Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) yn gymdeithas annibynnol sy’n arwain yr ymgyrch dros eich hawliau democrataidd.
Os ydych am gysylltu âg ERS, byddem yn argymell e-bostio ers@electoral-reform.org.uk
A all ERS gynnal pleidlais ar ran fy mudiad?
Na all; nid yw’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn cynnal pleidleisiau nac etholiadau o unrhyw fath.
Fel newyddiadurwr, â phwy y dylwn gysylltu?
Gallwch ddod o hyd i Swyddfa’r Wasg yma. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr cyfryngau, anfonwch e-bost atom: mediaoffice@electoral-reform.org.uk gyda manylion cyswllt a’r math o wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi.
Sut gallaf helpu’r ymgyrch?
Gallwch chi ddod yn aelod o’r Gymdeithas a chefnogi ein gwaith neu arwyddo deiseb ar gyfer un o’n hymgyrchoedd.
Sut mae gwneud newidiadau i fy aelodaeth o ERS?
Os ydych chi am ddiweddaru eich manylion, cynyddu eich cyfraniad neu ganslo eich aelodaeth o ERS, anfonwch e-bost at ers@electoral-reform.org.uk neu ffoniwch 0203 967 1884.
Allwch chi adolygu fy system etholiadol?
Yn anffodus, ni all y Gymdeithas Diwygio Etholiadol gynnig gwerthuso systemau etholiadol newydd neu gynlluniau cyfansoddiadol.
A yw ERS yn cynnig profiad gwaith neu gyfleoedd ar gyfer interniaeth?
Nid yw’r Gymdeithas yn cynnig unrhyw brofiad gwaith na chyfleoedd ar gyfer interniaeth ar hyn o bryd. Ond os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni yn y dyfodol, gallwch fwrw golwg ar gynllun Cymrawd Lakeman.