Grŵp Democratiaeth Cymru
Yn flaenorol y Gweithgor Ymgysylltu Etholiad (EEWG)
Gyda phobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor bellach yn gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru, mae ERS Cymru wedi bod yn helpu i ddod â sefydliadau sy’n awyddus i annog mwy o bobl i ymwneud â democratiaeth Cymru at ei gilydd.
Sefydlwyd y grŵp yn 2020 cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, sef y cyntaf i ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys, er mwyn:
- Deall y gwaith ymgysylltu sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru
- Lleihau’r risg o ddyblygu gwaith
- Hyrwyddo cydweithio ar draws sefydliadau
- Hwyluso ymgysylltu â grwpiau targed
Ar hyn o bryd mae 60+ o fudiadau o bob rhan o Gymru’n rhan o’r grŵp, ac rydym nawr yn edrych ymlaen at etholiadau lleol 2022 a thu hwnt.
Aelodaeth
Mae’r grŵp yn agored i bob mudiad sydd â diddordeb mewn cynyddu ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar y rhai sy’n gweithio gyda grwpiau sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio a’r rheiny sy’n llai tebygol o bleidleisio. Os ydych chi am ymuno â’r grŵp, anfonwch e-bost at Nia.Thomas@electoral-reform.org.uk
Cyfarfodydd
Yn gyffredinol, cynhelir cyfarfodydd bob 6 wythnos am 1 awr ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd amlder y cyfarfodydd yn cynyddu wrth i etholiadau Cymru nesáu.
Caiff nodiadau o’r cyfarfodydd eu hanfon i’r rhai sydd ar y rhestr ohebiaeth ar ôl pob cyfarfod.
Gallwch ddarllen am gylch gorchwyl y grŵp yn llawn, ynghyd â mwy o fanylion ynghylch ei bwrpas a’r amcanion. Grŵp Democratiaeth Cymru
More information about Grŵp Democratiaeth Cymru