Hefyd ar gael yn: English

Briff ERS Cymru ar system etholiadol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer Aelodau’r Senedd

Wedi'i bostio ar y 27th Hydref 2020

Cyflwyniad

Mae ERS Cymru yn croesawu’r symudiad i gynrychiolaeth gyfrannol ganiataol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, fel y nodir ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), oherwydd fe’i welir fel cam ymlaen i wella democratiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r gynrychiolaeth gyfrannol lawn sy’n angenrheidiol i wir gryfhau ein democratiaeth leol.

Mae seddi diwrthwynebiad yn rhemp mewn gwleidyddiaeth leol yng Nghymru, oherwydd System Cyntaf i’r Felin bresennol. Yn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf (2017), safodd bron i 100 o gynghorwyr yng Nghymru heb wrthwynebiad, gydag un cynghorydd ym Mhowys wedi dal ei sedd yn ddiwrthwynebiad am 37 o flynyddoedd.[1] Tynnodd adroddiad Lleisiau Newydd ERS Cymru (2018)[2] sylw at y prinder mewn amrywiaeth ar y lefel hon o lywodraeth leol, gyda dim ond 28% o gynghorwyr yn nodi eu bod yn fenywod, a phrinder gwybodaeth gyflawn yn ymwneud â meysydd eraill o amrywiaeth, fel oedran, ethnigrwydd neu rywioldeb.

Mae risg wirioneddol y byddai caniatáu i gynghorau unigol ddewis symud i system etholiadol STV neu barhau â System y Cyntaf i’r Felin yn golygu y bydd y rhai y mae’r system gyfredol o fudd iddynt yn annhebygol o bleidleisio dros newid. Byddai hyn yn rhwystro’r uchelgais yng Nghymru i gynyddu amrywiaeth mewn llywodraeth leol, er mwyn i gynghorau adlewyrchu eu hetholwyr yn well.

Mae tystiolaeth o’r Alban, y gallai symud i STV ar gyfer etholiadau lleol, roi hwb o’r newydd i ddemocratiaeth leol. Yn yr etholiadau lleol diwethaf o dan y System Cyntaf i’r Felin yn yr Alban yn 2003, roedd 61 cynghorydd wedi cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad, ond nid oedd unrhyw sedd yn ddiwrthwynebiad yn 2007 pan ddaeth STV i rym.[3] Yng Nghymru, mae’r ganran sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol yn isel, gyda dim ond 42% o’r etholwyr yn pleidleisio yn 2017. Gallai symud i STV helpu i wrthsefyll hyn, trwy wneud pob sedd yn gystadleuol gyda phob pleidlais yn cyfrif.

Esboniad o STV

Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol a grëwyd ym Mhrydain. Mae’r Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Malta, Seland Newydd ac Awstralia yn defnyddio’r system hon ar gyfer rhai neu’r cyfan o’u hetholiadau.

Sail STV yw rhoi dewis o ymgeiswyr i bleidleiswyr a chynrychiolaeth deg o’u safbwyntiau. Er bod STV yn ceisio rhoi’r hyn maen nhw ei eisiau i bleidleiswyr, mae hefyd yn deg i ymgeiswyr a phleidiau o ran sut y gallant gael cynrychiolaeth.

Yn hytrach nag un unigolyn yn cynrychioli pawb mewn ardal fach, fel a geir gyda System y Cyntaf i’r Felin er enghraifft, mae ardaloedd ychydig yn fwy yn ethol tîm bach o gynrychiolwyr. Mae’r cynrychiolwyr hyn yn adlewyrchu amrywiaeth y safbwyntiau yn yr ardal.

Nid oes angen i ymgeiswyr gael y mwyafrif o bleidleisiau i gael eu hethol, dim ond ‘cwota’ neu gyfran o’r pleidleisiau, a bennir gan nifer y bobl sy’n pleidleisio a nifer y seddi i’w llenwi.

