Hefyd ar gael yn: English

Yr wythnos hon cyflwynodd Llywodraeth Cymru Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 18th Medi 2023

Y flwyddyn nesaf bydd y Senedd yn nodi chwarter canrif ers ei sefydlu. Am lawer o’r 25 mlynedd hynny mae wedi bod yn amlwg bod y Senedd yn rhy fach. Gyda dim ond 60 o aelodau mae Senedd Cymru ar hyn o bryd gryn lawer llai na Chynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban a bron i hanner cynghorau Cymru.

Cafodd yr adroddiad cyntaf yn galw’n swyddogol ar i’r Senedd gynyddu mewn maint ei ryddhau ymhell yn ôl yn 2004, a bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach rydym o’r diwedd yn gweld cynnydd.

Yr wythnos hon cyflwynodd Llywodraeth Cymru Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Bydd y Bil hwn o’r diwedd yn cyflawni diwygiadau hir-ddisgwyliedig i faint y Senedd, gan ei chynyddu o 60 i 96 o aelodau.

Bydd hyn yn rhoi hwb i swyddogaeth graffu hanfodol y Senedd, gan ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well. Mae’r llywodraeth yn gwario dros £20bn bob blwyddyn ar wasanaethau cyhoeddus allweddol, sy’n effeithio ar ein hiechyd, ein haddysg a’n swyddi. Nid yw ond yn iawn fod digon o bobl yn y senedd i archwilio cyllidebau’n iawn ac yn craffu drwy ddeddfwriaeth fesul llinell i wirio am unrhyw gamgymeriadau. Mae craffu da yn talu amdano’i hun ac mae craffu gwael yn arwain at benderfyniadau gwael yn mynd heb eu herio.

Ochr yn ochr â chynlluniau i gynyddu capasiti’r Senedd mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnig newid ei system etholiadol. Mae’n wirioneddol bwysig bod gan y Senedd ddigon o aelodau i gyflawni ei gwaith, ond mae’r un mor bwysig eu bod yn cael eu hethol mewn ffordd deg a thryloyw.

Mae’r system bleidleisio a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn system rhestr gyfrannol gaeedig, lle mae pleidleiswyr yn dewis plaid yn hytrach nag ymgeiswyr unigol. Mae’r system yn dileu cyfle’r cyhoedd i bleidleisio dros yr ymgeiswyr o’u dewis, gan ddileu’r cyswllt personol allweddol rhwng pleidleiswyr a’u cynrychiolwyr etholedig. Mae’n bwysig bod y Senedd yn cynrychioli’n gywir y ffordd y pleidleisiodd pobl Cymru.

Y broblem gyda’r system hon yw ei bod yn cyfyngu ar atebolrwydd drwy ei gwneud yn anos i bleidleisio er mwyn cael gwared ar rywun nad yw’n gwneud gwaith da.

Argymhellodd y Panel Arbenigol yn ôl yn 2017 a phwyllgor yn y Senedd flaenorol gynyddu maint y Senedd, ond gan ddefnyddio’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) i ethol siambr fwy. STV yw’r system a ffafrir gan ERS hefyd, ac mae’n ofid gennym nad yw Llywodraeth Cymru wedi dewis hynny. Ond yn absenoldeb STV byddem yn gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ystyried eto gwneud rhestrau’n fwy hyblyg neu agored, a thrwy hynny roi cyfle i bleidleiswyr gael dweud eu dweud o ran yr ymgeiswyr maent am eu dewis.

Er ein bod yn feirniadol o’r system bleidleisio a ddewiswyd, nid oes unrhyw wadu y bydd y ddeddfwriaeth hon yn dod â diwygiadau angenrheidiol hir-ddisgwyliedig i’r Senedd.

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Mehefin, amlinellodd y Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd nifer o ddeddfau eraill sydd i’w cyflwyno a fydd yn diwygio democratiaeth Cymru, gan gynnwys bil i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd drwy gwotâu rhywedd. Bydd bil arall i wella gweinyddiaeth etholiadol yn cyflwyno mentrau pwysig i gynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru. Mae hefyd yn wych gweld yr ymrwymiad i sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol i Gymru, a gobeithiwn y bydd yn dysgu o fodel yr Alban.

Wrth i ni aros am y darnau pellach hyn o ddeddfwriaeth, mae’n amlwg bod hon yn foment wirioneddol o ddiwygio a newid i’n democratiaeth. Bydd golwg wahanol iawn i etholiadau nesaf y Senedd yn 2026 o gymharu â rhai’r blynyddoedd diwethaf, ac yn y pen draw yn sicrhau senedd sy’n addas ar gyfer Cymru.

Darllen mwy o bostiadau...