“Rhwystredig’”- un ymatebwr i’n harolwg pan fu gofyn i grynhoi’r hyn roedd gwleidyddiaeth yn ei golygu iddynt.
I lawer o bobl, mae ymdeimlad o ddadrithiad rhag gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.
Er mai enw rhan o’r adroddiad hwn yw ‘rhwystredigaeth’, roedd hi’n bosibl iawn ei galw’n ‘diffyg ymddiriedolaeth’, ‘dadrithiad eang’ neu, efallai, ‘dicter’, ‘pryder’ neu ‘siomedigaeth’.
O ystyried y bu cymaint o ymweliadau â’r blwch pleidleisio yn ystod y blynyddoedd diweddar yn ogystal ag achosion blaenorol o’r sgandal treuliau ac, yn fwy diweddar, honiadau o aflonyddu rhywiol ac osgoi trethi, mae rhwystredigaeth a drwgdybiaeth wedi ffynnu mewn llawer o elfennau o wleidyddiaeth fodern.
Mae hyn yn sicr yn deillio o rai o’r sylwadau gan bobl yn y prosiect nad oedd â dim diddordeb o gwbl mewn gwleidyddiaeth neu’n ei hystyried yn rym cynyddol negyddol yn eu bywyd ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Aeth dau berson yn ystod grŵp ffocws yng Nghricieth yn bellach.
“Mae popeth yn wleidyddiaeth a dwi ddim yn hoffi ohoni”
“Dwi ddim yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, dwi’n ei chasáu hi”
Cafodd yr anfodlonrwydd hwn ei fynegi yn ymatebion yr arolwg.
Pan ofynnwyd ‘Beth ydy gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’, ni wnaeth rhai ymatebwyr guddio eu teimladau: ‘Mae’n llanast.’ ‘rwtsh llwyr.’ ‘dim llawer.’ ‘pwy bynnag sy’n ennill, mae’r bobl yn colli.’ a dwedodd rhywun o Flaenau Gwent ei bod ‘yn llawn c*ch.’
Mae’n ddiddorol o hyd sylwi bod dau o’r ymatebwyr wedi pleidleisio ym mhob etholiad y bu modd iddynt. Soniodd llawer o’r rheiny a holwyd am yr argraff o wleidyddiaeth yn ganolfan a gaiff ei dominyddu gan anonestrwydd a chelwydd. Dwedodd 37 o bobl y geiriau ‘anonestrwydd’ neu ‘gelwydd’ mewn ymateb i’r cwestiwn yn ein harolwg ar-lein ‘Beth mae gwleidyddiaeth yn ei golygu i chi?’.
“Arian, tlodi i’r mwyaf bregus, wrth i’r cyfoethog ddod yn fwy cyfoethog”
“Mae gwleidyddiaeth yn hollbwysig i mi, er fy mod i wastad ar yr ochr anghywir ac yn gorfod brwydro dros fy hawliau. Dwi ddim yn meddwl gallwn ni osgoi gwleidyddiaeth, ond yn aml mae’n llafurus ac yn gwneud niwed i fy llesiant i frwydro dros hawliau, cyfreithiau a thriniaeth deg dro ar ôl tro”
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n dwyllodrus. Dim ond detholiad o bobl sydd â’r grym ac sy’n esgus bod gennym ni farn”
“Rhwystredigaeth, brwydro, atchwel, ambell beth cadarnhaol, llawer o safonau dwbl”
“Mynnu grym, sgorio pwyntiau, hunan-ddiddordeb, tablau cynghrair, ystadegau, haerllugrwydd, torcalonnus”
Gobaith