Mae’r dirwedd wleidyddol fodern yn edrych yn dra gwahanol i’r un a wynebai Syr John Lubbock pan sefydlodd y gymdeithas ym 1884.
Ers dros 130 o flynyddoedd, mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi bod yn ymwneud â mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy fel dull cynrychiolaeth gyfrannol yng Ngweriniaeth Iwerddon, yna helpu i amddiffyn y system honno ddwywaith yn erbyn ymdrechion gwleidyddion i ddychwelyd i system etholiadol San Steffan.
Bu’r Gymdeithas hefyd yn ymwneud â mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ym Malta, a bu’n cynorthwyo’r ymgyrch yn Awstralia.
Mae gennym bellach yr un system ar waith yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont a phob cyngor lleol. Yn yr Alban, defnyddir systemau cyfrannol yn Senedd yr Alban ac ar gyfer pob cyngor lleol, ac yng Nghymru, caiff system gyfrannol ei defnyddio ar gyfer y Senedd.
Dros y 130 mlynedd diwethaf mae’r system y Cyntaf i’r Felin wedi newid o fod y system etholiadol ddiofyn i un ymylol, a ddefnyddir ar gyfer San Steffan a chynghorau Cymru a Lloegr yn unig.