Yng Nghymru, ar gyfer etholiadau lleol (Cyngor Sir) ac etholiadau cyffredinol y DU (San Steffan) defnyddir y system etholiadol Y Cyntaf i’r Felin (FPTP).
O dan y system hon, ar ddiwrnod yr etholiad, rhoddir papur pleidleisio gyda rhestr o ymgeiswyr i bob pleidleisiwr. Mewn wardiau un aelod, dim ond un ymgeisydd fydd yn cael ei restru ar gyfer pob plaid; mewn wardiau aml-aelod gall fod yna nifer o ymgeiswyr o’r un blaid wedi’u rhestru (hyd at uchafswm nifer y seddi sydd ar gael i’w hennill). Mae pleidleiswyr yn rhoi X wrth ymyl yr ymgeisydd maen nhw’n ei ddewis. Mewn wardiau aml-aelod gall pleidleiswyr roi cynifer o X wrth ymyl eu hymgeiswyr dewisol ag sydd o seddi ar gael, h.y. dwy X ar gyfer ward dau gynghorydd.
Mae’r pleidleisiau ar gyfer pob ymgeisydd yn cael eu cyfrif, a’r person sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill. Gallent fod wedi derbyn un bleidlais yn fwy na’u cystadleuydd agosaf, neu 1,000 yn fwy – o dan FPTP does dim ots. O dan y system hon mae’n gyffredin iawn i ymgeiswyr ennill gyda llawer llai na 50% o gefnogaeth.
- Canlyniadau anghymesur
- Seddi diwrthwynebiad
- Cynghorau un blaid
Yn achos awdurdodau lleol yng Nghymru, mae hyn yn golygu ein bod yn aml yn gweld canlyniadau anghymesur iawn. Mewn mwy na thraean o’n cynghorau, mae gan y blaid sy’n dal grym fwyafrif o seddi heb fwyafrif o’r pleidleisiau.
Yn gysylltiedig â’r canlyniadau anghymesur hyn mae’r broblem o seddi diogel, lle ceir canfyddiad mai dim ond un blaid all ennill mewn ardal benodol. Gall hyn olygu na fydd pleidiau eraill yn cynnig ymgeiswyr yn yr ardal honno, sy’n golygu mai dewis cyfyngedig sydd gan bleidleiswyr wrth y blwch pleidleisio.
Mae hyn hefyd yn arwain at wardiau lle nad oes digon o ymgeiswyr i etholiad gael ei gynnal, a chaiff ymgeiswyr eu hethol yn ddiwrthwynebiad (seddi diwrthwynebiad). Yn yr etholiadau lleol yn 2022, roedd 74 o seddi diwrthwynebiad ledled Cymru; 6% o’r holl seddi. Mewn rhai ardaloedd roedd y broblem yn waeth. Roedd gan Wynedd, er enghraifft, 28 o seddi diwrthwynebiad; 41% o’r holl seddi ar y cyngor hwnnw. Mae hyn yn golygu yw nad yw pleidleiswyr yn yr ardaloedd hyn yn cael dweud eu dweud ynghylch pwy yw eu cynrychiolwyr etholedig, ac maent yn colli eu pleidlais a’u llais ar adeg etholiad. Effeithiodd hyn ar dros 100,000 o bobl yng Nghymru yn yr etholiadau diwethaf.
Gall y system y Cyntaf i’r Felin hefyd arwain at gynghorau un blaid, lle mae plaid yn dal y cyfan, neu bron y cyfan, o’r seddi ar gyngor (yn aml heb fod wedi ennill cyfran gyfatebol o’r bleidlais). Yn yr ardaloedd hyn, nid yn unig y mae pleidleisiau i bleidiau eraill heb eu cynrychioli ar y cyngor, ond mae gwrthwynebiad gwleidyddol yn cael ei gyfyngu’n sylweddol, gan effeithio ar gyfleoedd ar gyfer craffu.