Hefyd ar gael yn: English

Etholiadau Lleol Cymru 2022 a’r Achos dros STV

Author:
Jessica Blair, ERS Cymru Director

Wedi'i bostio ar y 15th Tachwedd 2022

Ar 5ed Mai 2022 aeth dinasyddion i’r gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru i ethol cynghorwyr ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol. Nid dyma’r unig etholiadau a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw; Cynhaliodd Gogledd Iwerddon etholiad i’w Cynulliad ac roedd yna etholiadau lleol eraill mewn rhannau o Loegr ac ar draws holl awdurdodau lleol yr Alban.

Defnyddiwyd cymysgedd o systemau etholiadol yn yr etholiadau hyn, gydag etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yr Alban yn defnyddio’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), tra defnyddiodd Cymru a Lloegr y Cyntaf i’r Felin (FPTP) yn eu hetholiadau lleol.

Ac eto fe allai’r darlun yng Nghymru newid nawr. Yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 mae darpariaeth newydd wedi dod i rym sy’n caniatáu i gynghorau bleidleisio dros symud i STV ar sail unigol. I wneud hyn mae angen i gyngor gael dwy ran o dair o’i aelodau i gytuno ar benderfyniad cyn 15fed Tachwedd, dair blynedd cyn yr etholiad nesaf (yn 2027). 

Mae ein hadroddiad newydd Amser i Newid: Etholiadau Lleol Cymru 2022 a’r achos dros STV yn cael ei gyhoeddi heddiw, ddwy flynedd i’r diwrnod cyn bod rhaid i gynghorau fod wedi cynnal pleidlais os ydyn nhw’n bwriadu symud i STV, ac mae’n dadlau’r achos i gynghorwyr bleidleisio dros symud i STV. 

 

Dangosodd etholiadau lleol Cymru 2022 unwaith eto pam fod angen newid. Roedd yr etholiadau hyn yn frith o ganlyniadau anghymesur, seddi diwrthwynebiad, a gwelwyd nifer is yn pleidleisio nag yn 2017.

Yn dilyn etholiadau eleni, ar hyn o bryd yng Nghymru mae yna wyth cyngor gyda ‘mwyafrifoedd heb eu hennill’ lle mae plaid yn dal dros 50% o’r seddi ar lai na 50% o’r bleidlais, mwy na thraean o’r holl gynghorau. 

Cymerwch er enghraifft Gaerdydd, lle mae Llafur yn dal 70% o’r seddi gyda dim ond 47% o’r bleidlais. Neu Ynys Môn, lle mae gan Blaid Cymru 60% o’r seddi, er iddynt ond ennill 41% o’r bleidlais. Mae hyn yn gallu mynd y ffordd arall hefyd; ar draws Cymru mae pleidiau yn colli cymaint ag y maent yn ei ennill oherwydd effeithiau camarweiniol system y Cyntaf i’r Felin. Y Ceidwadwyr a ddioddefodd yn Ynys Môn, lle cawsant 19% o’r bleidlais ond heb ennill unrhyw sedd. Enillodd Plaid Cymru, oedd yn sefyll fel Tir Cyffredin gyda’r Gwyrddion yng Nghaerdydd, dim ond 2 o’r 79 o seddi ar y cyngor, er iddynt ennill 17% o’r bleidlais ar draws y ddinas. Mae’n fater o hap a damwain etholiadol.

Mae etholiadau lleol yr Alban, sy’n defnyddio STV, yn rhoi cipolwg i ni o’r hyn y gallai system wahanol ei gynnig; canlyniadau tecach, mwy o ddewis i bleidleiswyr a mwy o bobl yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfrif.

Yn ôl yn 2003 roedd gan Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) ym Midlothian 24% o’r bleidlais ond heb ennill unrhyw seddi. Dim ond 1.3% o seddi enillodd yr Annibynwyr yn Glasgow, er iddynt sicrhau bron i 17% o’r bleidlais. Newidiodd hynny i gyd yn aruthrol yn 2007 gyda chyflwyniad STV. Ym Midlothian enillodd yr SNP 33.3% o’r seddi gyda 33.4% o’r bleidlais. Yn Stirling enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 13.6% o seddi gydag 11.1% o’r bleidlais – llawer mwy cynrychioliadol o’u cyfran o’r bleidlais nag a gyflawnwyd o dan system y Cyntaf i’r Felin.

Yng Nghymru mae gennym gyfle nawr i ddilyn esiampl yr Alban. Gobeithiwn y bydd cynghorwyr yng Nghymru yn ystyried y dystiolaeth rymus hon, yn mentro ac yn pleidleisio i gryfhau democratiaeth leol mewn pryd ar gyfer newid yn 2027. 

Ychwanegwch eich enw i alw ar eich cyngor i gael gwared ar y Cyntaf i’r Felin.

Ychwanegwch eich enw

Darllen mwy o bostiadau...