Hefyd ar gael yn: English

Buddugoliaeth wrth i Geredigion ymuno â Phowys a Gwynedd gydag ymgynghoriad STV

Author:
Matthew Mathias, ERS Cymru Campaigns and Projects Officer

Wedi'i bostio ar y 25th Mawrth 2024

Roedd newyddion gwych i bleidleiswyr yn dod allan o Geredigion yr wythnos diwethaf, wrth i’w Cyngor Sir bleidleisio IE i ymgynghoriad cyhoeddus ar ddileu’r system Cyntaf i’r Felin ar gyfer eu hetholiadau a chyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) sy’n deg a chymesur.

Mae Ceredigion yn dilyn Powys a Gwynedd, a bleidleisiodd dros ymgynghoriadau ym mis Rhagfyr. Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn system sydd wedi’i phrofi ac sydd wedi’i defnyddio’n llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ers dros ddegawd.

Pam na all pleidleiswyr yng Nghymru gael eu cynrychioli’n briodol?

Yn y set ddiwethaf o etholiadau lleol yng Nghymru, gwelsom dros draean o gynghorau’n cael ‘mwyafrifoedd heb eu hennill’ lle mae plaid yn dal dros 50% o’r seddi ar lai na 50% o’r bleidlais.

Cymerwch er enghraifft Gaerdydd, lle mae Llafur yn dal 70% o’r seddi gyda dim ond 47% o’r bleidlais. Neu Ynys Môn, lle mae gan Blaid Cymru 60% o’r seddi, er iddynt ond ennill 41% o’r bleidlais. Mae hyn yn gallu mynd y ffordd arall hefyd; ar draws Cymru mae pleidiau yn colli cymaint ag y maent yn ei ennill oherwydd effeithiau camarweiniol y system Cyntaf i’r Felin. Enillodd Plaid Cymru, oedd yn sefyll ar y cyd â’r Gwyrddion yng Nghaerdydd, dim ond 2 o’r 79 o seddi ar y cyngor, er iddynt ennill 17% o’r bleidlais ar draws y ddinas. Mae’n dipyn o loteri etholiadol o ran pwy sy’n cael ei gynrychioli – a phwy sy’n cael gosod yr agenda yn lleol.

Gwawr ddemocrataidd i gynghorau Cymru

Rydw i wedi bod yn gyrru ar hyd a lled y wlad, yn gwneud cysylltiadau ac yn siarad â chynghorwyr. Rydym wedi gwneud cyflwyniadau i siambrau cynghorau ac wedi cyfarfod ag arweinwyr grwpiau. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf yw, bod yr ymdrech y mae ein cefnogwyr wedi ei wneud i gysylltu â nhw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae traean o’r holl gynghorwyr yng Nghymru wedi derbyn e-bost gan rywun yn eu ward yn gofyn iddynt gefnogi’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Mae ein cefnogwyr yng Ngheredigion wedi chwarae rhan allweddol, gan gysylltu â’u cynghorwyr yn y cyfnod cyn y bleidlais hollbwysig. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch chi ddefnyddio ein teclyn i gysylltu â’ch cynghorwyr.

Beth sydd nesaf yn yr ymgyrch? 

Wrth i ni aros am yr hyn sy’n digwydd nesaf yng Ngheredigion yn dilyn pleidlais yr wythnos diwethaf, i’r rhai sydd yng Ngwynedd a Phowys, mae’r ymgynghoriad pwysig yn dechrau ym mis Mai, a chyn gynted ag y byddwn wedi cael gafael ar yr holl wybodaeth, chi fydd y cyntaf i wybod. Bydd angen eich cefnogaeth a’ch help arnom.

Cofiwch, serch hynny, mai dim ond y cam cyntaf yw’r ymgynghoriad, i gael gwared o’r diwedd â’r system Cyntaf i’r Felin mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf; bydd angen i ddwy ran o dair o aelodau’r cynghorau hynny i gytuno ar benderfyniad cyn y 15fed Tachwedd 2024.

Trwy fynnu pleidlais o 2/3, mae’r rheolau hyn yn rhwystro newid. Ond mae gan Gymru hanes balch o frwydro am yr hawl i bleidleisio yn y lle cyntaf, ac mae wastad wedi gwthio i fod ar flaen y gad o ran newid democrataidd. Pam ddylem ni setlo am lai ar lefel leol?

Mae’n bryd i’n cynghorau ddal i fyny a rhoi democratiaeth leol i ni sy’n deilwng i wlad fodern, flaengar.

Darllen mwy o bostiadau...