewn ‘cyfnod difyr’ – ond nid oes rhaid i hynny fod yn felltith. Gadewch i ni fanteisio ar y cyfleoedd ar gyfer adeiladu gwell democratiaeth.

Darllen mwy o bostiadau...