Democratiaeth ac Amrwyiaeth: Creu Cymru i Bawb

Author:
Electoral Reform Society,

Posted on the 15th April 2016

Darllenwch ein maniffesto, “Democratiaeth ac Amrwyiaeth: Creu Cymru i Bawb”, yma

Yn y bôn, mae democratiaeth yn ddathliad o amrywiaeth.

Mae democratiaeth yn mynnu bod y dadleuon yn cael eu profi, craffu a’u gwirio, o’u ffurfio i ddatblygu a cynnal polisiau. Dyna pam ei bod yn bwysig bod y cefndir y rhai yn gwneud hynny mor amrywiol â phosibl – i gael y safbwyntiau ehangaf seiliedig ar y ffeithiau a phrofiadau pobl yng Nghymru.

Dyna pam na ddylai unrhyw un grŵp gael monopoli ar gynrychiolaeth. Mae angen i ni chwalu y nenfwd gwydr yn y Cynulliad.

Felly heddiw rydym yn falch o lansio ein maniffesto ar amrywiaeth – ein gofynion ar gyfer y pleidau yng Nghymru wedi Mai 5ed.

Mae angen dealltwriaeth briodol ac ymateb i’n problemau a’r heriau mae Cymru’n ei wynebu ac mae angen i holl gymunedau gymdeithas Cymru gymryd rhan i wireddu hynny. Os yw rhai grwpiau yn cymryd rhan anc yn cael eu cynrychioli yn sylweddol llai nag eraill, mae hyn yn meithrin ac yn atgyfnerthu anghydraddoldeb. Pan fydd lleisiau yn cael eu heithrio, democratiaeth sy’n dioddef.

Wrth i ni symud tuag at fodel mwy ‘rhwydweithiol’ a chyfranogol o lywodraethu, mae perygl i’r eithrio o bobl penodol hwn waethygu – lleisiau uwch ac yn fwy breintiedig yn cael y dweud mwyaf, ar draul y rhai sydd wedi eu heithrio o’r broses wleidyddol.

Mae Cymru wedi gwneud yn well ar hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond ni ddylai delwedd y gwleidydd fel dyn gwallt llwyd, llwyd ei siwt, canol oed yn dal mwyach.

Mewn rhai ardaloedd mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gryf iawn – fel cynrychiolaeth rhyw, a’r ddyletswydd statudol i gynnwys gwahanol ddemograffeg yn y broses o lunio polisi, ond mae ein pryder bod yr enillion hyn yn fregus yn parhau.

Rydym yn galw ar bob Plaid i ymuno â Stonewall CymruWomen Making a Difference ac Sefydliad y Merched, ac chefnogi’r polisïau yn ein ‘miniffesto’ Amrywiaeth ni’n ei lawnsio heddiw.

Gadewch i ni sicrhau bod ein cymuned o gymunedau yng Nghymru yn cael ei hadlewyrchu’n ddigonol mewn gwleidyddiaeth. Mae democratiaeth Cymru yn tyfu ac yn datblygu drwy’r amser. Gallwn dyfu gyda’n gilydd – a gall ein democratiaeth ffynnu.

Darllenwch ein maniffesto, “Democratiaeth ac Amrwyiaeth: Creu Cymru i Bawb”, yma

Read more posts...