Hefyd ar gael yn: English

Yr Hyn Rydym Yn Sefyll Drosto

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) yn sefydliad annibynnol sy’n arwain yr ymgyrch dros eich hawliau democrataidd.

Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yw prif lais y DU ar gyfer ad-drefnu democrataidd. Rydym yn gweithredu ar gynsail syml – gall gwleidyddiaeth fod yn well nag ydyw. Rydym yn gweithio gyda phawb – o bleidiau gwleidyddol, grwpiau cymdeithas sifil ac academyddion, i’n haelodau a’n cefnogwyr a’r cyhoedd yn ehangach – i ymgyrchu dros well ddemocratiaeth yn y DU.

Ein gweledigaeth yw democratiaeth sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, lle caiff pob llais ei glywed, lle rhoddir yr un gwerth ar bob pleidlais a bod pob dinesydd wedi’i ymrymuso i gymryd rhan. Rydym o blaid newidiadau gwleidyddol parhaus, rydym yn ceisio gwreiddio democratiaeth wrth galon y ddadl gyhoeddus, ac rydym yn meithrin mannau democrataidd sy’n annog dinasyddiaeth weithredol.

Mae ERS yn uchelgeisiol ynghylch newidiadau pellgyrhaeddol i’r ffordd y mae gwleidyddiaeth yn gweithredu,, gan weithio ar draws ein tair swyddfa yn Llundain, Caerdydd a Chaeredin i adeiladu gwell democratiaeth.

Ein Hamcanion Strategol

  1. Cael awdurdodau cyhoeddus yn y DU wedi’u hethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol ac yn benodol drwy’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) mewn etholaethau aml-aelod.
  2. Bod sefydliadau democrataidd y DU, ei gwledydd a’i rhanbarthau a rhannau cyfansoddol eraill yn gweithio mewn ffyrdd sy’n arwain at lefelau uchel o ymddiriedaeth ynddynt gan ddinasyddion.