Hefyd ar gael yn: English

Hymateb i Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol a Gweinyddu Llywodraeth Cymru

Wedi'i bostio ar y 31st Ionawr 2023

 Ym mis Ionawr cyflwynodd ERS Cymru ein hymateb i Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol a Gweinyddu Llywodraeth Cymru. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gofyn cwestiynau ynghylch amrywiaeth o faterion y mae ERS wedi bod yn ymgyrchu drostynt ers amser maith; gwell proses gofrestru, dileu rhwystrau i etholiadau a gwella gwybodaeth ac addysg am ddinasyddiaeth.

Mae’r papur briffio hwn yn grynodeb o’n hymateb.

Cronfa ddata Cymru-gyfan ar gyfer data cofrestru etholiadol

Mae’r bwriad i sefydlu un gofrestr electronig yn rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd ers tro, a bydd yn galluogi moderneiddio’r broses gofrestru yn ehangach. O’r herwydd, mae cyflwyno cronfa ddata Cymru-gyfan ar gyfer data cofrestru etholiadol yn rhywbeth y byddai ERS Cymru yn ei groesawu’n fawr, a gallai gael sawl effaith gadarnhaol.

Yn gyntaf, byddai cronfa ddata Cymru-gyfan yn helpu â  hwyluso astudiaethau peilot yn y dyfodol ynghylch gwella mynediad at bleidleisio. Profodd cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn 2021 y gall cofrestr ddigidol weithio, ac mae tystiolaeth bod Swyddogion Canlyniadau yn cael y system hon yn haws na’r un draddodiadol ar bapur, yn enwedig o ran pleidleiswyr yn gallu bwrw eu pleidlais ar ddiwrnodau gwahanol a/neu mewn un o amryw leoliadau.[1]

Yn ail, gallai cronfa ddata Cymru-gyfan hwyluso’r broses lle gallai unigolion wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio a ble i bleidleisio. Byddai hyn yn datrys rhai o’r anawsterau yn y system gofrestru bresennol, yn enwedig o ran ceisiadau dyblyg a brosesir gan weinyddwyr etholiadol, sy’n achosi cryn faich o ran amser a chost ar adeg etholiad. O’i chyfuno â system gofrestru awtomatig, fel y trafodir yn ddiweddarach yn y Papur Gwyn, mae’n debygol y byddai’n lleihau nifer yr achosion o bleidleiswyr heb sydd gofrestru’n cyrraedd gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Mae gwasanaethau chwilio ar-lein eisoes yn bodoli mewn sawl gwlad gan gynnwys Awstralia ac Iwerddon.

O ran ymarferoldeb gwneud i hyn ddigwydd, wrth reswm, dylai diogelwch cadw cymaint o ddata’n electronig fod yn fater o flaenoriaeth.

Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig

Bydd y camau i ddatblygu system o gofrestru awtomatig, lle gall swyddogion cofrestru hysbysu darpar bleidleiswyr eu bod am gael eu hychwanegu at y gofrestr, yn gwneud llawer iawn i symleiddio’r broses gofrestru. Yn ôl amcangyfrifon Cywirdeb a Chyflawnrwydd diweddaraf y Comisiwn Etholiadol, doedd y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru ond 81% yn gyflawn ac 89% yn gywir ym mis Rhagfyr 2018.[2]  Mae’r posibilrwydd i’r gofrestr bresennol gael ei chyfuno â gwybodaeth o ffynonellau eraill y llywodraeth, megis y DVLA neu’r swyddfa basbort neu wybodaeth treth gyngor, â’r potensial i wella’r ffigurau hyn yn aruthrol. Byddai hefyd yn sicrhau bod y grwpiau hynny sy’n llai tebygol o fod wedi cofrestru (pobl ifanc, y sector rhentu preifat, a rhai grwpiau Croenddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru) yn cael eu targedu’n uniongyrchol gan arwain at gofrestr lawer mwy cyflawn. Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi asesu’n ddiweddar sut y gellid defnyddio gwybodaeth o wahanol ffynonellau i ddiweddaru’r cofrestrau.[3]

Gallai cyfleoedd i hysbysu pobl eu bod wedi’u cofrestru’n awtomatig gynnwys; llythyr yn syth ar ôl iddynt gael eu cofrestru i roi gwybod iddynt eu bod bellach ar y gofrestr a pha etholiadau y maent yn gymwys i bleidleisio ynddynt yn sgil hynny. Yn ogystal, cyn unrhyw etholiadau datganoledig, gellid anfon llythyr yn atgoffa pob unigolyn eu bod wedi cofrestru, gan atgoffa pobl o ddyddiad yr etholiad ac yn cyfeirio pobl at ragor o wybodaeth cyn iddynt fynd ati i fwrw eu pleidlais.

Mae angen ystyried hefyd effaith y gwahaniaeth rhwng etholiadau datganoledig ac etholiadau’r DU. Er enghraifft, os yw pobl yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar gyfer etholiadau lleol a Senedd Cymru, rhaid rhoi gwybod i bobl bod angen iddynt gofrestru’n rhagweithiol o hyd neu sicrhau bod eu manylion yn gywir ar gyfer etholiadau Cyffredinol y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Cofrestrau Digidol

Rydym yn gryf o blaid cyflwyno cofrestrau digidol ar gyfer etholiadau datganoledig. Dangosodd cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn 2022 y gall y rhain weithio’n ymarferol a’u bod yn hanfodol i gyflawni a) addasiadau pellach i wneud pleidleisio’n fwy hyblyg, a b) un gronfa ddata ar gyfer Cymru-gyfan.

Nid yw’n ymarferol parhau â chofrestrau copi-caled o ystyried y newidiadau arfaethedig i foderneiddio etholiadau yng Nghymru sydd yn y Papur Gwyn hwn. Wedi dweud hynny, dylai diogelwch barhau i fod o flaenoriaeth, a dylid monitro hyn yn ofalus.

