Hefyd ar gael yn: English

Y gwir: Mae camdriniaeth ac aflonyddu yng ngwleidyddiaeth Cymru’n rhemp. Dyma sut mae datrys y broblem

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 19th Gorffennaf 2018

Cawson ni flas ar raddfa syfrdanol y gamdriniaeth yn San Steffan y llynedd. Ond dim ond rhyw ychydig am y problemau ynghylch aflonyddu a chynrychiolaeth amrywiol yng Nghymru rydyn ni wedi’i glywed.

Y gwir yw, mae’r sefyllfa un bryderus iawn.

Roedd gennym ni syniad gweddol gryf o ran y diffyg amrywiaeth – sef bod grwpiau’n cael eu tangynrychioli ac yn cael eu darbwyllo rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Ond tan nawr, doedd gennym ni ddim syniad clir o ran y prif achosion.

Aeth ERS Cymru ati i greu adroddiad ar gynrychioldeb gwleidyddiaeth yng Nghymru ac ymchwilio i’r rhwystrau.

Mae’r canlyniadau’n syndod mawr. O’r 266 o gynrychiolwyr etholedig a gafodd eu holi fel rhan o’r arolwg, dywedodd 121 eu bod nhw wedi dioddef camdriniaeth neu aflonyddu naill ai yn y swyddfa neu wrth ymgyrchu. Dyna 45.5% o’r holl ymatebwyr.

[bctt tweet=”O’r 266 o gynrychiolwyr etholedig a gafodd eu holi fel rhan o arolwg @erscymru, dywedodd 121 eu bod nhw wedi dioddef camdriniaeth neu aflonyddu” username=”erscymru”]

Sioc fawr oedd gweld bod mwyafrif y menywod a atebodd yr arolwg – 54% – wedi wynebu’r math hwn o ymddygiad.

Aeth rhywfaint o’r gamdriniaeth y tu hwnt i’r hyn roedden ni’n disgwyl ei glywed: dywedodd un person ei fod wedi cael ysgarthion drwy’r post mewn cerdyn Sant Ffolant. Dywedodd rhywun arall ei fod wedi cael ceisiadau rhywiol amhriodol gan etholwyr, yn ystod cymorthfeydd cyngor a sesiynau canfasio drws i ddrws.

O ystyried yr adroddiadau hyn, oes unrhyw syndod bod pobl yn cael eu darbwyllo rhag sefyll etholiad rôl gyhoeddus?

Mae ERS Cymru wedi ceisio gwrando a dysgu o’r hyn mae gwleidyddion – a’r rhai a gafodd eu darbwyllo rhag cymryd rhan – wedi dweud wrthym ni wrth i ni gasglu’r wybodaeth ar gyfer ein hadroddiad newydd.

Ond yn bennaf, rydyn ni am sicrhau bod camau’n cael eu cymryd. Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi 16 o argymhellion i helpu i arallgyfeirio gwleidyddiaeth Cymru.

Ymhlith y rhain mae sicrhau bod 45% o’r rheiny sy’n sefyll dros bob plaid mewn etholiadau llywodraeth leol yn fenywod, cod ymddygiad ar y cyd ar gamdriniaeth ymhlith pleidiau gwleidyddol, gwell hyfforddiant ac arweiniad ar aflonyddu, a cheisio gwella’r cyllid i ymgeiswyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Ymhlith y rhai eraill mae sicrhau bod pob plaid wleidyddol yn cyflwyno cynllun gweithredu ar amrywiaeth i ddethol ymgeiswyr ar gyfer seddi targed gwag ar lefel San Steffan.

Rydyn ni’n credu hefyd y dylid darparu gwell addysg wleidyddol a dinesig mewn ysgolion yng Nghymru i ddechrau ceisio mynd i’r afael â’r diwylliant negyddol sydd ar hyn o bryd yn arwain at lawer o’r gamdriniaeth a welwn.

[bctt tweet=”Mae angen gwell addysg wleidyddol a dinesig mewn ysgolion yng Nghymru i fynd i’r afael â’r diwylliant negyddol sy’n arwain at lawer o gamdriniaeth” username=”erscymru”]

Dywedodd gwleidyddion yng Nghymru wrthym ni eu bod nhw’n cael trafferth cynnal bywyd teuluol iach, a’u bod nhw’n poeni am gyllid.

Mae’r gamdriniaeth maen nhw’n ei hwynebu yn enghraifft glir o’r rhwystrau rhag gwleidyddiaeth wirioneddol gynrychioliadol yng Nghymru.

Dylai Llywodraeth Cymru ac eraill ddarllen y straeon erchyll hyn – a gweithredu ar yr angen am newid.

Bydd yr adroddiad, o’r enw ‘Lleisiau Newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru’, yn cael ei lansio yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Iau 12 Gorffennaf.

Darllen yr adroddiad

Darllen mwy o bostiadau...