Ein gweledigaeth yw democratiaeth gynrychiadol sy'n addas at yr 21ain ganrif. Rydym yn gwybod bod pob blwyddyn sy'n mynd heibio, gyda'n system wleidyddol o'r oes stêm yn dal i fodoli, yn gyfle wedi'i golli i bobl Cymru. Mae'r adeg hon yn bwysicach i ni nag erioed wrth i bwerau dros etholiadau ddod i Gymru yn 2018, a rhoi cyfle euraidd i ni greu newid gwirioneddol.