Dileu’r gofrestr agored

Rydym yn cytuno’n gryf â dileu’r gofrestr agored ar gyfer etholiadau datganoledig. Byddai hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod cofrestru dienw yn bosibl o hyd o dan system gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (AVR). Byddai’r cyfuniad o system AVR a chofrestr etholiadol agored yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twyll a thanseilio preifatrwydd oherwydd y cynnydd yn y posibilrwydd o gysylltiadau data’n cael eu gwneud rhwng Gwybodaeth Adnabyddadwy Bersonol a gedwir ar y systemau. Yn ogystal â hynny, mae gwerthu’r cofrestrau etholiadol agored yn arfer cyffredin ar hyn o bryd, a dylid cyfyngu ar hynny oherwydd y posibilrwydd o gamddefnydd a thorri rheolau preifatrwydd. Byddai dileu’r gofrestr agored a symud i AVR yn lleihau’r peryglon hyn. Ni ddylai data pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod ar werth yn fasnachol ac ni ddylai fod yn gyfle i wneud elw; mae’r data a ddarperir yn cael ei roi’n ddidwyll fel y gall aelod o’r boblogaeth gymryd rhan weithredol yn y broses ddemocrataidd o bleidleisio.

Argraffnodau Digidol

Rydym o blaid argraffnodau ar gyfer deunyddiau ymgyrchu digidol. Mae’r ERS wedi dadlau ers tro y dylid ymestyn y gyfundrefn argraffnodau i ddeunydd etholiadol digidol, yn unol â’r gofynion ar gyfer deunydd ymgyrchu mewn print, ac rydym yn croesawu’r darpariaethau ar gyfer hyn yn Neddf Etholiadau 2022.

 

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn galw am argraffnodau i fod yn berthnasol i ddeunydd digidol ers 2003, ac mae llu o bwyllgorau seneddol, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil ac arbenigwyr wedi ymuno â nhw yn hyn o beth. Mae galwadau o’r fath wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil y defnydd cynyddol o hysbysebu digidol mewn ymgyrchoedd gwleidyddol gan ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr. Yn etholiad cyffredinol 2017, gwariodd y pleidiau tua £3.16 miliwn ar hysbysebion Facebook, mwy na dwbl yr £1.3 miliwn a wariwyd ganddynt ar Facebook yn etholiad cyffredinol 2015. Mae amcangyfrifon yn dangos bod gwariant pleidiau gwleidyddol ar lwyfannau o’r fath yn debygol o fod wedi cynyddu fwy na 50 y cant yn 2019 o gymharu â 2017, gyda thua £6 miliwn yn cael ei wario ar Facebook ac ychydig o dan £3 miliwn ar Google gan y tair prif blaid ledled y DU.[4]

 

Bydd argraffnodau digidol, sy’n dangos pwy sydd wedi talu am gynnwys a’i hyrwyddo, yn gwella tryloywder ynghylch pwy sydd y tu ôl i ddeunydd etholiadol ar gyfer pleidleiswyr, rheoleiddwyr, ymchwilwyr, a newyddiadurwyr. Bydd pleidleiswyr yn gwybod pwy sy’n ceisio dylanwadu ar eu pleidlais, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniad mwy gwybodus yn y blwch pleidleisio ac i ddwyn y rhai sy’n ceisio eu perswadio i gyfrif ar ôl yr etholiad. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn gallu dibynnu ar argraffnodau digidol fel rhan o’u gwaith monitro a gorfodi rheoleiddiol.

 

Llywodraeth yr Alban oedd y sefydliad cyntaf i gyflwyno gofyniad argraffnod; fodd bynnag codwyd pryderon ynghylch bwlch posibl yn y rheol lle nad oes angen i’r argraffnod fod yn rhan o ddeunydd yr etholiad ei hun. Mae’n werth nodi bod Llywodraeth yr Alban yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddiddymu eu cynllun argraffnodau (naill ai’n rhannol neu’r holl gynllun) o ystyried bod darpariaethau Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU ar argraffnodau yn berthnasol i bob etholiad a refferendwm yn yr Alban.[5]

 

Er bod deddfwriaeth y DU yn fwy cadarn, mae bwlch posibl o hyd sy’n caniatáu i’r argraffnod beidio ag ymddangos ar y deunydd ei hun. Dywed y canllawiau ar argraffnodau “Rhaid cynnwys yr argraffnod fel rhan o’r deunydd, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny. Os nad yw’n rhesymol ymarferol, yna mae’n rhaid i’r argraffnod gael ei gynnwys yn rhywle sy’n uniongyrchol hygyrch o’r deunydd.”[6]

 

Dylid monitro cynllun y DU i sicrhau ei fod yn gweithio fel y bwriadwyd a bod argraffnodau’n ymddangos ar y deunydd ei hun ac nad oes unrhyw un yn manteisio’n annheg ar y bwlch hwn.

Ailddatgan yr hawl i bleidleisio yng Nghymru mewn un Ddeddf Gymreig ddwyieithog

Byddem yn cytuno ag ailddatgan yr hawl i bleidleisio ar gyfer etholiadau datganoledig mewn un Ddeddf Gymreig ddwyieithog pe bai hyn yn rhoi geiriad cliriach ynghylch pwy sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig. Rydym wedi nodi bod rhywfaint o ddryswch ynghylch pwy sy’n cael eu cynnwys o dan yr estyniad i’r hawl i bleidleisio yn y cyfnod cyn etholiadau Senedd Cymru yn 2021; roedd hyn yn ymwneud yn benodol â’r diffiniad o ddinasyddion tramor cymwys, sy’n parhau i fod yn amwys.

