Mae'r System Aelodau Ychwanegol yn defnyddio cyfuniad o etholaethau y Cyntaf i’r Felin a rhestrau plaid.
Mae’r System Aelodau Ychwanegol yn gyfuniad o system y Cyntaf i’r Felin a Rhestrau Plaid.
Mae pleidleiswyr yn y DU yn defnyddio’r System Aelodau Ychwanegol (AMS) i ethol seneddau Cymru a’r Alban, a Chynulliad Llundain.
Pan gaiff y system hon ei defnyddio yn yr Almaen a Seland Newydd fe’i gelwir yn Gyfrannol Aelodau Cymysg (MMP).
Mae gan bleidleiswyr ddau bapur pleidleisio. Ar y cyntaf mae rhestr o ymgeiswyr sydd am fod yn Aelod Seneddol (AS) lleol. Yn yr Alban, fe’u gelwir yn Aelodau o Senedd yr Alban (MSP) ac yng Nghymru, Aelodau’r Senedd (MS). Fel sy’n digwydd yn etholiadau San Steffan, mae’r pleidleisiwr yn nodi’r ymgeisydd o’u dewis â chroes.
Ar yr ail bapur pleidleisio mae rhestr o bleidiau sydd am ennill seddi yn y senedd. Bydd pob plaid yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr ymlaen llaw. Mae pleidlais i blaid yn bleidlais fydd yn gwneud mwy o’u rhestr ymgeiswyr yn ASau.
Yn yr Alban, mae pleidleiswyr yn ethol 73 MSP o’r papur pleidleisio cyntaf sydd ar ffurf pleidlais San Steffan, a 56 o’r ail bapur pleidleisio.
Y papurau pleidleisio ar ffurf San Steffan sy’n cael eu cyfrif yn gyntaf. Yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn yr etholaeth sy’n ennill, hyd yn oed os nad oedd y rhan fwyaf o bobl wedi pleidleisio drostynt.
Yna caiff yr ail bapurau pleidleisio eu cyfrif. Mae’r bobl sy’n cyfrif yn edrych ar faint o seddi a enillodd pob plaid yn sgil y papur pleidleisio cyntaf. Yna maen nhw’n ychwanegu ‘aelodau ychwanegol’ o restrau’r pleidiau i wneud i’r senedd gyfateb i’r modd y pleidleisiodd y wlad ar yr ail bapur pleidleisio.
Felly, os oes gan blaid 5 AS o’r etholaethau a’i chyfran deg yw 8 AS, yna mae 3 ymgeisydd o’i rhestr yn dod yn ASau. Gwneir hyn naill ai fesul rhanbarthau, fel sy’n digwydd yn yr Alban neu yng Nghymru, neu ar draws yr holl wlad, fel yn Seland Newydd.
Y nod yw darparu senedd gyfrannol ond hefyd cadw un AS lleol.
Mae’r System Aelodau Ychwanegol wedi dod yn boblogaidd gan fod rhai yn ei gweld fel cyfaddawd derbyniol.
Ond, fel cyfaddawd, mae’n cadw ‘seddi saff’ San Steffan, ac anaml iawn maen nhw’n newid dwylo. Ond mae hefyd yn ychwanegu rhestrau o ymgeiswyr a ddewiswyd gan y pleidiau gwleidyddol. Er bod hyn yn welliant aruthrol dros system San Steffan, mae gan bleidiau lawer o reolaeth o hyd dros bwy sy’n cael eu hethol.
Mae rhai hefyd yn dadlau bod y System Aelodau Ychwanegol yn creu dau ddosbarth o ASau, ac y gall hyn greu tensiwn. Er enghraifft, mae ASau etholaeth yn derbyn gwaith achos lleol, tra nad yw ASau ar restrau plaid yn gwneud hyn.
Ond gall yr ASau o’r rhestrau ddarparu ail haen o gynrychiolaeth pe bai’r pleidleisiwr yn teimlo nad yw eu AS yn eu cynrychioli. Maent hefyd yn sicrhau y gall pob plaid o bosibl ennill seddi ym mhob ardal. Mae hyn yn sicrhau na all y llywodraeth anwybyddu rhannau o’r wlad.