Mae pob pleidleisiwr yn cael un bleidlais, a all drosglwyddo o’u dewis cyntaf i’w hail ddewis, felly os nad oes gan yr ymgeisydd a ffefrir unrhyw obaith o gael ei ethol neu os oes ganddo ddigon o bleidleisiau eisoes, trosglwyddir eu pleidlais i ymgeisydd arall yn unol â’u cyfarwyddiadau. Felly mae STV yn sicrhau mai ychydig iawn o bleidleisiau sy’n cael eu gwastraffu, yn wahanol i systemau eraill, yn enwedig y System Cyntaf i’r Felin, lle mai dim ond nifer gymharol fach o bleidleisiau sy’n cyfrannu at y canlyniad mewn gwirionedd.

Manteision STV

Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn cynnig mwy o gyfranoldeb ac yn golygu bod pleidlais pawb yn cyfrif, mae’n lleihau nifer y seddi diwrthwynebiad, yn annog amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ac yn annog ymgysylltiad â phleidleiswyr. Mae pleidleiswyr yn fwy tebygol o gael y cynrychiolwyr o’u dewis ac mae’r canlyniad cyffredinol yn debygol o fod yn gyfrannol yn fras â nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros bob plaid. Bydd pob ardal bron yn sicr o gael ei chynrychioli gan nifer o bobl o wahanol bleidiau. Mae STV yn defnyddio un papur pleidleisio fel System y Cyntaf i’r Felin, ond yn lle pleidleisio dros eu prif ymgeisydd yn unig, gall pleidleiswyr raddio cymaint neu gyn lleied o ymgeiswyr ag y maent eu heisiau ar y ddalen bleidleisio, yn nhrefn eu dewis.

Cyfranoldeb:

  • Cynrychiolaeth deg i bleidiau: Mae STV yn rhoi cynrychiolaeth deg i bleidiau gwleidyddol yn gyfrannol â’u cefnogaeth. O dan STV, bydd llais gan bleidiau bach sydd â chefnogaeth sylweddol. Nid yw dadleuon ‘ni all X ennill yma, felly pleidleisiwch dros Y’ yn berthnasol mwyach. Tra gall cefnogaeth plaid gael ei thanddatgan yn sylweddol o dan System y Cyntaf i’r Felin oherwydd pleidleisio tactegol, mae STV yn sicrhau bod cefnogaeth gudd yn dod i’r amlwg. Gall plaid y mae ei phleidlais wedi’i gwasgu yn y gorffennol am resymau tactegol neidio ymlaen oherwydd bod pobl bellach yn rhydd i fwrw pleidlais dros eu dewis cyntaf, yn hytrach na phleidlais negyddol i atal y blaid maen nhw’n ei hoffi leiaf rhag ennill.
  • Mae’r holl seddi’n gystadleuol: mae seddi diogel a diwrthwynebiad bron yn cael eu dileu. O dan STV, mae pleidiau’n cael eu cymell i ymgyrchu ym mhob sedd, oherwydd – yn dibynnu ar lefel eu cefnogaeth – gallent fod â chyfle o gael eu hethol. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at bleidiau’n gorfod talu mwy o sylw i’r materion lleol sy’n effeithio ar bleidleiswyr fel ffordd o gael eu dewisiadau. Ymhellach at hyn, mae hefyd yn newid technegau ymgyrchu pleidiau – mae bod yn or-frathog am ymgeiswyr/pleidiau eraill yn annhebygol o fod o gymorth wrth ddenu ail ddewisiadau a dewisiadau is, ac wrth ffurfio clymblaid ar ôl yr etholiad.

Amrywiaeth:

  • Ymgeiswyr sy’n adlewyrchu cymdeithas: Mae gan bleidiau gymhelliant i sefydlu tîm o ymgeiswyr sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas.
  • Dewis ymgeisydd dros blaid: Oherwydd bod pob plaid fel arfer yn cyflwyno nifer o ymgeiswyr a gall pleidleiswyr ddewis rhyngddynt, nid yw’r pleidleisiwr yn gaeth i ffefryn y blaid. Gallant ddewis pwy maent yn meddwl a fydd yn gweithio galetaf; neu ar sail rhyw neu oedran; neu bobl y maent yn cytuno â nhw ar fater penodol.
  • Mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr etholedig: gallai STV gynyddu amrywiaeth trwy ddileu seddi diymgeisydd a gwneud i bob pleidlais gyfrif, gan ganiatáu i ymgeiswyr newydd sefyll ac ennill seddi yn llwyddiannus.