Rydym hefyd yn bryderus ynghylch nifer isel y bobl ifanc 16 ac 17 oed oedd wedi cofrestru, ynghyd â’r ganran a bleidleisiodd yn sgil hynny yn etholiadau datganoledig 2020 a 2021. Daeth ymchwil gan y Prosiect Gostwng yr Oedran Pleidleisio i’r casgliad bod ‘data cynrychioliadol yn brin o ran faint o bobl ifanc a aeth ati i bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad ac i ba raddau y bu i bobl ifanc o wahanol grwpiau cymdeithasol a rhannau o Gymru ymwneud â’r etholiad.’[7] Mae hyn ynghyd â’r ganran isel o bobl ifanc 16 ac 17 oed oedd wedi cofrestru’n creu darlun pryderus o ran ymgysylltiad gwleidyddol.[8] Mae data ar gofrestru a nifer y bobl sy’n pleidleisio ar gyfer dinasyddion tramor cymwys yn gwbl absennol, ond mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y ffigurau hyn hefyd yn debygol o fod yn isel. Rydym yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella darpariaeth y data hwn yn ein hymateb i gwestiynau ynghylch Bwrdd Rheoli Etholiadol arfaethedig ar gyfer Cymru.

Dylid defnyddio ailddatgan yr hawl i bleidleisio fel cyfle i gyfleu’n well ymestyn yr hawl i bleidleisio yng Nghymru, a dylai hyn fynd ochr-yn-ochr ag ymgyrch gyfathrebu ac addysg wleidyddol effeithiol.

Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer Cymru

Rydym yn cytuno y gallai Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol ar gyfer Cymru ddarparu nifer o swyddogaethau defnyddiol, yn enwedig o ran ymagwedd gyson ar gyfer Cymru-gyfan o ymdrin â gwybodaeth a data penodol sy’n gysylltiedig ag etholiadau yng Nghymru.

 

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi galw am sefydlu bwrdd statudol (yn hytrach na gwirfoddol) o’r blaen, yn fwyaf diweddar yn 2020.[9] Byddai hyn yn rhoi cydgysylltu etholiadau yng Nghymru ar sail debyg i’r Alban, lle sefydlwyd Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban drwy Ddeddf Gweinyddu Etholiadol Lleol (yr Alban) 2011. Mae cyhoeddi data ynghylch canlyniadau etholiadau yn yr Alban ar hyn o bryd yn llawer mwy cyson nag yng Nghymru, er enghraifft ar ôl etholiadau lleol 2022 cyhoeddodd pob un o awdurdodau lleol yr Alban eu data ar ganlyniadau etholiadau gan ddefnyddio’r un profforma, tra yng Nghymru roedd y data a gyhoeddwyd mewn fformat gwahanol ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol. Mae cyhoeddi data yn un maes lle credwn y gallai Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer Cymru fabwysiadu ymagwedd Cymru-gyfan.

 

Ar hyn o bryd mae gwybodaeth am etholiadau yng Nghymru’n cael ei lledaenu ar draws nifer o sefydliadau gan ei gwneud yn anodd i bobl ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ar gael. Gallai BRhE ar gyfer Cymru ddarparu lleoliad er mwyn casglu’r holl wybodaeth hon ynghyd mewn un man.

 

Yn hollbwysig, byddai angen i unrhyw Fwrdd Rheoli Etholiadol newydd ar gyfer Cymru gadw ei annibyniaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru.  Mae’n werth nodi bod Llywodraeth yr Alban ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ehangu swyddogaethau Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban, i gynnwys sefydlu’r BRhE fel corff yn ei rinwedd ei hun.[10] Maen nhw hefyd wedi gofyn a ddylid cynyddu’r hyn mae’n gallu ei gyflawni. Byddai’n syniad da i Lywodraeth Cymru ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw a’r cyfeiriad polisi a gymerir gan Lywodraeth yr Alban yn hyn o beth.

Cynlluniau peilot yn y dyfodol ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw neu hyblyg

Hoffem weld y gwaith a ddechreuwyd gyda chynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn 2022 yn parhau ac yn ehangu, gyda mwy o ddiwrnodau i bleidleisio a mwy o leoliadau i bleidleisio ynddynt. Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn ymestyn opsiynau pleidleisio mewn ysgolion, o ystyried yr estyniad i’r hawl i bleidleisio a llwyddiant yr opsiwn i bleidleisio’n gynnar mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cynlluniau peilot yn gynharach eleni, lle’r oedd y ganran a bleidleisiodd ymlaen llaw yn sylweddol uwch, sef 18% o gymharu ag 1.5% ar gyfer y sir yn ei chyfanrwydd, er bod maint y sampl yn fach.[11]

Hoffem weld mwy o orsafoedd pleidleisio yn symud i ffwrdd o swyddfeydd y cyngor ac i leoedd fel archfarchnadoedd neu feddygfeydd teulu, sef y mannau hynny mae pobl yn mynd iddyn nhw’n naturiol. Mewn ardaloedd gwledig gellid ystyried bws fel gorsaf bleidleisio deithiol gan ymweld â gwahanol gymunedau drwy gydol yr wythnos cyn etholiad. Byddem yn awgrymu y gellid galw hyn yn ‘Voting Van / Bws Pleidleisio’.

Rydym wedi cefnogi ers tro’r syniad o gynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio ar wahanol ddiwrnodau ac mewn lleoliadau gwahanol. Profodd cynlluniau peilot ym Mai 2022 y gall hyn weithio, o ran y dechnoleg sydd ei hangen i wneud i hyn ddigwydd, ac y bydd pobl yn mynd ati i bleidleisio yn y lleoliadau hyn ar ddiwrnodau gwahanol.

Mae’r niferoedd cymharol isel a bleidleisiodd yn y gorsafoedd pleidleisio ymlaen llaw hyn fel rhan o’r cynlluniau peilot yn dangos nad yw hyn yn ddatrysiad i bob problem o ran adfywio ymgysylltiad democrataidd, ond rydym yn dal i gredu y gallant fod yn elfen bwysig o wneud cyfranogiad democrataidd yn fwy hyblyg.

