Ers i etholiadau gael eu datganoli i Gymru yn Neddf Cymru 2017 bu llawer o newidiadau i ddemocratiaeth Cymru. Rydym wedi gweld yr hawl i bleidleisio’n cael ei hymestyn i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac i ddinasyddion tramor ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru. Mae cynlluniau ar y gweill i ddiwygio’r Senedd, ac mae gan gynghorau lleol bellach y dewis o ba system etholiadol y maent yn ei defnyddio i ganiatáu iddynt symud oddi wrth y Cyntaf i’r Felin, sy’n annheg, i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy sy’n lawer mwy cymesur.
Mae’n ymddangos bod y cynigion diweddaraf i ddiwygio ein democratiaeth sy’n dod gan Lywodraeth Cymru yn barod i wneud newidiadau pellach i’r sylfeini ar gyfer sut mae etholiadau’n gweithio yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol a Gweinyddiaeth, sydd newydd gael ei gwblhau, yn amlinellu nifer o awgrymiadau ar sut y gellir cael gwared ar rwystrau i ddemocratiaeth a gwneud pleidleisio yn fwy hygyrch. Mae crynodeb o’n hymateb bellach ar gael.
Amlygodd etholiadau diweddar y Senedd yn 2021 ac etholiadau lleol 2022 pam fod angen newid. Roedd y nifer a aeth ati i bleidleisio’n siomedig, gyda’r gobaith y gallai’r Senedd groesi’r trothwy o 50% o’r diwedd yn cael ei chwalu. Gyda’r hawl i bleidleisio’n cael ei hymestyn am y tro cyntaf yn 2021, roedd anawsterau’n ymwneud â’r broses gofrestru ac etholiadol hefyd yn glir. Dim ond tua hanner y rhai 16 a 17 oed a gofrestrodd i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw.
Mae llawer o’r cynigion yn yr ymgynghoriad ar y papur gwyn yn ceisio mynd i’r afael ag anawsterau’n ymwneud â chyfraddau cofrestru isel a chael gwared ar rwystrau i fwrw pleidlais. Mae hyn yn cynnwys cynigion blaengar i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, i greu un gofrestr ddigidol ac i ymestyn cynlluniau peilot ar bleidleisio mewn mannau gwahanol ac ar ddiwrnodau gwahanol.
Mae ERS Cymru wedi croesawu’r cynigion hyn ar ôl galw ers tro am gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Bydd y camau i ddatblygu system o gofrestru awtomatig, lle gall swyddogion cofrestru hysbysu darpar bleidleiswyr eu bod am gael eu hychwanegu at y gofrestr, yn gwneud llawer iawn i symleiddio’r broses gofrestru. Yn ôl amcangyfrifon Cywirdeb a Chyflawnrwydd diweddaraf y Comisiwn Etholiadol, doedd y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru ond 81% yn gyflawn ac 89% yn gywir ym mis Rhagfyr 2018. Fel y gwelsom yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ni chofrestrodd llawer o bobl ifanc i bleidleisio. Nododd Adroddiad Gwneud i Bleidleisiau yn 16 Weithio yng Nghymru fod cofrestru pleidleiswyr yn broblem benodol i bobl ifanc, gan ddweud “roedd nifer o’r rhai nad oeddent yn ymwybodol o’r etholiad i ddechrau a’r angen iddynt gofrestru i bleidleisio yn esbonio ei bod yn rhy hwyr i gofrestru i bleidleisio erbyn iddynt glywed am yr etholiadau” .
Mae ymestyn cynlluniau peilot ar bleidleisio hyblyg hefyd i’w groesawu. Yn yr etholiadau lleol fis Mai diwethaf gwelsom bedwar awdurdod lleol yn treialu pleidleisio cynnar a phleidleisio mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys mewn lleoliadau addysg fel ysgolion a cholegau. Profodd cynlluniau peilot Mai 2022 y gall hyn weithio, o ran y dechnoleg sydd ei hangen i wneud iddo ddigwydd, ac y bydd pobl yn pleidleisio yn y lleoliadau hyn ar ddiwrnodau gwahanol. Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn ymestyn opsiynau pleidleisio mewn ysgolion, o ystyried yr estyniad i’r hawl i bleidleisio a llwyddiant yr opsiwn i bleidleisio’n gynnar mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cynlluniau peilot yn gynharach eleni, lle’r oedd y ganran a bleidleisiodd ymlaen llaw yn sylweddol uwch, sef 18% o gymharu ag 1.5% ar gyfer y sir yn ei chyfanrwydd, er bod maint y sampl yn fach. Yr her gyda newid y ffordd y gall pobl bleidleisio bob amser fydd sut i gyfleu hynny orau i’r cyhoedd, a byddem yn gobeithio y gellid gwella’r cyfathrebu ynghylch cynlluniau peilot.
Mae meysydd eraill i’w croesawu yn y papur gwyn yn ymwneud â gwella gwybodaeth am ddemocratiaeth. Mae ERS Cymru wedi pwysleisio ers tro bod angen i well addysg ddemocrataidd gael ei gwreiddio yn y cwricwlwm newydd i Gymru, ochr-yn-ochr â hyfforddiant ehangach ar gyfer athrawon i wella hyder athrawon a rhoi diwedd ar y loteri côd-post presennol o ran addysg dinasyddiaeth yng Nghymru.
Mae gan gynigion ynghylch llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr lawer o botensial. Ar hyn o bryd mae’r cyfrifoldeb ar y pleidleisiwr i fynd ati i ddod o hyd i wybodaeth cyn etholiad, ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn llawer o wahanol fannau ar hyn o bryd. Mae ERS Cymru a Grŵp Democratiaeth Cymru wedi galw am ‘siop un stop’ i bleidleiswyr gael mynediad hawdd at wybodaeth am etholiadau sydd i ddod. Gallai llwyfan gwybodaeth ar-lein i bleidleiswyr ddarparu’r ‘siop un stop’ hon, ar wefan hygyrch y gellir ei chwilio’n hawdd, er enghraifft ar wefan benodol ‘pleidleisio.cymru’. Gallai’r wefan hon gynnwys gwybodaeth am gofrestru a’r etholiad ei hun, cefndir yr hyn y mae’r etholiad yn ei gylch (e.e. sut mae’r Senedd yn gweithio), a dolenni i adnoddau addysgol.
Yn y chwe blynedd ers datganoli etholiadau i Gymru mae llawer o newidiadau wedi digwydd, ond mae’r papur gwyn hwn yn addo trawsnewid pethau ymhellach. Y gobaith yw y bydd rhai o’r cynigion hyn ar waith ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026. Mae’n iawn i Gymru archwilio sut y gellir cynnal etholiadau’n wahanol a gwneud iddynt weithio i bleidleiswyr. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ar gyfer gwell democratiaeth i’n gwlad.