Hefyd ar gael yn: English

Pleidlais yng nghynhadledd Llafur Cymru yn hwb mawr i’r ymgyrchu dros ddiwygio’r Senedd

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Posted on the 16th March 2022

Gyda dim ond 60 o aelodau etholedig, mae Senedd Cymru wedi bod yn brin o adnoddau ers tro. Ond mae’r broblem honno wedi cynyddu wrth i Gymru gael mwy o gyfrifoldebau – heb y cynrychiolwyr sydd eu hangen i graffu’n briodol ar ddeddfwriaeth.

Cyhyd ag y mae Senedd wedi bodoli yng Nghymru, mae trafodaeth frwd wedi bod ynghylch ei maint. Mae’r rhai ohonom sydd wedi ymgyrchu ar y mater hwn yn gwybod pa mor anodd y bu i ddod o hyd i gonsensws. Mae’n bwnc sydd yn aml wedi bod yn un anodd i Lafur Cymru yn arbennig.

Dyna pam ei bod yn newyddion gwych bod cynhadledd Llafur Cymru 2022 wedi cefnogi’n unfrydol cynnig o blaid cynyddu maint y Senedd i rhwng 80 a 100 o aelodau. Mae’r bleidlais hon yn gam enfawr ymlaen i’r ymgyrch dros ddiwygio’r Senedd yng Nghymru. Mae cefnogaeth unfrydol gan aelodau, cynrychiolwyr ac undebwyr llafur i gynlluniau Llafur Cymru yn rhoi mandad cryf i arweinwyr y pleidiau fynd ati i gyflawni’r diwygiadau pwysig hyn.

Cafodd ehangu’r Senedd o’i 60 aelod presennol ei gynnwys fel rhan o’r Cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr aelodau yn y Senedd o 60 i rhwng 80 a 100, gyda system bleidleisio “o leiaf mor gymesur” â’r un bresennol, ochr-yn-ochr â chynigion i ymgorffori cwotâu rhywedd yn y gyfraith.

Ac mae angen dybryd am y diwygiadau hyn. Bron i 25 mlynedd ar ôl buddugoliaeth o drwch blewyn yr ymgyrch dros ddatganoli yng Nghymru, mae’r Senedd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth, gan fynd o Gynulliad bach heb unrhyw swyddogaethau llywodraethu a phwerau cyfyngedig i fod yn Senedd Gymreig gyflawn gyda phwerau deddfu a chodi trethi.

Mae’r Senedd wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn craffu ar ddeddfwriaeth a chyllidebau sylweddol yng nghanol pandemig, gydag ond ychydig dros 40 o bobl i gyflawni hynny, os ydym yn tynnu gweinidogion y llywodraeth, arweinwyr pleidiau a chynrychiolwyr Comisiwn y Senedd allan o’r cyfanswm.

Serch hynny, mae a wnelo hyn â mwy na dim ond rhagor o wleidyddion; mae’r diwygiadau hyn yn hanfodol ar gyfer darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus i’n gwlad a democratiaeth gryfach i bobl Cymru. Mae Senedd fwy, wedi’i hethol trwy system gyfrannol sy’n ymgorffori cwotâu rhywedd yn y gyfraith, yn hanfodol ar gyfer sicrhau llywodraethu effeithiol yng Nghymru. Fel y dywedodd yr Athro Laura McAllister yn y gorffennol ‘mae craffu da yn talu amdano’i hun’.

Mae cefnogaeth unfrydol Cynhadledd Llafur Cymru i’r cynlluniau a nodir yn y Cytundeb Cydweithredu yn cydnabod ei bod yn bryd cael Senedd a all graffu’n briodol ar benderfyniadau, ar gyfer system etholiadol lle mae pob pleidlais yn cyfrif ac i’n cynrychiolwyr etholedig adlewyrchu pobl Cymru’n well.

Mae’n arwydd bod Llafur Cymru yn wir wedi symud gydag arweinyddiaeth y blaid ar y mater hwn.

Yn y pen draw, mae’r bleidlais hon yn rhoi’r gymeradwyaeth sydd ei hangen ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i gychwyn trafodaethau gyda Phlaid Cymru ar ddiwygio’r Senedd, a dod yn ôl gyda chynigion penodol ar Senedd gryfach erbyn 2026, a gweithredu’r cynlluniau a gefnogwyd gan gynifer yn y gynhadledd y penwythnos hwn.

Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sefydlu Senedd sy’n gweithio i Gymru, a diolch i’r gynhadledd y penwythnos diwethaf mae’r rhagolygon yn fwy gobeithiol nag y buont erioed.

Read more posts...