Dangosodd y cynlluniau peilot nifer uwch yn pleidleisio mewn ardaloedd lle’r oedd gorsafoedd pleidleisio traddodiadol ar agor cyn y diwrnod pleidleisio o gymharu â phan oedd un lleoliad neu swyddfa’r cyngor yn unig ar agor ymlaen llaw. Ym Mhen-y-bont , pleidleisiodd 1.5% o bleidleiswyr cymwys ymlaen llaw, o gymharu â 0.2% i 0.3% yn y tair ardal arall lle’r oedd y cynllun peilot ar waith.[12] Dangosodd ysgol uwchradd ym Mhen-y-bont ganlyniadau addawol hefyd, gyda 18% o fyfyrwyr cymwys yn pleidleisio.[13] Er mai sampl fach ydyw, mae hyn yn awgrymu bod mwy o gynlluniau peilot mewn ysgolion yn syniad gwerth chweil.

Mae hyn oll yn dangos, er bod y cynlluniau peilot blaenorol ar raddfa fach, pe bai pleidleisio ymlaen llaw neu amrywiaeth ehangach o leoliadau yn parhau i fod ar gael, dylai hyn fod ar sail fwy gyda gorsafoedd pleidleisio traddodiadol ar agor, mwy o dreialon mewn ysgolion a lledaeniad daearyddol ehangach ar gyfer ardaloedd peilot. Gallai lleoliadau pleidleisio eraill hefyd gael eu creu am y tro cyntaf, gan roi cynnig ar ychwanegu gorsafoedd pleidleisio yn y mannau hynny ble mae pobl yn mynd yn naturiol. Gallai hyn gynnwys archfarchnadoedd neu feddygfeydd teulu.

Yr her gyda newid y ffordd y gall pobl bleidleisio bob amser fydd y ffordd orau i gyfleu hynny i’r cyhoedd. Yng nghynlluniau peilot 2022 o ystyried y nifer fach o ardaloedd a gymerodd ran, a’r amserlen fer ar gyfer cynllunio, roedd yn anodd rhoi gwybod i bobl fod ganddyn nhw’r cyfle i bleidleisio mewn gwahanol leoedd ac ar ddiwrnodau gwahanol. Yn wir, dim ond 22-30% o bobl a ddywedodd eu bod yn ymwybodol y gallent bleidleisio cyn diwrnod yr etholiad ar draws ardaloedd y cynllun peilot, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.[14] Pe bai hyn yn cael ei gyflwyno mewn cynlluniau peilot pellach, mewn ardaloedd ehangach neu ar raddfa genedlaethol, byddai angen ymgyrch gyfathrebu lawer mwy, a allai fod yn haws mewn egwyddor o ystyried y gallai gael ei thargedu’n ehangach. Os yw Llywodraeth Cymru’n ystyried cyflwyno’r mesurau hyn ymhellach, dylent ddechrau ymgyrch gyfathrebu yn llawer cynharach yn y cylch etholiadol. Dylai’r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr hefyd gynnwys gwybodaeth am hyn, gan gysylltu â llwyfan ble ydw i’n pleidleisio y Clwb Democratiaeth o bosibl..

Llwyfan gwybodaeth pleidleiswyr ar-lein

Mae’r diffyg democrataidd yng Nghymru’n parhau, er gwaethaf ymdrechion i wella gwybodaeth ar gyfer pleidleiswyr ac ymgysylltiad ag etholiadau blaenorol. Mae hyn wedi’i ddangos gan y nifer isel sy’n pleidleisio, gyda’r ganran sy’n cyfranogi mewn etholiadau datganoledig byth yn cyrraedd 50%, a chanran arbennig o isel yn pleidleisio ymhlith y rhai dan 35 oed.[15]

Gofynnodd adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau lleol 2022 yng Nghymru nifer o gwestiynau ynghylch a oedd pobl yn gallu cael gafael ar ddigon o wybodaeth am yr etholiadau. Ym mhob un o’r cwestiynau ynghylch gwybodaeth, dywedodd pobl ifanc 16-24 oed yn gyson eu bod yn ei chael yn anodd cael gafael ar wybodaeth am ystod eang o agweddau’n ymwneud â’r etholiadau.[16] Yn gyffredinol, dywedodd 28% o bobl nad oeddent yn gwybod digon am beth oedd yr etholiad yn ei gylch.[17] Dywedodd 34% o bobl nad oedden nhw’n gwybod digon am yr ymgeiswyr yn yr etholiad i wneud penderfyniad gwybodus.[18]

Ar hyn o bryd mae’r cyfrifoldeb ar y pleidleisiwr i fynd ati i ddod o hyd i wybodaeth cyn etholiad ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn llawer o wahanol fannau ar hyn o bryd. Mae ERS Cymru a Grŵp Democratiaeth Cymru wedi galw am ‘siop un stop’ i bleidleiswyr gael mynediad hawdd at wybodaeth am etholiadau sydd i ddod. Gallai llwyfan gwybodaeth ar-lein i bleidleiswyr ddarparu’r ‘siop un stop’ hon, ar wefan hygyrch y gellir ei chwilio’n hawdd, er enghraifft ar wefan benodol ‘pleidleisio.cymru’.

O ran pa wybodaeth y dylai’r wefan hon ei chynnwys neu gyfeirio ati, mae yna nifer o feysydd penodol y gwyddom yr hoffai pleidleiswyr gael rhagor o wybodaeth amdanynt.

