Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi bod yn ymladd dros bleidleisiau teg a gwell democratiaeth ers 1884.
Ar 16eg Ionawr 1884, daeth grŵp amrywiol o academyddion, gwleidyddion ac aelodau o’r proffesiwn cyfreithiol ynghyd yn 7 Stryd Clarges, San Steffan. Dan arweiniad y naturiaethwr, yr archeolegydd a’r ysgolhaig Syr John Lubbock, Henry Fawcett (gŵr Millicent Fawcett), Leonard Courtney ac Albert Grey, daethant i’r casgliad fod ein system wleidyddol yn methu â goresgyn heriau’r ugeinfed ganrif a oedd yn agosáu.
Gyda 180 o ASau yn eu rhengoedd, oedd yn cynnwys niferoedd cyfartal o’r pleidiau Rhyddfrydol a Cheidwadol, fe benderfynon nhw roi eu gwahaniaethau o’r neilltu a sefydlu cymdeithas oedd wedi ymrwymo i greu senedd a allai yn wirioneddol gynrychioli’r holl wlad.
Hyderaf y bydd Prydain Fawr, mam pob Senedd, unwaith eto’n arwain y ffordd ymhlith gwledydd mawr y byd trwy sicrhau iddi ei hun Dŷ’r Cyffredin a fydd yn wirioneddol gynrychioli’r wlad yn ei chyfanrwydd.
Yr enw cyntaf ar y grŵp hwn oedd y Gymdeithas Cynrychiolaeth Gyfrannol; buan iawn y denodd y grŵp hwn rai o enwogion oes Fictoria, gan gynnwys C.P. Scott, golygydd y Manchester Guardian (bellach The Guardian), y Parch. Charles Dodgson (sy’n fwy adnabyddus fel Lewis Carroll), a Thomas Hare (dyfeisiwr y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy).
Cafwyd llwyddiannau cynnar yn Awstralia, Malta ac Iwerddon. Ond roedd pleidiau gwleidyddol yn awyddus i ddal eu gafael yn y grym roedd system draddodiadol San Steffan yn ei roi iddyn nhw.
Ceisiodd llywodraeth Iwerddon yn 1958 a 1968 ddileu’r defnydd o’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy a dychwelyd i system bleidleisio San Steffan. Ar y ddau achlysur, arweiniodd darpar gyfarwyddwr y Gymdeithas, Enid Lakeman, ein hymgyrch lwyddiannus i amddiffyn democratiaeth yn Iwerddon.
Gyda phencadlys newydd yn 6 Chancel Street a theitl newydd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, helpodd y gymdeithas i sicrhau bod Cynulliad newydd Gogledd Iwerddon yn defnyddio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy pan gafodd ei sefydlu gyntaf yn 1973.
Tua diwedd y 70au, sefydlodd y Gymdeithas adran gwasanaethau pleidleisio ar raddfa fach, dan arweiniad Major Frank Britton. Ffurfiwyd, maes o law, Electoral Reform Services Limited (ERSL) ar wahân, sef darparydd meddalwedd a gwasanaethau mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer systemau rheoli etholiadau, ymgysylltu â’r aelodaeth, democratiaeth a llywodraethiant. Roedd cyfranddaliad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn ERSL yn ffynhonnell incwm sylweddol i’r Gymdeithas.
Wrth i’r ugeinfed ganrif ddod i ben, a sylweddoli na fyddai Comisiwn Jenkins yn arwain at ddiwygio go iawn, roedd y nod yn y pen draw o ddod â chanlyniadau teg i etholiadau San Steffan yn dal i fod ychydig allan o gyrraedd. Ond roedd llwybrau diwygio newydd yn agor.
Ledled y DU, roedd datganoli ar y gorwel, ac roedd pob cynulliad newydd i gael ei ethol gan ddefnyddio systemau cyfrannol.