Hefyd ar gael yn: English

Yr hawl i sgrapio ‘Cyntaf i’r Felin’ wedi’i ennill i gynghorau Cymru

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 19th Tachwedd 2020

DIWEDDARIAD: Ddydd Mercher 20 Ionawr, daeth y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gyfraith ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol. Nawr mae’r ymgyrch yn dechrau i sicrhau bod cynghorau yng Nghymru yn ymrwymo i system bleidleisio decach, a bod pobl ifanc sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio yn gwybod am eu hawl i wneud hynny.

Yn Lloegr, mae’r ERS yn galw ar bob plaid i ymrwymo i gefnu ar System y Cyntaf i’r Felin, wrth i bleidleiswyr droi eu golygon at yr etholiadau ym mis Mai. Gallwch ymuno â’r ymgyrch yn y fan yma.

Darllenwch isod beth mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau yn ei olygu i Gymru….

Dychmygwch am eiliad y gellid trawsnewid llywodraeth leol i sicrhau bod pobl yn ymgysylltu’n ddyfnach, bod eu pleidleisiau’n cyfri a bod eu lleisiau’n cael eu clywed fel y dylent. Yn hytrach na chodi rhwystrau i gymryd rhan mewn democratiaeth, bod y rhwystrau hynny’n cael eu chwalu.

Dyna ddigwyddodd heno yng Nghymru wrth i’r Senedd bleidleisio i basio’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth sy’n trawsnewid etholiadau lleol ac yn gweddnewid y ffordd mae cynghorau’n gweithredu.

Mae’r bil yn cynnwys sawl ffordd o wella ac ehangu democratiaeth yng Nghymru ac yn newidiadau mae ERS Cymru wedi bod yn brwydro’n galed i’w gwireddu.

Dyma’r ddeddfwriaeth gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddiadwy (STV) mewn etholiadau yng Nghymru. Am y tro cyntaf, bydd gan gynghorau gyfle i newid i system sy’n rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr, sy’n sicrhau bod eu pleidlais yn cyfri ac sy’n cynnig gwell cynrychiolaeth. Dyma fuddugoliaeth nodedig i’r rheini sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ddiwygio etholiadol yng Nghymru. O ganlyniad i’r Bil hwn, bydd cynghorau unigol nawr yn cael pleidleisio a ydynt am newid o system y Cyntaf i’r Felin i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddiadwy a’r gobaith yw y bydd hynny’n rhoi terfyn ar etholiadau un ymgeisydd a chanlyniadau anghymesur. Bydd yr holl awdurdodau lleol dros y ffin yn Lloegr yn dal i fod yn rhwym wrth system sy’n methu â bodloni disgwyliadau pleidleiswyr yn effeithiol.

Bydd y bil hefyd yn ehangu ein democratiaeth i gynnwys y rheini a oedd wedi’u heithrio’n flaenorol, megis pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithiol yng Nghymru. Bydd y drefn newydd, a gafodd ei hymestyn yn flaenorol ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, yn golygu y bydd cenhedlaeth newydd sbon o bleidleiswyr nawr yn cael llais ar ddyfodol eu hardal leol. Bellach, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw’r unig wledydd yn y Deyrnas Unedig sy’n gwrthod yr hawl systematig i bobl ifanc gael roi eu barn ar faterion allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau beunyddiol.

Mae’r bil hefyd yn braenaru’r tir i weddnewid ein system hen-ffasiwn ac aneffeithiol o gofrestru pleidleiswyr. Gallai’r bil arwain at sefydlu system newydd lle gall swyddogion cofrestru ganfod pobl sydd ddim ar y gofrestr etholiadol a rhoi gwybod iddynt eu bod am gael eu hychwanegu ati. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan ddiffyg integreiddio gwasanaethau cynghorau ac yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Daw newidiadau i rym hefyd ar gyfer etholiadau 2022 gan roi pwysau ar gynghorau i ymgysylltu’n well â phobl sy’n byw yn eu cymunedau. Cyn bo hir, bydd gofyn i gynghorau gyhoeddi strategaethau er mwyn annog cyfranogaeth pobl yn eu hardal yn ogystal â datblygu a chynnal deisebau i alluogi etholwyr i alw am newidiadau ar bynciau sy’n effeithio arnynt.

Bydd y bil hefyd yn cyfrannu at geisio datrys materion amrywiaeth. Yn yr etholiadau diwethaf yn 2017, dim ond 28% o’r rheini a gafodd eu hethol yn gynghorwyr oedd yn fenywod. Er bydd angen gwneud rhagor o waith yn hyn o beth, mae mesurau’n cael eu rhoi ar waith i ganiatáu rhannu swyddi mewn swyddogaethau cabinet yn ogystal â mwy o hyfforddiant amrywiaeth i aelodau.

 

Bydd hyn i gyd yn arwain at newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae democratiaeth leol yn gweithredu yng Nghymru. Rydym wedi bod yn galw am y newidiadau hyn ers peth amser a diolch i’r ddeddfwriaeth, byddant nawr yn cael eu gwireddu. Dros y blynyddoedd nesaf, gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn symud gyda’r oes gan ganolbwyntio ar eu hetholwyr fel bod ein democratiaeth leol yn dechrau ffynnu.

Mae’r holl sôn am newidiadau yng Nghymru yn codi’r cwestiwn ‘Pam na all Lloegr wneud yr un peth?’

Mae angen dybryd i ddiwygio’r drefn yn Lloegr er mwyn cael llywodraeth leol decach a mwy cynrychioladol yno. Gyda’r Alban eisoes yn arwain y ffordd ar gynrychiolaeth gyfrannol a nawr Cymru’n ymuno â’r ymgyrch dros bleidleisiau tecach, onid oes rhaid i Loegr wneud rhywbeth? Rhaid cadw’r pwysau ar San Steffan i ddilyn yr esiamplau hyn gyda chyfres o ddiwygiadau i ddemocratiaeth leol gan sicrhau bod pleidleiswyr ledled y DU yn cael eu cynrychioli’n deg.

Darllen mwy o bostiadau...