Y meysydd sylfaenol fyddai:

  • Cofrestru – sut i gofrestru i bleidleisio
  • Beth mae’r etholiad yn ei gylch – e.e. beth mae’r Senedd yn ei wneud, sut mae’n berthnasol i Lywodraeth Cymru a beth yw rôl Aelodau’r Senedd
  • Pwy yw’r ymgeiswyr – gyda dolen i ddatganiadau personol
  • Y broses o fwrw pleidlais – sut i ddod o hyd i orsaf bleidleisio, gwahanol opsiynau pleidleisio a beth i’w ddisgwyl ym mhob un (e.e. beth allwch chi ei ddisgwyl mewn gorsaf bleidleisio a sut i fwrw pleidlais yno)
  • Ble i geisio cyngor a chymorth – byddai hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cwestiynau am hygyrchedd

Gallai fod achos hefyd dros gynnig dolen sy’n cysylltu â maniffestos y pleidiau sy’n sefyll yn yr etholiad sydd dan sylw.

Mae rhywfaint o’r wybodaeth hon yn bodoli eisoes, er enghraifft mae’r Clwb Democratiaeth yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio, ynghyd â theclyn chwilio i ddarganfod pwy yw eich ymgeiswyr. Mae gan y Comisiwn Etholiadol a’r Senedd rai adnoddau da iawn ar wahanol etholiadau. Mae’r Democracy Box hefyd wedi amlinellu stori democratiaeth y dylai pob dinesydd fod yn gyfarwydd â hi.  Gallai’r syniad o lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ddod â hyn i gyd at ei gilydd mewn un lle.

O ystyried bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd ei hangen eisoes ar gael, byddai ymarfer mapio o gymorth mawr wrth gynllunio’r llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr.

Rydym hefyd wedi gweld rhywfaint o brofi ar syniadau mewn rhai awdurdodau lleol, a chredwn y gallai fod yn werth chweil eu rhannu’n ehangach. Er enghraifft ym Merthyr ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2022 roedd datganiad ar gael ar gyfer llawer o’r ymgeiswyr, yn dweud pwy oedden nhw a pham eu bod eisiau bod yn gynghorydd. Gallai adeiladu ar waith safle’r Clwb Democratiaeth https://whocanivotefor.co.uk/, lle gellir dod o hyd i ddatganiadau ar gyfer rhai ymgeiswyr, fod yn ddefnyddiol iawn pe bai’n cael ei gyflwyno ar lefel genedlaethol, er bod y nifer yn amrywio o un ardal i’r llall. Gallai cynnig cyfle i ymgeiswyr ychwanegu datganiad fel rhan o’r pecynnau enwebu roi hwb i nifer yr ymgeiswyr sy’n manteisio ar y cyfle hwn a, phe bai’r wybodaeth yn cael ei chadw ar lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr, gallai ddarparu llawer mwy o wybodaeth iddynt am eu hymgeiswyr.

O ran pwy ddylai gynnal y platfform, efallai mai un opsiwn fyddai rhoi’r rôl hon i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd ar gyfer Cymru. Byddai hwn yn lle annibynnol i gadw gwybodaeth o’r fath, ac ar wahân i’r llywodraeth, tra’n parhau i sicrhau uniondeb a chywirdeb gwybodaeth.

Gwella addysg dinasyddiaeth yng Nghymru

Yn 2018 ymgymerodd ERS Cymru â phrosiect o’r enw Clywed Ein Lleisiau, a aeth i 11 o ysgolion ledled Cymru a gofyn i’r garfan gyntaf o bobl ifanc 16 ac 17 oed a fyddai’n gymwys i bleidleisio yn 2021 sut i wella addysg dinasyddiaeth.[19] Dywedodd y 200 o bobl ifanc y siaradwyd â nhw wrthym fod diffyg addysg ddemocrataidd mewn ysgolion ac argymhellwyd ystod o fesurau gan gynnwys;

  • Addysg dinasyddiaeth statudol mewn ysgolion yng Nghymru
  • Pecyn cymorth annibynnol ar gyfer athrawon i gynorthwyo addysg dinasyddiaeth
  • Lle i drafod a dadlau ynghylch digwyddiadau cyfoes o fewn amser dosbarth, gwersi addysg dinasyddiaeth a gwersi ABCh
  • Ffug etholiad cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc (sydd ers hynny wedi cael ei fabwysiadu gan swyddfa Comisiynydd Plant Cymru gyda’r Prosiect Pleidlais)
  • Adnodd ar-lein adeg etholiad i bobl gael gwybod am ymgeiswyr sy’n sefyll yn eu hardal ac i anfon cwestiynau atynt
  • ‘Gwersi Bywyd’ mewn gwersi ABCh i gynnwys addysg ariannol
  • Gwell cefnogaeth i ysgolion allu croesawu amrywiaeth o wleidyddion (a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan raglen Deialog Ddigidol y Prosiect Gwleidyddiaeth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru).

 

Ers cyhoeddi Clywed Ein Lleisiau, mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i gyflwyno ac mae llawer o newidiadau i addysg dinasyddiaeth yn cael eu cynnig, gyda dull llawer mwy cyfannol o integreiddio trafodaethau gwleidyddol i agweddau bob-dydd o’r system addysg yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd hyn yn datrys llawer o’r materion a nodwyd o fewn y prosiect Clywed Ein Lleisiau, a bod y cwricwlwm yn ddigonol i roi dealltwriaeth dda o’n democratiaeth i bob person ifanc yng Nghymru.

 

Fodd bynnag, rydym yn dal i bryderu bod angen gwell cymorth ar athrawon yng Nghymru i ddarparu addysg dinasyddiaeth o dan y cwricwlwm newydd i Gymru. Canfu adroddiad Missing Link gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Lythrennedd Gwleidyddol mai dim ond un y cant o athrawon ysgolion uwchradd yn Lloegr sy’n teimlo’n gwbl barod i addysgu gwleidyddiaeth, er bod 60% yn teimlo’n gyfrifol am ddatblygu sgiliau llythrennedd gwleidyddol eu myfyrwyr.[20] Er bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar Loegr, yn anecdotaidd mae athrawon yng Nghymru wedi rhannu pryderon tebyg. Dylid blaenoriaethu hyfforddiant a chymorth i athrawon ar addysg dinasyddiaeth.

