Pan ddisgrifiodd Ron Davies y syniad o ddatganoli fel ‘proses nid digwyddiad’ yn ôl yn 1999, doedd ganddo fawr o syniad y byddai ei eiriau’n dod i ddisgrifio chwarter canrif o ddiwygio yng Nghymru. Mae ei eiriau wedi dod yn ddywediad sydd bron yn ddihareb, ac un sy’n ymddangos ym mron pob dadansoddiad o ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru.
Ond mae’r hen ddywediadau hyn mor aml yn wir. Mae geiriau Davies i’w gweld yn arbennig o addas ar hyn o bryd wrth i ni gymryd y cam nesaf yn y ‘broses’ honno – y diwygio hir-ddisgwyliedig o’r Senedd.
Agorwyd y Senedd ym 1999, ac mae’n deg dweud ein bod ni, yn ystod ei hanes 23 mlynedd, wedi bod yn sôn am yr angen i ddiwygio am bron i 20 ohonynt. Yn ystod yr amser hwnnw mae llawer wedi newidiadau; datganoli pwerau pellach, refferendwm a ganiataodd i’r Senedd ffurfio ei ddeddfau ei hun yn ogystal â phwerau codi treth, i enwi ond ychydig ohonynt. Ond trwy gydol hyn oll mae nifer y seddi yn y Siambr (siambr y Senedd) wedi aros yn ddigyfnewid, sef 60.
Cyflwynwyd yr adroddiad cyntaf oedd yn argymell cynnydd yn nifer yr aelodau (ASC) yn ôl yn 2004, er na wnaed fawr ddim, os o gwbl, bryd hynny. 13 mlynedd yn ddiweddarach, galwodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad am becyn o ddiwygiadau gan gynnwys cynnydd i rhwng 80-90 o aelodau, newid yn y system bleidleisio a chwotâu. Derbyniodd yr awgrymiadau hyn gefnogaeth gan y pwyllgor trawsbleidiol cyntaf ar ddiwygio yn 2020. Nawr, yn 2022, rydyn ni’n nes nag erioed i weld y newidiadau hyn yn cael eu gwireddu.
Yn y Senedd yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd ASC i gymeradwyo adroddiad newydd gan bwyllgor trawsbleidiol, sydd wedi argymell cynyddu’r Senedd i 96 o seddi, system bleidleisio newydd sy’n defnyddio rhestrau cyfrannol caeedig, gyda’r cwotâu rhywedd cyntaf yn y DU i gyd-fynd â nhw. Mae eu cefnogaeth yn golygu y bydd yr argymhellion hyn nawr yn mynd ger bron Llywodraeth Cymru, a fydd yn mynd ati i ddrafftio bil i wireddu’r cynigion hyn ar gyfer yr etholiadau nesaf yn 2026.
Er ein bod yn falch iawn o weld y Senedd yn cefnogi cynlluniau i gynyddu maint y Senedd i 96, mae gennym bryderon ynghylch y system rhestr gaeedig a ddefnyddir i ethol yr aelodau hyn. Rydym yn hynod gefnogol i’r symudiad oddi wrth system y Cyntaf i’r Felin a’r symudiad i etholaethau aml-aelod – arwydd clir o wrthod y math o wleidyddiaeth hen ffasiwn, lle mae’r sawl sy’n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau’n mynnu’r pŵer i gyd, a welwn yn rhy aml o lawer yn San Steffan. Ond eto, mae system rhestr gaeedig yn dod â’i phroblemau ei hun – mae’n system sy’n cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac yn rhoi gormod o rym yn ôl yn nwylo pleidiau ac aelodau’r blaid. Mae dyrannu seddi yn ôl y dull D’hondt (fel y cynigiwyd) hefyd mewn perygl o greu system na fydd yn llawer mwy cyfrannol na’r system bresennol, ac a allai gau allan y pleidiau llai.
Mae’r mesurau i wella amrywioldeb y Senedd o ran rhywedd y cyntaf o’u math yng ngwleidyddiaeth y DU ac yn garreg filltir i’w chroesawu. Denodd y Senedd gryn sylw yn 2003, gan ddod y ddeddfwrfa gyntaf i gyrraedd 50:50 o ran cydraddoldeb rhywedd. Ers hynny mae cynrychiolaeth menywod wedi gostwng, a’r gobaith yw y bydd integreiddio cwotâu rhywedd i’r system etholiadol yn sicrhau mwy o amrywioldeb o ran rhywedd.
Eto i gyd, dim ond rhan o’r stori ynghylch amrywioldeb yw rhywedd. Mewn meysydd eraill, megis hil ac ethnigrwydd, mae’r Senedd wedi bod yn waeth o ran cynrychiolaeth. Dim ond y llynedd yr etholodd y Senedd ei haelod benywaidd cyntaf o gefndir lleiafrifol ethnig. Mae’r cynigion hyn yn gam clir ymlaen, ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd, a hynny gynted â phosib – rhywbeth mae’r pwyllgor wedi argymell, diolch byth.
Ar y cyfan, er bod gennym bryderon ynghylch rhai elfennau o’r pecyn hwn i ddiwygio’r Senedd, mae’n arwydd o gam sylweddol yn nhaith ddatganoli Cymru.
Mae’n debygol y bydd y cam nesaf, sef troi’r cynlluniau hyn yn gyfraith, yn cychwyn y flwyddyn nesaf. Rhaid i drafodaethau ddechrau ar sut mae mynd ati i droi’r cynigion hyn yn fesur a fydd yn sicrhau Senedd gryfach, decach a mwy amrywiol. Bydd y Senedd wedi aros dros 25 mlynedd am ddiwygio; gadewch i ni nawr weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r cynlluniau hyn ar gyfer gwell democratiaeth, a hynny mewn ffordd sy’n gweithio i Gymru gyfan.