Hefyd ar gael yn: English

Dylem sicrhau fod pob llais yn cael ei glywed

Author:
Electoral Reform Society,

Wedi'i bostio ar y 18th Ebrill 2016

[This blog is available in English here]

Erbyn hyn dim ond 17 diwrnod sydd i fynd tan etholiad Cynulliad Cymru.

Mae’r Pleidiau yn datgan eu polisïau ar gyfer y Cynulliad nesaf ddydd wrth ddydd.

Felly, rydym yn galw ar y pleidiau i adfywio democratiaeth yng Nghymru.

Rydym eisoes yn gwneud gwahaniaeth:

  • Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi ymrwymo i gefnogi ein ‘Addewid Ieuenctid‘ – chwe pholisi i roi hwb i gael pobl ifanc I gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth.
  • Mae Plaid Cymru a Blaid Werdd Cymru wedi cefnogi bron pob un o’r addewidion yn ein ‘Maniffesto ar Ddemocratiaeth‘ – gan gynnwys system gyfrannol ar gyfer llywodraeth leol.

Heddiw, rydym yn falch o anfon ein gofynion diweddaraf i chi:

Gadewch y Golau i Fewn: Creu Gwleidyddiaeth Cymru fwy Agored

Ar ddydd Mawrth, lansiwyd ein mini-maniffesto ar dryloywder: “Gadewch y Golau i Fewn: Creu Gwleidyddiaeth Cymru fwy Agored“.

Rydym yn galw am ystod eang o newidiadau i daflu goleuni ar y llywodraeth yng Nghymru – o sefydlu Swyddfa gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, i lansio ymchwiliad ar angen Gymru i gael Bil Lobïo dros ei hun.
Rhannu ar Trydar a Facebook

 

Democratiaeth ac Amrwyiaeth: Creu Cymru i Bawb

Heddiw rydym yn lansio ein mini-maniffesto ar amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus: “Democratiaeth ac Amrywiaeth: Creu Cymru i Bawb“.

Rydym yn galw ar bob plaid i ymuno â ni drwy gefnogi’r polisïau yn y maniffesto – sydd hyd yn hyn wedi ennill cefnogaeth gan Stonewall Cymru, Merched yn Gwneud Gwahaniaeth a Sefydliad y Merched.

Rydym am i’r pleidiau wneud llawer mwy, fel bod menywod, pobl anabl, pobl LGBT a lleiafrifoedd ethnig yn cael y cynrychiolaeth y maent yn ei haeddu.

Rhannu ar Facebook a Trydar

Gobeithiwn wneud i’r pleidau oll wrando. Gyda’ch help chi, gallwn sicrhau eu bod yn gwneud hynny.

Darllen mwy o bostiadau...