Hefyd ar gael yn: English

Aelodaeth

Mae ein haelodau’n cynorthwyo ein gwaith yn senedd San Steffan, yn y wasg ac ar-lein - gan gyflwyno'r achos, a'i gefnogi - ar gyfer sut y gallwn ddiwygio’r system doredig yno.

Ymunwch fel aelod am £5 neu fwy’r mis, a byddwch yn derbyn bag cario’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol am ddim.

Ym 1884, daeth grŵp amrywiol o bobl o bob cefndir gwleidyddol ynghyd yn 7 Stryd Clarges, San Steffan, i sefydlu’r Gymdeithas Cynrychiolaeth Gyfrannol. Efallai bod ein henw wedi newid, ond mae’r gred mewn democratiaeth a ysgogodd ein haelodau gwreiddiol i sefydlu’r gymdeithas yr un mor gryf o hyd.

Dangoswch i’r byd eich bod chi’n malio am ein treftadaeth ddemocrataidd drwy ddilyn ôl eu traed a dod yn aelod o’r mudiad hyrwyddo democratiaeth hynaf yn y byd – am gyn lleied â £2 y mis.

Fel aelod, byddwch hefyd yn derbyn:

Bwletinau wedi’u hysgrifennu’n benodol ar gyfer yr aelodau

Diweddariadau unigryw a gwybodaeth o du ôl i’r llenni o’n hymgyrchoedd

Byddwch yn gallu sefyll a phleidleisio yn ein hetholiadau mewnol

Llythyr croeso a chopi o’n Hadroddiad ar Etholiad Cyffredinol 2019, ‘Pleidleiswyr yn Cael eu Gadael heb Lais’

Mynediad am ddim i weminarau ar gyfer aelodau ERS yn unig. Gweler digwyddiadau sydd ar y gweill.

Gallwch osod taliad sefydlog ar gyfer aelodaeth o gyn lleied â £2 y mis (Cynigir gostyngiad i fyfyrwyr, pobl sydd wedi ymddeol a’r digyflog).