 

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau nad oes loteri côd-post ar gyfer ysgolion o ran pa adnoddau sydd ar gael iddynt. Fel yr amlinellwyd gennym yn ein hymatebion i gwestiynau 45 a 46, mae nifer enfawr o adnoddau eisoes ar gael i ysgolion eu defnyddio, ond nid oes unrhyw sicrwydd eu bod yn ymwybodol o hyn. Byddai’n ddefnyddiol i ysgolion gael eglurder ynghylch yr adnoddau gwych sydd ar gael, yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau fel Prosiect Pleidlais neu’r rhaglen Deialog Ddigidol.

Rôl pleidiau gwleidyddol wrth ddatblygu deunyddiau ymgyrchu mwy hygyrch

Cyn etholiadau’r Senedd yn 2021 ysgrifennodd ERS Cymru, ar ran Grŵp Democratiaeth Cymru (y Gweithgor Ymgysylltu ag Etholiadau ar y pryd), at arweinwyr pleidiau yng Nghymru gan ofyn iddynt ddarparu fersiynau hygyrch a chydnaws â phobl ifanc o’u maniffestos. Ychydig iawn o ymateb a gawsom, gyda dim ond un blaid yn gwneud hyn mewn gwirionedd ac un arall yn ymateb gan ddweud y byddent yn cael trafodaethau gyda’u tîm. Yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2022 cynhaliodd Grŵp Democratiaeth Cymru a’r Prosiect Gwleidyddiaeth weithdy ar y cyd i ystyried yr hyn y gellid ei wella o amgylch etholiadau datganoledig. Yr argymhelliad pennaf oedd “Dylid darparu gwybodaeth i bleidleiswyr mewn fformatau mwy hygyrch; megis print bras, sain, braille, ieithoedd ychwanegol neu’n electronig. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau ymgyrchu drwy’r post ac ar-lein. Dylai hyn fod yn ddiofyn i bleidiau gwleidyddol a sefydliadau gwleidyddol, yn hytrach na rhywbeth ychwanegol nad yw’n cael ei ystyried yn aml.”[21] Anfonwyd yr argymhellion hyn at y gweinidog perthnasol ac arweinwyr pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Mae gan bleidiau gwleidyddol rôl enfawr i’w chwarae wrth estyn allan at ddarpar bleidleiswyr a darparu gwybodaeth dda, hygyrch, amserol a chlir. Ar hyn o bryd credwn y gallent fod yn gwneud llawer mwy, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylai fersiynau hawdd eu darllen a chydnaws â phobl ifanc o faniffestos fod ar gael ym mhob etholiad ar yr un pryd y cyhoeddir y maniffesto llawn.
  • Dylid ystyried ieithoedd ychwanegol hefyd, a dylai maniffestos pob plaid gynnig fformatau hygyrch.

Er mwyn hwyluso’r uchod, gellid datblygu canllawiau ar gyfer creu deunyddiau hygyrch a hawdd eu darllen ar gyfer etholiadau. Credwn y dylai’r canllawiau hyn fod yn annibynnol.

Ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio

Rydym yn cytuno y dylid darparu cymorth i sicrhau bod pobl anabl yn gallu pleidleisio, ond nodwn fod pryderon wedi’u codi’n flaenorol gan amrywiaeth o elusennau anableddau ynghylch y defnydd o’r geiriad ‘fel sy’n rhesymol’ sy’n ymddangos yn y Ddeddf Etholiadau 2022.[22] Mae’r pryderon hynny, y gallai’r datganiad wanhau gofynion yn anfwriadol, yn berthnasol yma hefyd. Nododd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol (PACAC)[23] y pryderon hyn gan ailddatgan eu cefnogaeth i safonau sy’n “ceisio sicrhau bod pobl yn gallu pleidleisio’n annibynnol lle bo modd iddynt wneud hynny”. Dylai Llywodraeth Cymru weithio’n agos gydag elusennau anabledd i leddfu’r pryderon hyn yn y cyd-destun hwn, yn ogystal â darparu digon o offer ym mhob gorsaf bleidleisio i sicrhau ei bod yn hawdd i bobl anabl bleidleisio.

Camdriniaeth o ymgeiswyr

Rydym yn cefnogi’r argymhellion a nodir yn y Papur Gwyn i leihau achosion o gamdriniaeth o ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae nifer o ffyrdd y gellid ymhelaethu ar yr argymhellion hyn er mwyn cryfhau diogelwch ymgeiswyr.

Tystiolaeth – Datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer camdriniaeth o ymgeiswyr:

Gallai casglu tystiolaeth ynghylch y math o gamdriniaeth a pha mor aml y daethpwyd ar ei draws helpu i wneud iawn am y diffyg tystiolaeth fanwl yn y maes hwn ar hyn o bryd. Serch hynny, ni fydd angen i unrhyw broses o gasglu data o’r math hwn roi pwysau ychwanegol ar yr ymgeisydd. Gallai arolwg ôl-etholiad o’r holl ymgeiswyr, ynghyd ag arolygon blynyddol o gynghorwyr presennol, fod yn llwybr tuag at barhau i gasglu data. Byddai proses adrodd sydd ar gael ar unrhyw bryd hefyd yn golygu y gallai ymgeiswyr adrodd am achosion o gamdriniaeth yn eu hamser eu hunain. Gallai darparu mecanwaith sydd hefyd yn galluogi trydydd parti i adrodd am achosion o gamdriniaeth leihau’r pwysau ar ymgeiswyr a chynghorwyr, gan ganiatáu i sefydliadau annibynnol eraill a/neu bobl sydd wedi dod ar draws camdriniaeth ar-lein sydd wedi’i anelu at berson penodol gyflwyno adroddiadau.

