Hefyd ar gael yn: English

Maniffesto ar gyfer Democratiaeth: Addysg ar gyfer y dyfodol

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 29th Hydref 2020

Mae addysg yn allweddol i sicrhau bod pleidleiswyr sydd newydd eu hetholfreinio yn deall y system y gallant nawr gael llais ynddi. Mae’r ffaith bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru nawr yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn cynnig cyfle i ni greu etholwyr llawer mwy gwybodus a hyderus na’r rhai sydd wedi’u rhagflaenu.

Un o’r heriau mawr sydd gennym yng Nghymru yw sut i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd. Rydym yn gwybod tri pheth; mae nifer y rhai sy’n pleidleisio yn isel mewn etholiadau Cymru-ynunig, bod darpariaeth wael o gyfryngau lleol/Cymreig a bod dealltwriaeth o ddatganoli yng Nghymru yn brin iawn ym mhob oed.

Mae’r rhain yn broblemau mawr, gydag ychydig iawn o atebion hawdd. Bydd gan Lywodraeth nesaf Cymru ychydig iawn o allu i greu cyfryngau Cymreig cryfach, er enghraifft. Felly, mae’n rhaid i ni feddwl sut gall llywodraethau wneud iawn am y cyfyngiadau hyn.

Mae addysg wleidyddol mewn ysgolion yn dda, ac yn lle gymharol hawdd i ddechrau.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc i gyd-gynhyrchu argymhellion i wella addysg wleidyddol mewn ysgolion. Mae adroddiad ERS Cymru Clywed ein Lleisiau yn manylu ar y canfyddiadau, a ddatblygwyd ar ôl sgyrsiau gyda channoedd o bobl ifanc.

Drwy gydol ein gwaith ledled Cymru, roedd pobl ifanc yn dweud wrthym yn gyson nad oeddent yn derbyn digon o addysg wleidyddol, ond eu bod yn awyddus iawn i ddysgu am y ffordd roedd Cymru yn cael ei rhedeg. Y bobl ifanc eu hunain wnaeth argymell a phleidleisio ar argymhellion y prosiect.

Prif argymhelliad y bobl ifanc oedd y dylid cyflwyno addysg wleidyddol statudol i’r cwricwlwm. O ystyried ehangu’r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed, credwn fod hyn hyd yn oed yn bwysicach.

Er bod cynlluniau ar droed ar gyfer cwricwlwm newydd yng Nghymru sy’n cynnwys amcanion i gael dysgwyr sy’n ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd’ a dilyniant o ran cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, mae angen i addysg wleidyddol statudol gael ei gweithredu cyn gynted â phosibl gyda disgwyliadau llawer mwy eglur wrth ysgolion ledled Cymru.

Dylai pleidiau hefyd ystyried sut gellid ei ymestyn i addysg ôl-16, o ystyried y bydd pobl yn pleidleisio am y tro cyntaf tua 18 oed ar gyfartaledd. Gellid cyflwyno hyn mewn lleoliadau addysg bellach a thrwy weithwyr ieuenctid.

Gofyniad Maniffesto 4: Ymrwymiad i addysg wleidyddol statudol o fewn ysgolion i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd, a sicrhau bod pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda llawer mwy o wybodaeth a hyder yn y system wleidyddol na chenedlaethau blaenorol wrth adael ysgol.

Darllen mwy o bostiadau...

Powys: Lleisiwch eich barn ar etholiadau tecach

Mae Cyngor Sir Powys newydd gymryd y cam nesaf ar eu taith tuag at etholiadau tecach trwy lansio ymgynghoriad ar newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol. Daw’r ymgynghoriad yn dilyn pasio deddf yn...

Postiwyd 12 Awst 2024

Powys- Lleisiwch eich barn ar etholiadau tecach

Ceredigion: Lleisiwch eich barn ar etholiadau tecach

Mae Cyngor Sir Ceredigion newydd gymryd y cam nesaf ar eu taith tuag at etholiadau tecach trwy lansio ymgynghoriad ar newid y system bleidleisio mewn etholiadau lleol. Daw’r ymgynghoriad yn dilyn pasio deddf yn y...

Postiwyd 17 Gorff 2024

Ceredigion- Lleisiwch eich barn ar etholiadau tecach