Y Ddeddf Uno (yr un arall)…

Author:
Electoral Reform Society,

Wedi'i bostio ar y 17th Mehefin 2015

Gall Cynghorau mwy o faint amddifadu trigolion lleol heb ddiwygio’r system pleidleisio, meddai Dr Owain ap Gareth

Heddiw, mae’r Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews  yn cyhoeddi map arfaethedig newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gyda chynlluniau i leihau’r nifer o Gynghorau Sir i 8 neu 9. Mae hyn yn dilyn y Papur Gwyn diweddar ‘Pŵer i Bobl Leol’ a oedd yn amlinellu ffyrdd o sicrhau bod cymunedau Roedd llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mi groeswaodd Electoral Reform Society (ERS) Cymru nifer o’r cynigion yn y Papur Gwyn, ond nododd un peth amlwg ar goll –  sicrhau llais teg i bob barn drwy gyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru.
Mae goblygiadau’r absenoldeb hwnnw yn fwyfwy arwyddocaol yn sgil y cynllun ar gyfer cynghorau newydd. Mae STV yn dod yn hyd yn oed fwy hanfodol gyda llai o gynghorau, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i gymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod gwaith craffu gwell, ac i sicrhau dewis go iawn i bleidleiswyr yn y cynghorau newydd, mwy o faint ddaearyddol.

Rydym i gyd yn gwybod sut mae cymunedau lleol yn aml yn teimlo ar y cyrion yn siambr y Cyngor, yn enwedig os nad ydynt yn cael eu cynrychioli gan y grwp sy’n rheoli. Bydd pobl yn nhopiau’r Cymoedd yn cwyno bod y Cymoedd isaf yn ennill ar eu traul, canol dinasoedd yn teimlo’u heithrio o gymharu â meysydd pentrefol, pobl mewn ardaloedd gwledig a allai cwyno bod trefi yn cael popeth. Ac i’r gwrthwyneb wrth gwrs.

Yr wyf fy hun yn dod o bentref yng Ngwynedd o’r enw Beddgelert, sy’n ddi-os yn cwyno am Borthmadog gerllaw, sydd yn eu tro cwyno am Gaernarfon, ac rydym i gyd yn cwyno am Gaerdydd (a phawb yng Nghymru yn cwyno am Lundain!). Mae’r Ddeddf Uno newydd hon yn debygol o fod yn eithaf dadleuol, os nad mor ddadleuol ac arwyddocaol a’r un gwreiddiol!
Ond i roi’r jocs o’r neilltu, gyda chynghorau mwy o faint o dan y system Cyntaf i’r Felin, mi ddaw cefnogaeth pleidiau yn aml o rannau penodol cul o ardal ddaearyddol fwy. Bydd hyn yn beryg go iawn o eithrio buddiannau rhai cymunedau. Bydd hyn yn arwain at fwy o bobl yn teimlo eu heithrio o’r broses ac yn meithrin mwy o ranniadau a cwynion am ble – gan feddwl lle – mae arian cyhoeddus yn mynd.

Bydd STV yn sicrhau bod pleidiau yn gallu cael cefnogaeth ar draws y cynghorau newydd, a bydd rhaid gwneud hynny er mwyn ennill grym. Bydd hyn yn caniatáu gwell cynrychiolaeth o bob ardal yn y Cynghorau newydd.

Fel y soniwyd mewn mannau eraill ar y blog yma, mae mwyafrifoedd artiffisial yn aml yn arwain at rhyw wladwriaethau bychain un-blaid. Rydym yn gwybod bod hyn yn llai tebygol o arwain at wneud penderfyniadau da i wasanaethu bobl y maent yn eu gwasanaethu ac yn gallu arwain at ddyrchafiad drwy nawdd, clienteliaeth a phroses o wneud cytundebau tu allan i lygaid y cyhoedd. Mae meithrin drafodaeth iawn trwy gynrychiolaeth deg o wahanol bleidiau a safbwyntiau yn hanfodol er mwyn i siambr y Cyngor yn weithredu fel corff i warchod buddiannau y bobl ac i graffu ar benderfyniadau Arweinwyr Cyngor a phleidiau sy’n rheoli.

Gall STV hefyd sicrhau bod cystadleuaeth etholiadol go iawn ym mhob ward yng Nghymru, a bod diwedd ar y seddi diwrthwynebiad. Yn etholiadau’r cyngor 2012 yng Nghymru, mae 99 o seddi yn ddiwrthwynebiad a dros 140,000 o bleidleiswyr yn cael eu hamddifadu o ddewis o phwy ddylai eu cynrychioli. Roedd yr Alban yn arfer cael yr un broblem. Ond ers cyflwyno STV yn 2008 ar gyfer etholiadau lleol yr Alban, nid oes unryw sedd mewn unryw ward yn Yr Alban wedi’i ennill yn diwrthwynebiad o gwbl.

Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am adnewyddu democratiaeth leol, byddai sicrhau dewis go iawn, craffu go iawn a llais lleol go iawn yn gychwyn da. I gael adnewyddiad wirioneddol o ddemocratiaeth leol yng Nghymru, mae’n rhaid i’r cynghorau newydd yn cael eu hethol gan STV.

Darllen mwy o bostiadau...