Cyfathrebu – Strategaeth llythrennedd o ran y cyfryngau:

Yn eu Cyfarfod Briffio ynghylch y Bil Diogelwch Ar-lein, mae Grŵp Gweithredu’r Canmlwyddiant[24] yn cydnabod pa mor ddefnyddiol fyddai strategaeth llythrennedd o ran y cyfryngau, a allai helpu i leihau camdriniaeth drwy wreiddio nodweddion allweddol dinasyddiaeth ddigidol, tynnu’r cyfrifoldeb o fynd i’r afael â chamdriniaeth oddi ar y dioddefwr unigol a gwneud y gofod ar-lein yn lle mwy diogel i bawb. Mae’r nodweddion allweddol hyn, a ddatblygwyd gan Glitch[25], yn cynnwys:

  1. Hunan-amddiffyniad Digidol: Defnyddio offer ar-lein i amddiffyn ein hunain ac eraill mewn lleoliadau ar-lein
  2. Hunanofal Digidol: Creu ffiniau mewn lleoliadau digidol i ofalu am ein llesiant
  3. Sylwedyddion Gweithredol Ar-lein: Beth i’w wneud pan welwch rywun arall yn dioddef camdriniaeth ar-lein
  4. Atebolrwydd Cwmnïau Technoleg: Deall sut i ddal cwmnïau technoleg yn atebol

Dylai unrhyw ymgyrch gyfathrebu gynnwys y nodweddion allweddol uchod.

Costau – Eithrio unrhyw wariant angenrheidiol sy’n ymwneud â diogelwch o’r terfyn ar wariant etholiadol:

Mae ERS Cymru’n croesawu’r mesur hwn i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn cael ei effeithio’n negyddol yn sgil gwario posibl ar fesurau diogelwch. Fodd bynnag, gall y gwariant sylweddol ar ddiogelwch a all fod yn angenrheidiol fod yn rhwystr i rai ymgeiswyr rhag sefyll. Yn yr achosion hyn gellid darparu cymorth ariannol drwy’r gronfa Mynediad i Swydd Etholedig o dan gylch gwaith ehangach. O ystyried y dystiolaeth gan fudiad Her Right Her Net bod menywod 27 gwaith yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth ar-lein na dynion[26] ac adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Diwygio Cyfraith ac Ymarfer Etholiadol sy’n nodi bod tystiolaeth yn dangos y gall camdriniaeth fod ar sail rhywedd neu hil,[27] credwn y byddai asesiad o sut y gallai’r gronfa Mynediad at Swyddi Etholedig helpu i ariannu mesurau diogelwch yn ddefnyddiol.

Cymorth a Chyngor:

Rydym yn cefnogi’r argymhelliad a wnaed yng nghyfarfod briffio Grŵp Gweithredu’r Canmlwyddiant sy’n amlygu y dylai unrhyw gymorth fod ar gael ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, a hynny mewn modd amserol.

Addewid Ymgyrchu:

Byddai gennym ddiddordeb mewn gweld gwerthusiad o addewid Ymgyrch Deg a Pharchus – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) – o safbwynt a oedd ymgeiswyr yn meddwl bod yr addewid hwn yn effeithiol o ran lleihau nifer yr achosion o gamdriniaeth, cyn mynd ati i gyflwyno addewidion tebyg yn ehangach yn y dyfodol.

Datganiad y Personau a Enwebir

Byddem yn cefnogi diwygiad yn y ffurflen Datganiad y Personau a Enwebir (SOPN) sy’n dileu cyhoeddi cyfeiriadau cartref yn gyfan gwbl, ac yn hytrach yn defnyddio disgrifiad cyffredinol o’r cymwysterau daearyddol ar gyfer ymgeisydd sy’n sefyll. Gallai datganiad sy’n cadarnhau bod yr ymgeisydd dan sylw’n byw o fewn y ward y mae’n sefyll ynddi helpu i sicrhau bod pleidleiswyr yn parhau’n hyderus bod yr ymgeisydd hwnnw’n rhan o’r gymuned leol.

Roedd adroddiad ERS Cymru 2018 ‘Lleisiau Newydd‘ yn cynnwys cyfweliadau â nifer o aelodau etholedig yn San Steffan, Senedd Cymru ac yn rhai o awdurdodau lleol Cymru. Fe wnaethom hefyd gynnal arolwg ymhlith cynrychiolwyr etholedig ledled Cymru, a dywedodd bron i hanner y rhain (45.5%) iddynt ddioddef rhyw fath o gamdriniaeth, camwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod eu gwaith.[28]

Yn yr adroddiad hwnnw gwnaethom nifer o argymhellion i fynd i’r afael â chamdriniaeth, gan gynnwys cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddatblygu technegau awtomataidd ar gyfer dynodi ymddygiad bygythiol a’i ddileu. Awgrymwyd yn ogystal y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol hefyd gynnig offer i ddefnyddwyr uwchgyfeirio adroddiadau am weithgarwch anghyfreithlon ar-lein i’r heddlu.

Gwnaethom hefyd argymell y dylai pleidiau gwleidyddol Cymru ddatblygu côd ymddygiad ar y cyd ar gyfer ymddygiad bygythiol. Dylid cynnig gwell hyfforddiant ac arweiniad i ymgeiswyr ar gamdriniaeth yn y cyfryngau cymdeithasol hefyd, fel yr argymhellwyd hefyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn 2017.[29]

Ers hynny rydym wedi gweithio gyda Grŵp Gweithredu’r Canmlwyddiant, a ddatblygodd bapur briffio ar Fesur Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU.[30] O ystyried natur y dasg, fe ganolbwyntiwyd ar gamdriniaeth yn y cyfryngau cymdeithasol gan ddyfynnu canfyddiad Her Net Her Right bod menywod 27 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef aflonyddu ar-lein na dynion.[31]

Mae’n amlwg bod yna angen sicrhau bod rheoleiddio ar-lein yn helpu i fynd i’r afael â chamdriniaeth yn y byd gwleidyddol.