Atebolrwydd:

  • Yn atebol yn lleol: Mae STV yn cynnal y cysylltiad rhwng cynrychiolydd etholedig ac ardal etholaeth leol. Er byddai’r wardiau’n debygol o fod yn fwy nag o dan y System Cyntaf i’r Felin gyfredol, byddent yn dal i fod yn rhanbarthol o fewn ardaloedd cynghorau lleol gan ganiatáu codi materion lleol iawn. Yn ogystal, efallai bydd pleidleiswyr a roddodd eu pleidlais gyntaf dros ymgeisydd aflwyddiannus wedi dewis yr ymgeisydd llwyddiannus fel eu hail-ddewis neu ddewis dilynol.

Dewis Pleidleiswyr:

  • Gwneud y mwyaf o ddewis pleidleiswyr: Mae STV yn gwneud y mwyaf o ddewis pleidleiswyr, gan ganiatáu i bleidleiswyr fynegi cymaint neu gyn lleied o ddewisiadau ag y dymunant. Gall pleidleiswyr raddio’r holl ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis, sy’n golygu mai ychydig o bleidleisiau sy’n cael eu gwastraffu. Mae hefyd yn dileu’r cymhelliant i bleidleisio’n dactegol, a thrwy hynny wella’r dewis o bleidleiswyr. Gydag STV, gall pleidleisiwr roi ei bleidlais dewis cyntaf yn ddiogel i’w hoff ymgeisydd gan wybod, os na all yr ymgeisydd hwnnw ennill neu os oes ganddo ddigon o bleidleisiau eisoes i gael ei ethol, bydd y bleidlais yn cael ei throsglwyddo yn unol â’u cyfarwyddiadau.
  • Grym i bleidleiswyr: Mae STV yn rhoi grym i bleidleiswyr, yn hytrach nag i’r pleidiau, i ddewis pa ymgeiswyr sy’n eu cynrychioli.

ut y byddai’n gweithio

Yn lle’r gymysgedd bresennol o wardiau un cynghorydd a sawl cynghorydd, o dan system STV, byddai angen i faint ward gynyddu ychydig fel y byddai’n debygol y byddai rhwng tri a phum cynghorydd fesul ardal (mae yna lawer o wardiau yng Nghymru sydd eisoes yn ethol y nifer yma o gynghorwyr). Mae wardiau maint mwy yn caniatáu mwy o gyfranoldeb, ond mae’n bwysig bod wardiau’n dal i gynrychioli cymunedau naturiol. Wrth bennu maint y wardiau, byddai angen ystyried nifer y pleidiau sy’n denu cefnogaeth leol sylweddol a dwysedd poblogaeth yr ardal (efallai y byddai wardiau bach â llai o gynghorwyr yn well mewn ardaloedd gwledig, i sicrhau atebolrwydd lleol effeithiol oherwydd bod y boblogaeth yn fwy gwasgaredig).

<>Casgliad</>

Mae ERS Cymru yn argymell bod etholiadau llywodraeth leol yn symud i system etholiadol STV lawn. Byddai hyn nid yn unig yn osgoi dryswch system etholiadol ddeuol yn seiliedig ar sir ar gyfer etholiadau lleol, ond hefyd yn cryfhau democratiaeth wrth gynyddu amrywiaeth ac yn rhoi hwb o’r newydd i ymgysylltu â gwleidyddiaeth leol.

[1] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-39751858

[2] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/new-voices-how-welsh-politics-can-begin-to-reflect-wales/#sub-section-8

[3] https://www.electoral-reform.org.uk/looking-back-at-a-decade-of-proportional-representation-for-local-elections-in-scotland/

Darllen mwy o bostiadau...