Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Gyda’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, mae cryfder y pleidiau yn cyd-fynd â lefel y gefnogaeth sydd ganddynt ledled y wlad, ac mae gan gynrychiolwyr – er enghraifft, Aelodau Seneddol – gysylltiad cryf â’u hardal leol.

Beth yw’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy?

Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol a grëwyd ym Mhrydain. Mae Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Malta, Yr Alban ac Awstralia yn defnyddio’r system hon ar gyfer rhai neu bob un o’u hetholiadau. Yn America, cyfeirir at y system hon fel ‘pleidleisio dewis fesul safle mewn seddi aml-aelod’; yn Awstralia maent yn ei galw’n ‘Hare-Clark’.

Sut mae system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn gweithio?

Yn hytrach nag un person yn cynrychioli pawb mewn ardal fach, mae ardaloedd mwy yn ethol tîm bach o gynrychiolwyr, e.e. 4 neu 5. Mae’r cynrychiolwyr hyn yn adlewyrchu amrywioldeb barn yn yr ardal.

Ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleiswyr yn rhifo rhestr o ymgeiswyr. Eu ffefryn fel rhif un, eu hail ddewis fel rhif dau, a.y.b. Gall pleidleiswyr osod rhif ger cymaint neu gyn lleied o ymgeiswyr ag y dymunant. Yn aml bydd pleidiau’n cynnig mwy nag un ymgeisydd ym mhob ardal.

Mae’r rhifau’n dweud wrth y bobl sy’n cyfrif i symud eich pleidlais os oes gan eich hoff ymgeisydd ddigon o bleidleisiau eisoes neu os nad oes ganddo unrhyw obaith o ennill.

Sut caiff ei gyfrif

I gael ei ethol, rhaid i ymgeisydd dderbyn nifer penodol o bleidleisiau – cyfeirir at hwn fel y cwota. Mae’r bobl sy’n cyfrif y pleidleisiau yn cyfrifo’r cwota yn seiliedig ar nifer y swyddi gwag a nifer y pleidleisiau a fwriwyd.

Mae gan bob pleidleisiwr un bleidlais. Unwaith y bydd y cyfrif wedi dod i ben, bydd unrhyw ymgeisydd sydd â mwy o bleidleisiau dewis cyntaf na’r cwota yn cael ei ethol. Ond, yn hytrach nag anwybyddu pleidleisiau ychwanegol a gafodd ymgeisydd ar ôl y nifer y mae angen iddynt eu cael i ennill, mae’r pleidleisiau hyn yn symud i’r ymgeisydd nesaf ar restr pob pleidleisiwr.

Os nad oes neb yn cyrraedd y cwota, yna mae’r bobl sy’n cyfri’r bleidlais yn cael gwared ar yr ymgeisydd lleiaf poblogaidd. Mae pleidleisiau pobl a bleidleisiodd drostynt yn cael eu symud i’r ymgeisydd nesaf ar eu rhestr. Mae’r broses hon yn parhau nes bod pob swydd wag wedi’i llenwi.

Effeithiau a Nodweddion

Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn system etholiadol sy’n rhoi’r pŵer yn nwylo’r cyhoedd. Mae tystiolaeth o’r Alban ac Iwerddon yn awgrymu bod pleidleiswyr yn ei defnyddio mewn ffyrdd eithaf soffistigedig.

Gall pleidleiswyr hefyd ddewis rhwng ymgeiswyr o’r un blaid neu bleidiau gwahanol. Mae hyn yn golygu y gall pleidleiswyr ethol pob AS ar sail eu galluoedd unigol.

Gall pleidleiswyr hefyd bleidleisio dros ymgeiswyr annibynnol heb boeni am wastraffu eu pleidlais. Mae gan Iwerddon lawer o ASau annibynnol; felly hefyd rhai cynghorau yn yr Alban.

Mae etholaethau yn fwy naturiol, gan gwmpasu tref neu sir gyfan. Mae hyn yn creu cyswllt lleol amlwg, ac mae’n rhoi dewis o gynrychiolwyr i bleidleiswyr siarad â nhw.

Enghreifftiau

Ar ôl Etholiad Cyffredinol Iwerddon 2020, buom yn siarad â phobl sydd wedi pleidleisio gyda system STV Iwerddon ac o dan system y Cyntaf i’r Felin San Steffan. Gallwch ddarllen sut roedden nhw’n teimlo am STV yn ein blog.