Ffurfioli ac ymestyn y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig

Rydym yn cytuno bod angen deddfwriaeth sylfaenol i sicrhau parhad y gronfa a’i hamddiffyn rhag unrhyw fympwyon gwleidyddol neu dro-pedol yn y dyfodol.

Er bod angen data cryfach arnom ynghylch yr union ffigurau, gwyddom nad yw amrywioldeb y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru ar hyn o bryd yn adlewyrchu amrywioldeb poblogaeth Cymru. Os ydym yn mynd i wella amrywioldeb ymgeiswyr mewn etholiadau datganoledig, mae angen i ni ystyried sut i oresgyn y rhwystrau y mae llawer o bobl sy’n perthyn i’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn eu hwynebu wrth ystyried a ddylent sefyll mewn etholiad.

Rydym yn croesawu sefydlu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig bresennol, sydd wedi cynnig cymorth i ymgeiswyr anabl yn y Senedd ac mewn etholiadau lleol.

Credwn y dylai’r gronfa barhau a chael ei diogelu o fewn deddfwriaeth sylfaenol. Credwn hefyd fod achos dros ymestyn y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i gynorthwyo gyda’r costau y mae pobl sy’n perthyn i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn eu hwynebu. Er enghraifft, gallai talu costau gofal plant yn ystod ymgyrch fod yn ddefnyddiol i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofal plant. Dylid cynnal asesiad o ba gostau sy’n creu rhwystrau i ymgeiswyr.

Sylwadau Ychwanegol

Er nad yw’r Papur Gwyn hwn yn cynnwys unrhyw ymgynghoriad ar ddiwygio’r Senedd, mae’n bwysig ystyried y ddau faes o ddiwygio’n ehangach wrth ddatblygu democratiaeth yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod wedi gweld cynigion gan y Pwyllgor Diben Arbennig yn sicrhau cefnogaeth gref yn y Senedd, yn enwedig o ran cynyddu maint y Senedd a gwella ei hamrywioldeb. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn ynglŷn â’r system etholiadol rhestr gaeedig arfaethedig, sy’n cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac sy’n ymddangos fel pe bai’n mynd yn groes i’r egwyddorion diwygio etholiadol a amlinellir yn y Papur Gwyn, yn ogystal ag egwyddorion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad o ran systemau etholiadol.

[1] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/our-views-and-research/our-research/advance-voting-pilots-evaluation

[2] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/our-views-and-research/our-research/accuracy-and-completeness-electoral-registers/2019-report-2018-electoral-registers-great-britain/national-estimates-accuracy-and-completeness

[3] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/changing-electoral-law/a-modern-electoral-register/modernising-electoral-registration-feasibility-studies

[4] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/democracy-in-the-dark-digital-campaigning-in-the-2019-general-election-and-beyond/

[5] https://www.gov.scot/binaries/content/documents/govscot/publications/consultation-paper/2022/12/electoral-reform-consultation/documents/electoral-reform-consultation/electoral-reform-consultation/govscot% 3Adocument/electoral-reform-consultation.pdf

[6] https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2022/37/section/41/enacted

[7] https://www.ukvotingage.co.uk/wp-content/uploads/2021/11/Huebner-et-al_2021_Making-Votes-at-16-work-in-Wales.pdf

[8] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56770072

[9] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/elections-and-referendums/past-elections-and-referendums/wales-local-council-elections/report- Mai-2022-etholiadau-cymru

[10] https://www.gov.scot/binaries/content/documents/govscot/publications/consultation-paper/2022/12/electoral-reform-consultation/documents/electoral-reform-consultation/electoral-reform-consultation/govscot% 3Adocument/electoral-reform-consultation.pdf

[11] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/our-views-and-research/our-research/advance-voting-pilots-evaluation

[12] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/our-views-and-research/our-research/advance-voting-pilots-evaluation

[13] Ibid.

[14] Ibid.

[15] https://www.electoralcommission.org.uk/who-we-are-and-what-we-do/elections-and-referendums/past-elections-and-referendums/wales-local-council-elections/report- Mai-2022-etholiadau-cymru

[16] Ibid

[17] Ibid

[18] Ibid

[19] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/our-voices-heard-young-peoples-ideas-for-political-education-in-wales/

[20] https://www.shoutoutuk.org/wp-content/uploads/2021/11/REPORT_souk2021_view_v8-1.pdf

[21] Grŵp Democratiaeth Cymru, 2022. Argymhellion i wella ymgysylltiad a chyfranogiad gwleidyddol mewn etholiadau yn y dyfodol. Ar gael yma: https://docs.google.com/document/d/1ynVVkggzWE4vNbTd4JOzc7ExSu2XuLhS3qpClEdazp8/edit?usp=sharing

[22] https://publications.parliament.uk/pa/cm5802/cmselect/cmpubadm/597/report.html#heading-4

[23] https://publications.parliament.uk/pa/cm5802/cmselect/cmpubadm/597/report.html#heading-4

[24] https://static1.squarespace.com/static/5f6c6785a30f513e35cda046/t/614ca4226972ec62222dd0b7/1632412706796/CAG+Joint+Briefing+Online+Safety+9Bill.

[25] https://glitchcharity.co.uk/our-campaigns/

[26]  Her Net Her Rights – Mapio’r sefyllfa o ran trais ar-lein yn erbyn menywod a merched yn Ewrop

[27] https://www.wcpp.org.uk/publication/reform-of-electoral-law-and-practice/

[28] https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/new-voices-how-welsh-politics-can-begin-to-flect-wales/#sub-section-12

[29] https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/666927/6.3637_CO_v6_061217_Web3.1__2_.pdf

[30] https://static1.squarespace.com/static/5f6c6785a30f513e35cda046/t/614ca4226972ec62222dd0b7/1632412706796/CAG+Joint+Briefing+Online+Safety+9Bill.

[31]  Her Net Her Rights – Mapio’r sefyllfa o ran trais ar-lein yn erbyn menywod a merched yn Ewrop

Darllen mwy o bostiadau...