Y Cyntaf i'r Felin yw'r enw a roddir i’r system etholiadol a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol (ASau) i San Steffan.
Mae cyn-drefedigaethau Prydeinig yn dueddol o ddefnyddio’r un system bleidleisio â San Steffan. Mae llawer ohonynt, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Iwerddon, Cyprus, Malta a De Affrica bellach wedi rhoi’r gorau i hynny. Ond mae’r Unol Daleithiau, Canada, India, a llawer o daleithiau’r Caribî ac Affrica yn dal i ddefnyddio’r hen system.
Mae’r rhan fwyaf o wledydd ledled y byd yn defnyddio systemau pleidleisio cyfrannol – byddai plaid sy’n derbyn hanner y bleidlais yn ennill hanner y seddi yn y senedd. Ond oherwydd bod gan India dros 800 miliwn o bleidleiswyr, mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr unigol yn defnyddio’r Cyntaf i’r Felin (FPTP).
Ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleiswyr yn cael papur pleidleisio gyda rhestr o ymgeiswyr arno. Gan mai dim ond un AS fydd yn cynrychioli’r ardal, dim ond un ymgeisydd sydd gan bob plaid i ddewis o’u plith.
Mae pleidleiswyr yn rhoi croes wrth ymyl eu hoff ymgeisydd. Ond os ydyn nhw’n meddwl nad oes gan eu ffefryn lawer o siawns o ennill, mae’n bosib y byddan nhw’n rhoi croes wrth ymyl un maen nhw’n ei hoffi sydd â gwell siawns o ennill.
Gan mai dim ond un ymgeisydd sydd o bob plaid, mae’n rhaid i bleidleiswyr sy’n cefnogi’r blaid honno ond nad ydynt yn hoffi eu hymgeisydd naill ai bleidleisio dros blaid nad ydynt yn ei chefnogi neu ymgeisydd nad ydynt yn ei hoffi.
Yn ystod Etholiad Cyffredinol, mae 650 o etholaethau ledled y wlad yn cynnal gornestau ar wahân. I ddod yn AS, mae ymgeisydd angen y nifer fwyaf o bleidleisiau yn ei etholaeth. Mae hyn yn golygu bod gan bob AS lefel wahanol o gefnogaeth leol. Mewn sawl ardal, ni fydd y mwyafrif o bobl wedi pleidleisio dros eu AS.
Hyd yn oed os yw miliynau o bleidleiswyr yn cefnogi’r un blaid, os ydynt wedi’u gwasgaru’n denau ar draws y DU, efallai mai dim ond mewn ambell ardal yma a thraw y byddant yn derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau, felly dim ond ychydig o ASau y byddant yn eu hennill. Gallai degau o filoedd o bleidleiswyr sy’n cefnogi plaid wahanol, ond sy’n byw yn agos at ei gilydd, gael mwy o ASau yn y pen draw.
Mae hyn yn golygu mai anaml y mae nifer yr ASau sydd gan blaid yn y senedd yn cyfateb i’w poblogrwydd ymhlith y cyhoedd.
Mae hyn yn dueddol o gynhyrchu dwy blaid fawr, gan fod pleidiau bach heb gadarnle daearyddol yn ei chael hi’n anodd ennill seddi.
Gyda chadarnle daearyddol, gall pleidiau sy’n fach ledled y DU wneud yn dda iawn o hyd. Mae hyn yn tueddu i olygu bod system etholiadol San Steffan o fudd i bleidiau cenedlaetholgar. Er enghraifft, pleidleisiodd hanner pleidleiswyr yr Alban dros y Blaid Genedlaethol (SNP) yn 2015, ond enillodd yr SNP 95 y cant o seddi’r Alban.
Mae system bleidleisio y Cyntaf i’r Felin yn San Steffan fel arfer yn caniatáu i bleidiau ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain. Ond mae’n bosib mai dim ond 35 y cant o gefnogaeth sydd gan y llywodraethau hyn (Llafur 2005), y lefel isaf erioed, neu 37 y cant (Ceidwadwyr 2015) ymhlith y pleidleiswyr.
Mae system bleidleisio San Steffan yn creu dwy fath o ardal. ‘Seddi diogel’, sydd â siawns mor isel o newid dwylo fel nad oes diben ymgyrchu, a ‘seddi hyblyg’, a allai newid dwylo.
Gan fod pleidiau eisiau sicrhau cymaint o ASau â phosib, mae pleidiau yn blaenoriaethu pleidleiswyr a allai newid eu meddwl sy’n byw mewn seddi hyblyg. Mae pleidiau yn cynllunio eu maniffestos i apelio at bleidleiswyr mewn seddi hyblyg, ac yn gwario mwyafrif eu harian yn ymgyrchu ynddynt.
Ond, efallai na fydd polisïau sydd wedi’u cynllunio i apelio at bleidleiswyr yn y seddi hyn yn helpu pleidleiswyr yng ngweddill y wlad. Gall pleidleiswyr sy’n byw mewn seddi diogel deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gan wleidyddion.
Mae gan lawer o seddi hyblyg ddau ymgeisydd lle gallai’r naill neu’r llall gael eu hethol. Ond mae mwy na hynny mewn rhai etholaethau. Po fwyaf o ymgeiswyr sydd â siawns o gael eu hethol, y lleiaf o bleidleisiau sydd eu hangen ar yr enillydd. Yn 2015 enillodd ymgeisydd etholiad De Belfast gyda dim ond 9,560 o bleidleisiau, neu 24.5% o’r cyfanswm, y lefel isaf erioed.
O dan system y Cyntaf i’r Felin ar gyfer San Steffan mae’n gyffredin i etholaethau ethol ASau nad oedd mwy na hanner y pleidleiswyr eu heisiau.
I frwydro yn erbyn hyn, mae pleidleiswyr yn ceisio dyfalu beth fydd y canlyniadau ymlaen llaw. Os bydd pleidleisiwr yn meddwl na all ei hoff ymgeisydd ennill, gall bleidleisio dros un sydd â’r siawns orau o atal ymgeisydd nad yw’n ei hoffi rhag ennill.
Gan nad yw nifer yr ASau y mae plaid yn eu cael yn cyfateb i lefel eu cefnogaeth ymhlith y cyhoedd, gall fod yn anodd i’r cyhoedd ddwyn y llywodraeth i gyfrif.
Gall mwy o bobl bleidleisio dros ymgeiswyr o un blaid o gymharu â’r etholiad diwethaf, ond fe allan nhw golli ASau. Gall y gwrthwyneb ddigwydd hefyd.
Yn 1951 ac 1974, nid y blaid oedd â’r nifer fwyaf o ASau oedd y blaid a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan y cyhoedd.
Yn Seland Newydd , enillodd y Blaid Lafur fwy o bleidleisiau na’r Blaid Genedlaethol yn 1978 a 1981, ond y Blaid Genedlaethol oedd y blaid fwyaf o hyd, gan ffurfio’r llywodraeth ar y ddau achlysur.