Hefyd ar gael yn: English

Bydd y Bil newydd, sydd i’w groesawu, yn ei gwneud hi’n haws pleidleisio yng Nghymru

Author:
Nia Thomas, Research and Campaigns Officer

Wedi'i bostio ar y 5th Hydref 2023

Yn achos democratiaeth ac etholiadau yng Nghymru, mae Biliau’n dod fel bysiau! Dim ond pythefnos ar ôl cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gosododd Llywodraeth Cymru ei Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gerbron y Senedd ddydd Llun. Bydd y cynigion newydd hyn yn gwneud pleidleisio’n haws ac yn dileu rhwystrau y gwyddom fod llawer o bobl yn eu hwynebu, gan ddod â democratiaeth Cymru i’r 21ain ganrif.

Moderneiddio cofrestru

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn amcangyfrif bod hyd at 400,000 o bobl heb gofrestru’n gywir yn eu cyfeiriad presennol yng Nghymru, a phan holwyd hwy, dywedodd y staff sydd yng ngofal pleidleisio mai pobl yn cyrraedd i bleidleisio heb fod wedi cofrestru  yw’r broblem fwyaf y maent yn dod ar ei thraws mewn gorsafoedd pleidleisio o bell ffordd. Mae’r bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer treialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, i ddileu’r rhwystr diangen hwn rhwng darpar bleidleiswyr a’r blwch pleidleisio. Byddai’r symudiad hwn yn alinio Cymru â gwledydd democrataidd blaenllaw ledled y byd sy’n cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fel mater o drefn.

Gwella gwybodaeth

Rhwystr arall yw mynediad at wybodaeth. Rydym yn croesawu darpariaethau yn y Bil i sefydlu llwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr – rhywbeth y mae Grŵp Democratiaeth Cymru wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd. Bydd y platfform yn cynnwys datganiadau gan ymgeiswyr, gwybodaeth am sut i bleidleisio ac esboniadau ynghylch pwerau, rolau a chyfrifoldebau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru. Byddai siop-un-stop lle bydd gwybodaeth am ddemocratiaeth yng Nghymru ar gael yn ei gwneud yn haws i bleidleiswyr gael gafael ar adnoddau sydd ar hyn o bryd mewn nifer o wahanol leoedd.

Senedd a llywodraeth leol sy’n adlewyrchu amrywioldeb Cymru

Roeddem hefyd yn falch o weld bod y Bil yn ymrwymo i gynyddu’r amrywioldeb ymhlith ymgeiswyr sy’n sefyll ar gyfer etholiadau Cymru, er mwyn sicrhau bod ein cyrff etholedig yn adlewyrchu amrywioldeb Cymru. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r rhwystrau a wynebir gan ymgeiswyr ag anableddau drwy barhad y rhaglen ar gyfer cymorth ariannol o’r gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig. Mae yna hefyd ymrwymiad i fynd i’r afael â’r rhwystrau a wynebir gan bobl â nodweddion gwarchodedig eraill drwy naill ai wasanaethau neu gymorth ariannol, gan sicrhau ymagwedd hyblyg sy’n canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau penodol yn hytrach na chynnig yr un datrysiad eang i bawb.

Mae etholiadau yn newid yng Nghymru

Bydd yr etholiadau yn 2026 ar gyfer y Senedd, ynghyd ag etholiadau lleol yn 2027, yn edrych yn wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol. Mae’r moderneiddio hwn i’w groesawu’n fawr, ond dylai’r modd y mae’r llywodraeth yn cyfathrebu’r newidiadau i bleidleiswyr fod yn ganolog i’r cynlluniau hyn. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu â ni i gyd o ran y ffordd newydd hon o weithio dros ddemocratiaeth Cymru.

Wrth i Gymru fwrw ymlaen â lleihau’r rhwystrau i bleidleisio, dylai San Steffan ddilyn yr esiampl honno a mabwysiadu’r syniadau hyn ledled y DU.

Darllen mwy o bostiadau...